Part of the debate – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 5 Awst 2020.
Lywydd, diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Wel, i fod yn glir, mae masgiau wyneb yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac maent wedi bod yn orfodol ers i'r clwstwr gael ei ddatgan, a barn Llywodraeth Cymru yw y dylid defnyddio masgiau wyneb lle ceir achos clinigol dros wneud hynny. Nid oes achos clinigol dros eu gwisgo mewn mannau lle mae cylchrediad y feirws o dan reolaeth i’r fath raddau fel nad ydynt yn ychwanegu unrhyw ddiogelwch o bwys i bobl, ond lle ceir achos, achos clinigol, dros eu defnyddio, dylid eu defnyddio wrth gwrs, ac maent yn orfodol yn Ysbyty Maelor Wrecsam oherwydd y sefyllfa yno.
O ran cyflymder dychwelyd canlyniadau profion, Lywydd, fel y dywedais yn fy natganiad, cafodd 13,330 o brofion eu dychwelyd o fewn 24 awr yr wythnos diwethaf—y nifer uchaf erioed. Ond roeddwn am wneud un pwynt arall i Andrew ac i eraill: ar hyn o bryd, y ffordd rydym yn cofnodi'r pethau hyn yng Nghymru yw ein bod yn cofnodi pob prawf fel pe bai angen iddo fod yn ôl o fewn 24 awr, ac nid yw hynny'n synhwyrol. Mae unrhyw un sy'n symptomatig, unrhyw un sy'n mynd i ysbyty, unrhyw un sy'n cael prawf yn y gymuned yn Wrecsam—roedd angen i'r rheini ddod yn ôl cyn gynted â phosibl. Ond rydym yn cynnal miloedd o brofion mewn cartrefi gofal bob wythnos ar bobl nad ydynt yn symptomatig o gwbl ar sail gwyliadwriaeth. Mae'r achos dros gael eu canlyniadau hwy yn ôl mewn 24 awr yn wan iawn yn wir, a byddai'n anodd iawn i gartrefi gofal wneud hynny gan eu bod yn dibynnu ar batrymau shifft a rhedeg y cartref yn y ffordd y gwnânt, ac mae'n cymryd mwy na diwrnod iddynt anfon y profion y maent yn eu derbyn i'r labordy. Ac mae'r cloc yn dechrau tician yr eiliad y maent yn derbyn y prawf, nid yr eiliad y bydd y labordy’n derbyn y prawf.
Nawr, rydym yn cofnodi pob un o'r rhain fel pe bai'r un brys ar gyfer pob prawf. Nid yw hynny'n ffordd synhwyrol o wneud pethau, ac mae'n rhoi pwysau diangen ar y system. Felly, rwyf am allu rhoi gwybod i bobl yng Nghymru am yr holl brofion a gynhaliwn, y rhai lle mae cael canlyniadau o fewn 24 awr yn glinigol bwysig a'r rhai sy'n cael eu gwneud at ddibenion gwyliadwriaeth, lle nad oes ots o safbwynt clinigol os yw'n cymryd 48 awr i'r canlyniadau ddod yn ôl.
Yr wythnos diwethaf, roedd cyfradd yr achosion ar gyfer staff mewn cartrefi gofal, o'r holl bobl rydym yn eu profi bob wythnos, yn 0.1 y cant, a bydd rhai o'r rheini'n ganlyniadau positif ffug hefyd wrth gael eu hailbrofi. Nid oes achos cryf dros roi pwysau ar y system i'w cael yn ôl o fewn 24 awr, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'r profion hynny'n cael eu blaenoriaethu dros y rheini a chanddynt achos clinigol dilys dros ddychwelyd canlyniadau'n gyflym.