Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wel, mae'r papurau bro bellach—o leiaf eu hanner nhw, rydw i'n credu—yn cael eu cyhoeddi yn ddigidol, ac felly maen nhw ar gael ar-lein fel cyfrwng y gall pobl ei ddefnyddio. Fe fuaswn i'n annog y papurau bro i fanteisio ar gefnogaeth y cyngor llyfrau—ac felly trwy'r cyngor llyfrau, Llywodraeth Cymru—er mwyn galluogi mwy o bobl i allu manteisio ar ddeunydd digidol Cymraeg lleol. Diolch.