Effaith COVID-19 ar Hawliau Dynol

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:18 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 12:18, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Cwnsler Cyffredinol, rydych hi'n ymwybodol mai plant yw un o'r grwpiau yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau symud, ac yng ngoleuni Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, erthyglau 28 a 29, tybed pa gyngor yr ydych chi'n ei roi ar sut rydym ni'n mynd i sicrhau bod pob plentyn yn mynd i allu cael addysg wrth symud ymlaen ym mis Medi.