17. Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc'

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 6:12, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Er ein bod ni fel Pwyllgor wedi cydnabod bod plant a phobl ifanc yn ymddangos yn llai agored i'r feirws nag oedolion, mae pryderon difrifol yn parhau. Canfu arolwg ymgysylltu cenedlaethol diweddar bod bron i 50 y cant o bobl yn bryderus iawn neu'n bryderus dros ben am blant yn dal COVID-19. Mae'r feirws wedi achosi cryn bryder i blant hefyd. Dywedodd 41 y cant o blant a phobl ifanc a holwyd gan YouGov eu bod nhw'n fwy unig na chyn y cyfyngiadau symud, a dywedodd mwy na thraean eu bod nhw'n fwy gofidus, yn fwy trist neu o dan fwy o straen. Cefnogir y canfyddiadau hyn gan arolwg Coronafeirws a Fi, sy'n nodi mai dim ond 37 y cant oedd heb ofid. Mae data o'r fath yn profi yn union pa mor bwysig yw ein gwaith fel pwyllgor, ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'n Cadeirydd, Lynne Neagle.

Gan gyfeirio at yr adroddiad interim a'r llythyrau y mae'n eu cynnwys, mae'n rhaid i mi nodi fy mhryder ynghylch faint o amser y mae wedi ei gymryd i Weinidogion ymateb—atebwyd y llythyr dyddiedig 12 Mai ar 4 a 8 Mehefin, ac atebwyd y llythyr dyddiedig 27 Mai ar 30 Mehefin. Mae gweithredu rhwystredig o araf gan Lywodraeth Cymru hefyd yn amlwg o gynnwys yr ymatebion hynny. Ar 4 Mehefin, dywedodd y Gweinidog Addysg, bron i ddau fis ers dechrau'r cyfyngiadau symud, nad oedd y canllaw i rieni disgyblion addysg ac eithrio mewn ysgol a disgyblion ag ADY wedi ei gyhoeddi, ac nad oedd y canllawiau ar asesiadau risg o ran disgyblion ag anghenion addysgol arbennig wedi eu cyhoeddi. Rwy'n bryderus dros ben am effaith COVID-19 ar blant AAA. Mae Llywodraeth Cymru yn gwybod bod darparwyr yn wynebu anawsterau sylweddol o ran diwallu anghenion, yn enwedig o ran trefnu darpariaeth a nodir mewn datganiad. Yn wir, ysgrifennais lythyr brys at y Gweinidog Addysg am blant AAA a thrafnidiaeth ysgol, gan dynnu sylw at y posibilrwydd bod gan Lywodraeth Cymru bolisi trafnidiaeth sy'n gwahaniaethu drwy roi blaenoriaeth i blant prif ffrwd. Bron i fis yn ddiweddarach, rwyf i wedi cael llythyr gan Lee Waters AS yn dweud ei fod wedi gofyn i swyddogion ymchwilio i'r mater ac y bydd yn ymateb i mi eto yn fuan.

Ac mae'r ymateb i'r pwyllgor, dyddiedig 13 Mehefin yn peri'r un faint o bryder. Er y nodir bod nifer y plant agored i niwed sy'n mynd i'r ysgol yn galonogol, mae'r realiti yn wahanol iawn. Yn ystod wythnos 15 Mehefin, dim ond 6.3 y cant o'r holl blant agored i niwed aeth i'r ysgol. Yn wir, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn araf wrth gynorthwyo ein plant agored i niwed. Fe'n hysbyswyd ar 30 Mehefin mai ar 6 Gorffennaf y byddai canllaw i gynorthwyo ymarferwyr i nodi niwed, camdriniaeth ac esgeulustod yn cael ei gyhoeddi. Byddai'r ymgyrch Gyda'n Gilydd Gallwn Gadw Pobl yn Ddiogel yn cael ei lansio ar yr un diwrnod, a byddai'r ymgyrch honno yn para tan 16 Awst yn unig. Pam mae wedi cymryd cyhyd i lansio'r ymgyrch hon? Roeddem ni'n ymwybodol o'r problemau difrifol yn gynnar. Ar 27 Mawrth, adroddodd ChildLine am alw na welwyd ei debyg o'r blaen o ran nifer y sesiynau cwnsela. Dywedodd yr NSPCC bod galwadau am blant yn wynebu cam-drin emosiynol posibl wedi codi o 529 i 792 yn y mis cyntaf ers y cyfyngiadau symud, a chodais i hyd yn oed yr angen am ymgyrch ar-lein newydd yn annog plant a phobl ifanc i hunan-gyfeirio ar gyfer cwnsela os ydyn nhw'n cael trafferth, mewn rhith-gyfarfod—codais hynny gyda Julie Morgan AS. Ni wnaed digon yn ddigon cyflym i sicrhau bod plant yn gwybod i le i droi am gymorth. Yn wir, canfu'r arolwg cenedlaethol gan Barnardo's bod mwy na hanner y plant a'r bobl ifanc yn anhapus gyda'r wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw. Dylem ni wrando ar eu lleisiau a gweithredu ar yr argymhellion yn adroddiad 'Mental Health and COVID-19: In Our Own Words'.

Daw hyn â mi at y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud heddiw—sef nad oes digon wedi cael ei wneud i amddiffyn hawliau ein plant, gan gynnwys yr hawl i addysg. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod asesiadau o'r effaith ar hawliau plant yn cael eu cynnal, ac rwy'n credu y dylai ymchwiliad brys gael ei sefydlu hefyd i ystyried a yw penderfyniadau diweddar wedi cydymffurfio â deddfwriaeth hawliau dynol. Gallwn ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd ers mis Mawrth i ddarparu cymorth cryfach i blant a phobl ifanc yn y byrdymor a'r hirdymor, ac yn enwedig os bydd ail don o'r feirws ofnadwy hwn. Diolch yn fawr.