Adfer Trefi Cymru

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:24 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:24, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn credu fod manteision porthladdoedd rhydd gyfryw ag y mae'r Aelod yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Rwy'n credu bod angen cwestiynu yr hyrwyddo di-amod ar borthladdoedd rhydd. Fodd bynnag, bydd y Llywodraeth yn ystyried unrhyw gyfle i gefnogi cymunedau arfordirol ledled Cymru, boed yn drefi porthladd ai peidio, ac mewn gwirionedd bydd peth o'r cyllid sydd ar gael o gyllid trawsnewid trefi ar gael i drefi arfordirol.

Rwyf yn cydnabod yr her a amlinellodd y Ganolfan Drefi o ran effaith COVID, yn enwedig ar rai o'n cymunedau arfordirol. Rwy'n ofni nad oes gennyf ei gobaith bod Brexit yn rhoi'r cyfle i ddatrys y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod digon o beryglon o'n blaenau ar gyfer trefi o ganlyniad i hynny, oni bai fod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y mae wastad wedi dweud y bydd yn ei wneud, sef gwneud yn siŵr bod gennym ni setliad economaidd wrth adael y cyfnod pontio sy'n cefnogi'r economi. Mewn gwirionedd, nid yw ymagwedd bresennol y Llywodraeth at drafodaethau'n awgrymu y bydd hynny'n bosib, ond gobeithiwn y gall newid ei dull gweithredu er mwyn cefnogi'r union fath o drefi y mae Janet Finch-Saunders yn cyfeirio atyn nhw yn ei chwestiwn.