Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:28 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Ar gefn beth rydych chi newydd ddweud, Weinidog, mae nifer o esiamplau dros yr wythnosau diwethaf o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn anwybyddu safbwyntiau rydych chi fel Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd ac wedi gosod mewn llythyrau—er enghraifft dros ehangu'r cyfnod pontio a nifer o fesurau eraill rydych chi newydd eu crybwyll. Felly, a fyddech chi'n cytuno bod eich safbwynt chi o fod yn hapus tu mewn i'r undeb Brydeinig a pharhau i gael eich anwybyddu—a fyddech chi'n cytuno nad ydy hynny ddim yn ateb blaenoriaethau Cymru?