Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Dwi'n meddwl os ydych chi'n edrych ar beth mae cyngor y celfyddydau wedi ei wneud o ran eu cyllid nhw, maen nhw wedi ailstrwythuro'r cyllid, wedi deall bod yna greisis o ran y diwydiant, ac wedi sicrhau bod yna fodd i bobl ymgeisio ar gyfer arian trwy'r broses maen nhw wedi setio i fyny, a dwi'n ddiolchgar iawn bod Dafydd Elis-Thomas wedi arwain yn y gwaith yna. Ac, wrth gwrs, mae yna gyfle tu fewn i hynny i bobl sydd yn gweithio'n greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg i gael access i'r arian yna. Dyw hynna ddim yn ddigon. Rŷn ni'n ymwybodol iawn bod yna greisis ymysg y celfyddydau ar hyn o bryd.
Ein gobaith, wrth gwrs, yw y bydd Llywodraeth San Steffan yn dod lan â phecyn newydd o arian, ac, os bydd hynny'n digwydd, fe fyddem ni'n obeithiol iawn y byddem ni'n gallu rhoi siâr sydd yn briodol i Gymru i geisio rhoi rhywbeth o'r newydd fydd yn sicrhau bod yna rywfaint o gymorth i'r sector. Mae'r sector yma wedi tyfu yn aruthrol dros y 10 mlynedd diwethaf yma. Mae tua 50,000 o bobl nawr ar draws Cymru yn gweithio yn y sector yma, ac felly fe fyddai hi'n druenus os byddem ni'n colli'r cyfle yma i adeiladu ar yr hyn oedd eisoes mewn lle. Ond, wrth gwrs, mae hi'n ergyd ar hyn o bryd, ac mae lot o swyddi yn y maes yma yn swyddi sydd ddim yn llawn amser; dŷn nhw ddim yn rhai lle mae pobl yn gallu dibynnu ar gyflog yn aml. Felly, wrth gwrs, rŷm ni'n ymwybodol iawn o hyn, ond yn gobeithio ac yn gwthio Llywodraeth Prydain i sicrhau y byddan nhw yn derbyn y sefyllfa yna, ac wedyn efallai yn rhoi arian i ni.