Bil y Cwricwlwm Arfaethiedig ar yr Iaith Gymraeg

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:59, 1 Gorffennaf 2020

Dwi'n gwybod mai'r peth olaf yr ydych chi eisiau ei weld ydy fod y cwricwlwm newydd yn cael effaith andwyol o ran uchelgais eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr, neu, yn wir, yn tanseilio eich ymdrechion chi mewn unrhyw ffordd. Yn wir, byddai unrhyw Weinidog y Gymraeg am edrych am gyfleon i gryfhau'r Gymraeg drwy'r ddeddfwriaeth newydd yma. Ond os profir i chi y bydd gan y Bil yma ganlyniadau anfwriadol—unintended consequences—fydd yn niweidiol i'r Gymraeg, a fyddwch chi wedyn yn fodlon cefnogi ymdrechion i newid yr hyn fydd ar wyneb y Bil? Hynny yw, os daw hi'n glir yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd y byddai'r Ddeddf yn niweidio eich uchelgais 1 miliwn o siaradwyr chi, a wnewch chi bwyso am newid?