Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wel, fe fyddwn i jest yn dweud mod i yn cael trafodaethau eithaf dwys gyda'r Gweinidog Addysg ar y mater yma. Wrth gwrs, byddwn i'n gofidio'n enbyd pe byddai yna unrhyw achos lle byddai hynny'n cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg. Felly, mae'n bwysig sicrhau ei bod hi'n bosibl parhau i drochi plant trwy gyfrwng y Gymraeg ac nad oes dim anawsterau yn y maes yna, a hefyd ein bod ni'n edrych ar y ffaith, erbyn 2050, ein bod ni eisiau gweld 40 y cant o'n plant ni'n cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'r materion yma'n cael eu codi ac, wrth gwrs, dwi'n gobeithio, pan fydd y Bil yn cael ei gyhoeddi mewn ffordd ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf, y bydd pethau mewn lle lle y byddaf i'n gyfforddus gyda nhw ac, wrth gwrs, y bydd pobl sydd yn poeni am yr iaith Gymraeg yn gyfforddus gyda nhw hefyd.