Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch i chi, Andrew R.T. Davies, am y rhestr hir honno o gwestiynau y ceisiaf eu hateb i gyd. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn, rydym wedi cael dwy broses ymgynghori hir, ac rydym wedi gorfod oedi'r gwaith. Nid wyf mor bell ymlaen ag y byddwn wedi eisiau bod, ond fe fyddwch yn deall, gyda'r pandemig COVID-19—dyna oedd y ffocws, ac mae'n parhau i fod yn ffocws. Ond roeddwn yn meddwl ei bod hi'n bwysig i mi gyflwyno'r datganiad hwn i'r Senedd er mwyn rhoi gwybod i'r Aelodau ble rydym yn y broses. Roeddwn eisiau sicrhau pobl y byddaf yn cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd tymor y Senedd hon. Roeddwn wedi gobeithio y byddem wedi cael Bil amaethyddol drafft, ond o ystyried hyd cyfnod pontio’r UE, ac yn amlwg, gyda’r oedi a gawsom eleni, yn amlwg ni fydd hynny’n digwydd. Ond roeddwn i'n meddwl ei bod yn galonogol iawn gweld y lefel eang o gefnogaeth i'r fframwaith rheoli tir yn gynaliadwy. Felly, bydd dadansoddiad parhaus o hynny yn awr, gyda modelu ac yn y blaen dros yr ychydig fisoedd nesaf. Rwy'n ymwybodol iawn pan oeddwn yn dweud yn fy natganiad, 'Byddaf yn gwneud hyn, byddaf yn gwneud y peth arall', ond wrth gwrs, cynhelir etholiad fis Mai nesaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cynnal y momentwm hwnnw. Mae'n bwysig iawn i'r sector amaethyddol. Felly, o’r herwydd, roeddwn i eisiau rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.
Ar y cyllid—fel rwy’n dweud, nid ydym wedi cael cadarnhad ynghylch lefel y cyllid, ond rydych yn iawn, mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd cyllid yn cael ei neilltuo i amaethyddiaeth ar gyfer y cyfnod hwn.
Mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn bwynt diddorol iawn, oherwydd rydych chi'n hollol iawn—rydych chi a minnau ac eraill wedi dadlau ynghylch nwyddau cyhoeddus, ac ynglŷn ag a yw bwyd yn nwydd cyhoeddus mewn gwirionedd, ond mae ganddo farchnad, felly ni all fod. Fodd bynnag, mae diogelwch y cyflenwad bwyd yn amlwg yn bwysig iawn. Ac fel y dywedwch, gwelsom y prynu mewn panig ar gychwyn y pandemig mewn ffordd y credem y gallai ddigwydd pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Ac yn amlwg, roedd pobl yn teimlo'n ofnus, rwy'n credu, na fyddai digon o fwyd. Ac rydych chi'n llygad eich lle, camodd ein ffermwyr i’r adwy, ynghyd â llawer o bobl yn y gadwyn cyflenwi bwyd, i wneud yn siŵr, fel gwlad, na fyddem yn mynd yn brin o fwyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.
Felly, rydym am barhau i ganolbwyntio ar y sector yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n diwallu anghenion defnyddwyr. Rydych chi'n iawn, cafwyd ymdrech wirioneddol, rwy'n credu, ar ran aelodau'r cyhoedd, i brynu bwyd a gynhyrchir yn lleol. Gwelsom gynnydd enfawr yn y defnydd o gigyddion lleol, ac rwyf wedi cael sgyrsiau diddorol iawn gyda'n cynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Mae rhai ohonynt wedi bwrw iddi gyda gwerthiannau ar-lein, er enghraifft, ac roeddem yn gallu eu cefnogi mewn perthynas â phecynnu ac ati, ac rydym am gynnal yr ymddygiad hwnnw, y bydd pobl yn parhau i brynu'n lleol. Felly, er na all ffermydd yng Nghymru gynhyrchu mwy na rhan o'r deiet amrywiol sydd ei angen arnom i gynnal iechyd—ac mae masnach yn bwysig iawn—rwy'n credu ein bod eisiau gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yn cael ei alluogi trwy fod cynnyrch o Gymru’n cael ei gefnogi gan fwyd wedi'i fewnforio, ond mae'n rhaid i'r bwyd hwnnw hefyd gyrraedd y safonau a welwn yma yng Nghymru.
Rydych chi'n iawn am y Bil amaethyddol sy'n mynd trwy Lywodraeth y DU ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl cael pwerau ganddo. Os ydym am dalu ein ffermwyr y flwyddyn nesaf, roedd hi’n bwysig iawn ein bod yn cymryd y pwerau hynny, a dyna pam y gwnaethom geisio gwneud hynny.
Fe sonioch chi am 2024, a chredaf, yn realistig, na fyddwn yn gallu pontio i gynllun newydd lawer cyn 2024, os cyn hynny o gwbl yn wir. Fe sonioch chi am hyder yn y cynllun newydd. Felly, sgyrsiau a gefais gyda llawer o ffermwyr—a chi hefyd mae’n debyg, ac yn sicr, roeddwn i'n siarad â Ffermwyr Dyfodol Cymru; cefais gyfarfod â hwy ychydig wythnosau yn ôl—nid ydynt yn credu bod cynllun y taliad sylfaenol wedi eu gwneud yn ddigon gwydn. Maent am gael y cynllun hwn oherwydd eu bod yn credu y bydd yn eu helpu i feithrin y gwytnwch hwnnw. Felly, rwy'n hyderus y bydd y canlyniadau rydym yn eu ceisio o fewn y cynllun hwn yn sicrhau bod gennym y sector amaethyddol gwydn hwnnw rydym ei eisiau.
O ran y symleiddio, rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Nid ydym wedi gweithio ar fanylion hynny. Unwaith eto, dyna un peth sydd wedi cael ei ohirio dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ond fel y dywedaf, byddwn yn lansio ymgynghoriad—mae'n dweud yn fy nodiadau, 'yn yr haf', ond yn amlwg, mae’n haf eisoes, felly nid wyf yn hollol siŵr. Ond yn sicr nid wyf mewn sefyllfa i allu gwneud hynny yn ystod yr haf gwleidyddol eto.
Fe sonioch chi am Taliadau Gwledig Cymru, ac rwy’n ddiolchgar i Archwilio Cymru am yr adroddiad hwnnw, ac yn amlwg bydd swyddogion yn ymateb iddo maes o law ac yn darparu tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a dyna’r union le y dylid ei ystyried yn briodol. Fodd bynnag, rwyf am ddweud—a chredaf fod yr adroddiad yn gwneud hyn yn glir iawn—gwerth am arian yw'r broblem. Ni chafodd ei brofi’n iawn wrth arfarnu prosiectau, a gwn fod swyddogion wedi adolygu’r prosiectau dan sylw i sicrhau eu bod yn sicrhau gwerth am arian yn ymarferol a lle bo’n briodol yn rhoi camau ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni gwerth am arian, gan gynnwys aildendro rhai o’r prosiectau. Felly, roedd gwaith eisoes wedi'i wneud yn rhai o'r meysydd, felly mae gennyf hyder yn Taliadau Gwledig Cymru ac maent wedi gweithio'n galed iawn ar y broses hon a sicrhau bod y cynllun yn dod yn destun ymgynghoriad. Fel y dywedaf, nid ydym mor bell ymlaen ag y byddwn wedi dymuno bod, ond yn amlwg—. Rwy'n credu bod y cam nesaf yn fwy cyffrous yn ôl pob tebyg, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni oedi yn awr, ystyried yr ymatebion, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau wedi darllen y ddogfen.