Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:34, 1 Gorffennaf 2020

Wel, dwi'n falch iawn eich bod chi'n cydnabod ei bod hi yn argyfwng gwirioneddol ar y sector penodol yma a bod y sector cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod ohono fo hefyd, ac y byddwch chi'n ymdrechu yn ddi-flino i wneud yn siŵr bod y sector yma yn cael cefnogaeth, boed yr arian yn dod o San Steffan ai peidio. Dwi'n credu bod angen buddsoddi yn y sector yma yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru os nad yw'r Torïaid yn San Steffan yn gweld y sector yn ddigon pwysig iddyn nhw fod yn ei gefnogi'n ariannol. 

Mae darlledu cyhoeddus wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y cyfnod cloi yma, onid ydy, efo niferoedd mawr yn troi at S4C ar gyfer cael arlwy drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ganddo fo rôl arbennig ar gyfer cefnogi a chyfleu'r iaith Gymraeg i blant, wrth gwrs, â chanran fawr o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi lle dydy'r Gymraeg ddim yn cael ei siarad, ac yn troi yn eu miloedd at Cyw ac Ysgol Cyw ar S4C, ac, ers y cloi, mae gwylwyr teledu plant S4C wedi codi 182 y cant.

Mae yna le i ddatblygu ymhellach, ac yn enwedig i ddatblygu'r dimensiwn digidol addysgol, a chyfle i wneud hynny drwy gryfhau'r bartneriaeth rhwng Hwb ac S4C Clic. Felly, wnewch chi ymrwymo i symud y gwaith yma yn ei flaen cyn gynted â phosib—y gwaith partneriaeth yma rhwng Hwb ac S4C Clic?