Part of the debate – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 5 Awst 2020.
Dau beth—mi wnaf i drio mynd trwyddyn nhw'n sydyn. Mae Adam Price wedi sôn yn barod am arafwch y Llywodraeth yn ymateb i'r galw am ymyrraeth gynharach o ran triniaeth ocsigen. Mi wnaf i atgoffa'r Prif Weinidog mai'r rheswm roedden ni'n galw am hyn oedd er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar y gwasanaeth iechyd a cheisio achub bywydau.
Peth arall sy'n debyg o fod mewn peryg o gostio bywydau, dwi'n meddwl, ydy arafwch ailgyflwyno gwasanaethau yn yr NHS. Nawr, dwi wedi ysgrifennu at gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr heddiw yn rhannu rhwystredigaeth meddygon orthopedig yn Ysbyty Gwynedd sydd wir eisiau cael dechrau efo'u gwaith elective eto. Mae yna bron i 3,000 o gleifion yn aros dros 36 wythnos; buaswn i'n hoffi ymateb y Prif Weinidog i hynny.
Ond hefyd, wrth inni drafod llacio rheoliadau neu lacio cyfyngiadau heddiw, dwi eisiau gwybod mwy am barodrwydd y Llywodraeth i dynhau'r rheoliadau lle mae angen. Dwi hefyd eisiau gweld rheolau llymach ar orchuddion wyneb. Ond hefyd, mae yna sawl ardal o risg uchel wedi cael eu cydnabod rŵan—ardal Wrecsam, rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Mae miloedd o bobl o'r ardaloedd hynny wrth gwrs yn dod i lefydd fel fy etholaeth i ar eu gwyliau ar hyn o bryd. Rŵan, os nad ydy'r Llywodraeth yn barod i ddweud wrth bobl am beidio â theithio, ydych chi, fel cam lleiaf, yn barod i gynyddu'r cyfathrebu ynglŷn â sut y dylen nhw ymddwyn ar ôl cyrraedd, oherwydd mae yna beryglon, wrth gwrs, o bobl yn mynd i dafarndai, bwytai ac ati, neu'n gor-gronnu mewn niferoedd mawr?