3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 8 Gorffennaf 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg i blant gweithwyr allweddol? OQ55407
Diolch, Russell. Ar 3 Mehefin, cyhoeddais y byddai pob disgybl yng Nghymru, gan gynnwys plant gweithwyr hanfodol, yn cael cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer yr haf a mis Medi o 29 Mehefin ymlaen.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'r ateb yn glir ynddo'i hun, ond mae un o fy etholwyr wedi dweud wrthyf ei fod yn poeni bod plant gweithwyr allweddol sy'n mynychu'r hybiau gofal plant hefyd wedi'u hatal rhag mynychu'r diwrnodau ailgydio a dal i fyny, ac mae'r rhiant yn pryderu na fydd plant yn cael cyswllt â'u hathrawon a'u cyfoedion arferol, ac y bydd hynny'n effeithio hefyd ar eu gallu i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. A allwch chi gadarnhau, Weinidog, p'un a ddylai ysgolion fod yn sicrhau bod pob plentyn, gan gynnwys rhai gweithwyr allweddol, yn gallu ailgydio a dal i fyny gyda'u hathrawon, ac y dylai hynny ddigwydd cyn gwyliau'r haf?
Diolch yn fawr iawn am hynny, Russell. Mae'r gofyniad i geisio cyfyngu ar nifer y cysylltiadau sydd gan blant unigol yn un o'r problemau logistaidd hynod o anodd y mae gweithrediadau presennol yr ysgolion wedi'u dwyn i'n sylw. Mae hyn yn arbennig o wir yn sir Powys, gan fod nifer helaeth o bobl sy'n byw ym Mhowys yn cymhwyso fel gweithiwr hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'r galw am ofal i blant gweithwyr hanfodol wedi cynyddu'n enfawr ym Mhowys dros yr wythnosau diwethaf. Rwy'n ddiolchgar iawn fod Powys o dan arweiniad Lynette Lovell, cyfarwyddwr addysg Powys, wedi gallu sefydlu pum hyb gofal plant ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn a'u bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau nad yw'r plant sy'n mynychu'r hybiau hynny o dan anfantais o ran eu haddysg a'u gallu i ailgydio a dal i fyny.
Mae Lynette yn un o'r bobl y mae angen inni ddweud diolch wrthynt, Lywydd, fel y gwnaeth Joyce Watson. Fel cyn brifathrawes ei hun, ac fel rhywun sydd bellach yn gyfarwyddwr, mae wedi bod yn staffio rhai o'r hybiau gofal plant hynny dros y gwyliau a gwyliau banc. Dyna'r math o ymrwymiad a welsom ar hyd a lled Cymru sydd wedi sicrhau bod plant ein gweithwyr hanfodol wedi cael gofal da, gan ganiatáu i'w rhieni fwrw ymlaen â'u gwaith pwysig, ac rwy'n cymeradwyo gwaith Cyngor Sir Powys yn hynny o beth.
Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel eraill, hoffwn gofnodi fy niolch i chi ac eraill am sicrhau bod y sesiwn hon yn bosibl heddiw.
Weinidog, mae pobl ym Mlaenau Gwent yn dweud wrthyf fod ganddynt gryn dipyn o hyder yn eich arweinyddiaeth ym maes addysg, a’u bod yn cymharu hynny â'r traed moch rydym wedi'i weld dros y ffin. Mae pobl yn dweud wrthyf eu bod yn awyddus iawn i allu parhau i weld y math hwn o arweinyddiaeth.
O ran ein sefyllfa ar hyn o bryd, rwy'n awyddus i sicrhau bod gennym y cyfleusterau a'r ddarpariaeth addysgol ar waith ar gyfer pob plentyn, ac mae hynny'n cynnwys plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf wedi bod yn bryderus iawn nad oes gennym, ym mhob man, y ddarpariaeth sydd ei hangen arnom i sicrhau bod ein plant mwyaf agored i niwed, a phlant sydd angen cymorth dysgu ychwanegol, yn cael hynny o fewn y modelau hyb rydym wedi’u gweld yn ddiweddar, ond hefyd wrth inni ddychwelyd at y dysgu cyfunol rydych wedi'i ddisgrifio mewn datganiadau diweddar. Rwy'n deall y byddwch yn gwneud datganiad heddiw ac yn ddiweddarach yr wythnos hon am y math o fframwaith a strwythurau a fydd gennym ym mis Medi, Weinidog, a hoffwn ofyn i chi sicrhau eich bod yn rhoi sylw llawn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Diolch, Alun. Mae'r cyfnod hwn o darfu ar addysg plant o ganlyniad i'r pandemig wedi bod yn her arbennig i'r plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae llawer o'n hawdurdodau lleol wedi gallu cadw eu hysgolion arbennig ar agor drwy gydol y cyfnod hwn i gefnogi'r teuluoedd hynny, yn enwedig os oes gan y plant hynny anghenion dwys a phenodol iawn, ond rwy'n ymwybodol, mewn awdurdodau lleol eraill, nad yw’r gwasanaeth hwnnw wedi bod ar gael ym mhob man.
Wrth inni nesáu at y camau nesaf ym maes addysg yng Nghymru, byddwn yn rhoi sylw arbennig i anghenion cymorth plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Rwy'n gobeithio gallu gwneud datganiad yn fuan hefyd ar yr hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r effaith y mae’r cyfnod hwn o darfu wedi’i chael, ac yn amlwg, bydd plant ag angen dysgu ychwanegol yn rhan flaenoriaethol o’r cohort y byddwn yn ceisio’i gefnogi wrth inni symud ymlaen.