Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:16 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb ac am y sicrwydd hwnnw. Fe fydd ef, wrth gwrs, fel yr ydym ni i gyd, rwy'n siŵr, yn ymwybodol bod yr argyfwng hwn wedi effeithio'n fwy difrifol ar rai carfannau o'r boblogaeth nag ar eraill. Rydym ni'n gwybod, er enghraifft, am yr effaith economaidd ar fenywod ac effaith tymor hwy gorfod gwneud mwy o ddyletswyddau domestig ar yr un pryd â gweithio gartref ac, wrth gwrs, effaith y feirws ar bobl ddu a phobl o liw.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn hyderus bod y cyngor y mae ef wedi gallu ei ddarparu wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi arfer ei dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus yn y ffordd yr ymatebodd? Yn anecdotaidd, fy argraff i yw y gwnaed ymdrechion i wneud hynny, yn sicr. Ond mae'n bwysig iawn, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi, wrth inni symud allan o'r argyfwng, ein bod yn sicrhau bod yr effeithiau anghymesur hyn ar rannau o'n cymuned sydd eisoes yn agored i niwed yn cael eu cynnwys yn ein cynlluniau i ailadeiladu ac i ddatblygu'r economi.