Cyhoeddiadau Cymraeg

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:18, 1 Gorffennaf 2020

Ddirprwy Weinidog, mae Hwb wedi bod yn elfen sylfaenol o addysg gartref yn ystod y tri mis diwethaf. Rwyf hyd yn oed yn dal i gael gohebiaeth gan rieni sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd ddim yn teimlo eu bod nhw wedi bod mewn sefyllfa i helpu eu plant sy'n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Fydd e'n bosib i chi siarad â'r Gweinidog Addysg am sut y gallai copïau o bapurau bro gael eu lanlwytho, efallai, fel adnoddau addysg ar gyfer rhieni a'u plant? Mae yna esiamplau da o sut mae geiriau ysgrifenedig a llafar yn swnio yn y fro ac, wrth gwrs, maen nhw'n mynd i fod yn adnoddau defnyddiol iawn i bob ysgol pan fyddant yn ystyried y cwricwlwm lleol newydd.