Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:30, 1 Gorffennaf 2020

Prynhawn da. Mae effaith economaidd y pandemig ar y diwydiant creadigol cyfrwng Cymraeg wedi bod yn anferthol, efo nifer o'r diwydiannau creadigol yn dibynnu ar ddod â pobl at ei gilydd. Rhain oedd y sectorau cyntaf i gau lawr, ac mae'n debyg maen nhw fydd ymhlith y rhai olaf i allu dychwelyd i lefel o weithgaredd sy'n fasnachol hyfyw. Mae o'n sector sylweddol iawn yma yn y gogledd, efo 14,000 o bobl yn gweithio i'r sector—sector cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, wrth gwrs—ond ar hyn o bryd does yna ddim arwydd bod yna gymorth pellach yn dod o San Steffan. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael efo'r Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant am gymorth i'r sector creadigol cyfrwng Cymraeg, o gofio bod y Dirprwy Weinidog wedi dweud yr wythnos diwethaf ei fod o yn fodlon meddwl am ail-asesu'r cymorth sydd ar gael i'r celfyddydau?