Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:23 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Fel y mae adroddiad gan y Ganolfan Drefi wedi'i amlygu, mae llawer o drefi arfordirol Cymru yn wynebu effeithiau tymor byr a thymor hir oherwydd COVID-19. Mae gadael yr UE yn gyfle i roi hwb i'n trefi arfordirol adfydus—er enghraifft, mae'r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, y Canghellor, yn paratoi i gyflwyno toriadau treth ysgubol ac ailwampio cyfreithiau cynllunio mewn hyd at 10 o borthladdoedd rhydd newydd o fewn blwyddyn i'r DU ddod yn gwbl annibynnol ar yr UE.
Nodwyd y bydd Llywodraeth y DU yn agor y cynnig i drefi, dinasoedd a rhanbarthau ddod yn borthladdoedd rhydd yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddarach eleni. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar y cyd â Llywodraeth y DU i helpu i hyrwyddo trefi arfordirol yn y gogledd, gan eu bod nhw, yn wir, yn gystadleuwyr brwd iawn i ddod yn borthladdoedd rhydd ar ôl inni adael yr UE?