Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeiadd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 12:19 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn hwnnw. Cafodd y penderfyniad i gynyddu gweithrediadau mewn ysgolion o 29 Mehefin ei lywio, mewn gwirionedd, gan ddull a oedd yn seiliedig ar gyfle cyfartal i fanteisio ar addysg. Mae gan bob dysgwr yr hawl i addysg ac i gael ei gefnogi yn y dysgu hwnnw, fel sy'n glir o'r cwestiwn a ofynnodd imi, a nod y dull graddol yw lliniaru'r effaith andwyol ar ddysgwyr a achosir gan COVID-19. Fel Llywodraeth, rydym ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i amddiffyn hawliau plant fel y nodir yn y confensiwn y mae hi'n cyfeirio ato, ac rydym yn amlwg yn ystyriol o'n rhwymedigaethau mewn cysylltiad â phlant o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 hefyd. Felly, rwyf eisiau sicrhau'r Aelod bod yr ystyriaethau hynny yn parhau i fod ar flaen ein meddwl o ran dychwelyd gweithrediadau i'r ysgol ac yn fwy cyffredinol, a hefyd hoffwn ei hatgoffa hi ac eraill am y gwaith a wnaed gennym i ymgynghori â phlant a phobl ifanc mewn cysylltiad ar effaith coronafeirws ar eu bywydau, a oedd ynddo'i hun yn adlewyrchiad o'r rhwymedigaethau arnom ni o dan Erthygl 12, rwy'n credu, o'r confensiwn, sy'n rhoi'r hawl i lais, fel petai, i blant a phobl ifanc.