3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r M4 o amgylch ardal Twneli Brynglas yn y dyfodol? OQ55468
Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi derbyn y rownd gyntaf o argymhellion gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac rydym nawr yn ymgymryd â'r gweithdrefnau statudol perthnasol i'w gweithredu. Edrychwn ymlaen at dderbyn argymhellion pellach hefyd gan y Comisiwn eleni.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Casnewydd yn falch o weld y cynnydd pellach yn y maes hwn, a'r cynnig ar gyfer lliniaru'r tagfeydd yn yr ardal gan barchu ymrwymiad y Senedd i leihau ein hallbwn carbon ar yr un pryd.
Nawr, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Boris Johnson fod ei Lywodraeth ef yn y DU yn bwriadu caniatáu adeiladu ffordd osgoi dros wastadeddau Gwent. Mater a ddatganolwyd yw'r penderfyniad ynglŷn â'r ffordd osgoi, ac fel y gwyddoch chi, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad y llynedd na fyddai'n cael ei hadeiladu oherwydd y gost a'r effaith ar yr amgylchedd, yn dilyn blynyddoedd o drafod yn Siambr y Senedd hon. Mae'n gwbl amlwg i mi na fyddai Llywodraeth y DU yn gallu newid y penderfyniad hwn heb gyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan, gan wyrdroi'r adrannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog, beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o fygythiad y Prif Weinidog? A ydych chi o'r farn ei fod o ddifrif ynglŷn â datgymalu datganoli, neu a ydych chi'n credu ei fod yn siarad yn fyrbwyll, gan amlygu ei anwybodaeth enwog unwaith yn rhagor? Ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi, pe byddai Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud hyn, y byddai Llywodraeth Cymru yn barod ac yn eiddgar i fynd â Llywodraeth y DU i'r Goruchaf Lys i'w hatal rhag gwyrdroi democratiaeth Cymru drwy ddictad?
Wel, fe allaf i sicrhau'r Aelod o'r olaf ac rwy'n teimlo nad oedd hyn yn ddim mwy na gorchest wleidyddol. Os oes gan y Prif Weinidog £2 biliwn i'w wario ar seilwaith Cymru, yna mae croeso iddo wneud hynny a gwneud hynny ar fyrder; gan wario'r arian hwnnw ar seilwaith rheilffyrdd yn y De, yn y Canolbarth ac yn y Gogledd, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld trydaneiddio'r prif reilffyrdd, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwasanaethau gwell ar y rheilffyrdd i leoedd fel Glynebwy a Maesteg, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliant ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston. Os oes ganddo £2 biliwn i'w wario yng Nghymru, gall ei anfon yma i Fae Caerdydd ac fe wnawn ninnau ei wario ledled Cymru.
Gweinidog Trafnidiaeth, a ydych chi'n fy nghlywed i?
Ymlaen â chi. Rydym ni'n eich clywed chi.
Iawn, reit dda. Diolch. Mae'n ddrwg gennyf, Llywydd. Gweinidog Trafnidiaeth, roeddwn i'n cytuno â Paul Davies yn gynharach fod angen i fusnesau Cymru o bob maint, yn fwy nag erioed o'r blaen wedi'r cyfnod cloi, gael yr holl gymorth y gallan nhw ei gael gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu'n gryf bod seilwaith trafnidiaeth addas yn allweddol i adfywio unrhyw economi. Felly, i adfywio ein heconomi ni yn y De, a ydych chi'n cytuno y byddai dadflocio'r brif ffordd i mewn i'r De a chyflawni o ran ffordd liniaru'r M4 yn rhoi'r chwistrelliad o fywyd cwbl angenrheidiol i'n busnesau ni a'n twristiaeth ni yng Nghymru lle mae angen dirfawr amdano?
Roedd Prif Weinidog Prydain yn cydnabod bod gwir angen cael y ffordd liniaru. Mae eich Aelod Seneddol Llafur Cymru dros Orllewin Casnewydd yn cydnabod yr angen hwnnw. Roedd cyflawni hyn yn eich maniffesto Llafur chi eich hun. Mae Prif Weinidog y DU hyd yn oed yn cynnig cymorth ariannol i'w hadeiladu gan ei bod mor angenrheidiol i'n heconomi ni. Ie, penderfyniad datganoledig yw hwn, ond onid yw'n hen bryd, efallai, ichi gyflawni eich ymrwymiad maniffesto chi eich hun a fyddai'n annog busnesau i fuddsoddi yma, ar yr ochr hon i'r ffin, ac a fyddai o'r diwedd yn agor y De ar gyfer busnesau?
Wel, a gaf i ddiolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn a'i chroesawu hi i'r Senedd? Mae'n bleser ei gweld a derbyn ei chwestiwn cyntaf ynglŷn â thrafnidiaeth. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n aros am y siec gan y Prif Weinidog—y £2 biliwn yna. Pan fyddwn ni'n cael y siec honno, fe fyddwn ni'n gwario'r arian ar seilwaith trafnidiaeth, gan wneud yn iawn am y tanfuddsoddi hanesyddol, yn enwedig ar seilwaith y rheilffyrdd, sy'n gyfrifoldeb uniongyrchol ar y Prif Weinidog, ac fe fyddwn yn gwahodd y Prif Weinidog i dderbyn, mewn ffordd ostyngedig iawn, y tangyllido hanesyddol a fu ar y seilwaith rheilffyrdd.
Nawr, o ran yr M4, nid wyf yn credu y byddai unrhyw un o Aelodau'r Siambr hon yn anghytuno â'r hyn a ddywedwyd gennych am yr angen i ymdrin â thagfeydd, a dyna pam ein bod ni'n bwrw ymlaen ag argymhellion cychwynnol y comisiwn. Fe hoffwn gofnodi, Llywydd, fy mod i'n diolch i Arglwydd Burns am arwain y darn pwysig hwn o waith. Bydd gwaith yn dechrau, yn yr hydref, ar y mecanweithiau rheoli cyflymder cyfartalog ar hyd yr M4 rhwng cyffyrdd 24 a 28. Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar yr argymhelliad sy'n ymwneud â chanllawiau ar lonydd ychwanegol, ac rydym eisoes wedi recriwtio'r swyddogion traffig ychwanegol. Fe fyddan nhw'n cael eu cerbydau newydd nhw ym mis Awst.
Er bod gan lawer o bobl ledled Cymru a San Steffan eu barn nhw am dwneli Bryn-glas, fy etholwyr i sy'n byw gyda'r llygredd a'r tagfeydd. Nid traffig lleol yw prif achos y rhain, ond pobl Casnewydd yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd, pan fydd comisiwn trafnidiaeth y De-ddwyrain yn cynhyrchu ei adroddiad terfynol hir ddisgwyliedig yn ddiweddarach eleni, y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y canfyddiadau i ddatrys y mater hirsefydlog hwn unwaith ac am byth?
A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiwn hi? Yn gyntaf oll, o ran ansawdd aer, mae'n ffaith mai llygredd aer yw'r bygythiad amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd yng Nghasnewydd ac, yn wir, y tu hwnt i Gasnewydd, ac fe fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun ni ar gyfer aer glân i Gymru yn fuan iawn. Fe fydd comisiwn trafnidiaeth de-ddwyrain Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad nesaf yfory, ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen yr adroddiad hwn, ac rydym ni'n aros yn eiddgar hefyd am yr adroddiad terfynol yn ddiweddarach eleni. Fe allaf i sicrhau'r Aelod ein bod ni'n edrych ymlaen at weithredu ar argymhellion priodol yn yr adroddiad hwnnw i liniaru tagfeydd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau.