Strwythurau Rhynglywodraethol

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:29 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:29, 1 Gorffennaf 2020

Wel, nid dyna'r ddau ddewis, gyda phob parch. Y dewis yw ein bod ni'n cael ffurf o undeb lle mae llais Cymru, Llywodraeth Cymru a phobl Cymru, drwy'r Senedd, yn cael eu hadlewyrchu'n addas yn y berthynas a'r system rynglywodraethol. Dŷn ni ddim yn dweud bod dim modd gwella ar y sefyllfa bresennol. Wrth gwrs, i'r gwrthwyneb. Nid amddiffyn y sefyllfa bresennol ydyn ni, ond cyflwyno ymgais adeiladol i gael system amgen ar draws undeb y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r amser wedi hen basio lle bo hyn yn argyfyngus, a dweud y gwir, ac mae Llywodraeth Cymru ar bob achlysur wedi cymryd safbwynt adeiladol a chydweithredol, a disgrifio'r system y buasem ni'n disgrifio o ran Cymru a'n buddiannau ni. Mae galw nawr, rwy'n credu—yn sgil ein profiad ni yn benodol yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, a hefyd o ran y system rynglywodraethol yng nghyd-destun COVID, mae angen i hynny ddigwydd nawr ar frys.