Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch. Wel, yn sicr, dwi'n meddwl bod S4C wedi bod yn help aruthrol, yn arbennig i'r rheini sy'n dod o gartrefi di-Gymraeg, gan roi cyfle iddyn nhw wrando ar y Gymraeg, yn arbennig y plant ifanc hynny sydd yn cael cymaint o foddhad o wylio Cyw. Ac yn sicr, fel rhiant, dwi'n gwybod roedd hwnna yn ffordd i fi gael saib bach o bryd i'w gilydd pan oeddwn i'n gofalu am blant.
Ond jest i ddweud, o ran y dimensiwn digidol, rŷn ni'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Hwb, ac yn ceisio gweld sut y gallwn ni gysylltu yr hyn sy'n digwydd ar Hwb â'r adnodd digidol sydd ar gael trwy S4C. Rŷn ni eisoes wedi siarad gyda S4C ynglŷn â'r cwricwlwm newydd i weld pa adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Wrth gwrs, mae archif hir a hen gyda nhw efallai fyddai'n gallu cael ei addasu ar gyfer y cwricwlwm newydd. Felly, mae'r trafodaethau yna wedi bod yn mynd ymlaen eisoes, ac, yn sicr, bydd y rheini yn datblygu yn y dyfodol.