– Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Awst 2020.
Dwi'n galw felly ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion ar y rheoliadau. Vaughan Gething.
Diolch ichi, Lywydd, ac rwy'n cynnig y tair set o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob un o'r tair set o reoliadau. Fel gyda'r rheoliadau a'u rhagflaenodd, cafodd y tair set o reoliadau sy'n cael eu trafod heddiw eu cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull cenedlaethol o fynd i'r afael â coronafeirws yma yng Nghymru.
Wrth i bandemig y coronafeirws barhau, rydym wedi adolygu'n barhaus y cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gosod ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng iechyd cyhoeddus gwirioneddol anarferol hwn. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ceisio llacio'n raddol ystod o gyfyngiadau sy'n gymwys i Gymru fel y mae amgylchiadau wedi caniatáu. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw'n parhau'r broses honno. Unwaith eto, mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd ynghylch pa gyfyngiadau sy'n fwyaf diogel i'w dileu neu eu newid tra'n diogelu rhag unrhyw gynnydd yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru.
Roedd y rheoliadau Rhif 2 yn dirymu ac yn disodli'r darpariaethau blaenorol a nodir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a'u diwygiadau dilynol. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf mewn perthynas ag agor darpariaethau llety gwyliau hunangynhwysol, ac yn llawn o ddydd Llun 13 Gorffennaf eleni. Er bod y rheoliadau'n dirymu'r rheoliadau gwreiddiol, roeddent hefyd yn ailsefydlu, gyda rhywfaint o lacio, gofynion ar gyfer cau busnesau sy'n gwerthu bwyd neu ddiod, llety gwyliau a busnesau eraill i ddiogelu rhag y risg i iechyd y cyhoedd yn deillio o coronafeirws. Roeddent hefyd yn cyflwyno'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau troed neu fynediad i dir er mwyn atal niferoedd mawr o bobl rhag ymgasglu neu fod yn agos at ei gilydd ac i gyhoeddi rhestr o'r mannau a gaewyd ar eu gwefannau.
Roedd y rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nifer sylweddol o ddarpariaethau llacio yn y cyfyngiadau a oedd mewn grym yn flaenorol. Felly, drwyddynt, rydym wedi dileu'r gofyniad i gau'r categorïau canlynol o fusnesau: siopau trin gwallt a siopau barbwr, llety hunangynhwysol a lletygarwch awyr agored. Rydym wedi caniatáu i addoldai ailddechrau gwasanaethau awyr agored a gwasanaethau cynulleidfaol dan do mewn rhai ardaloedd. Rydym wedi caniatáu i sinemâu awyr agored agor ac wedi caniatáu ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, hyd at uchafswm o 30 o bobl, os bydd y trefnwyr yn bodloni gofynion diogelwch COVID. Rydym wedi diwygio'r gofyniad 2m ac wedi rhoi gofyniad yn ei le i roi mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal coronafeirws. Mae hynny'n cynnwys cadw pellter o 2m, cyfyngu ar ymwneud wyneb yn wyneb, cynnal safonau hylendid a darparu gwybodaeth ar sut i leihau'r risgiau o ddal y feirws.
Daeth y rheoliadau diwygio Rhif 2 i rym ar 20 Gorffennaf. Roeddent yn caniatáu ar gyfer llacio cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ailagor meysydd chwarae a champfeydd awyr agored a ffeiriau, ac yn egluro y gall pobl ymgynnull mewn addoldai.
Yn olaf, daeth yr ail set o reoliadau diwygio i rym ar 3 Awst. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu mwy fyth o ryddid i ymgysylltu ac yn dychwelyd at rywbeth sy'n nes at yr hyn a oedd yn fywyd normal i lawer o bobl, drwy ganiatáu i hyd at 30 o bobl ymgynnull, caniatáu i letygarwch dan do mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor, a chaniatáu i alïau bowlio, neuaddau bingo ac ystafelloedd arwerthu ailagor.
Mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws wedi bod, ac yn parhau i fod yn ddigynsail. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn nodi'n glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny mewn grym. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mai yn addo dull gofalus a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau drwy newid rheoleiddiol graddol. Mae'r rheoliadau y bydd yr Aelodau'n pleidleisio arnynt heddiw'n helpu i wireddu'r addewid hwnnw, a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Cafodd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 eu gwneud, fel y dywedwyd, ar 10 Gorffennaf o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 mewn ymateb i COVID-19 neu coronafeirws. Mae'r rheoliadau'n dirymu'r rheoliadau coronafeirws gwreiddiol a wnaed ar 26 Mawrth. Fel y dywedwyd, dirymir hefyd yr holl welliannau a wnaed i'r rheoliadau cyfyngu gwreiddiol hynny. Y rheoliadau Rhif 2 yw'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru bellach. Yn gryno, ac fel y gŵyr yr Aelodau, mae rheoliadau Rhif 2 yn ailddatgan darpariaethau penodol yn y rheoliadau gwreiddiol, yn ei gwneud yn ofynnol i'r busnesau y caniateir iddynt fod ar agor gymryd camau penodol, gan gynnwys rhoi pob cam rhesymol ar waith i sicrhau bod cadw pellter cymdeithasol yn digwydd ar eu safleoedd ac mewn perthynas â chyfyngu ar gasgliadau mawr o bobl. Daw'r rheoliadau i ben ar 8 Ionawr 2021.
Ar 3 Awst, cyflwynodd y pwyllgor adroddiad ar y rheoliadau Rhif 2 a dwy gyfres o reoliadau diwygio a wnaed ar 17 a 24 Gorffennaf. Nododd ein hadroddiad ar y rheoliadau Rhif 2 dri phwynt adrodd technegol a chwe phwynt adrodd ar ragoriaethau. Mynegwyd pryderon gennym am y darpariaethau cychwyn yn y rheoliadau; yn benodol, pryd yn union y daw'r rheoliadau i rym? Byddwn yn croesawu eglurhad ar y pwynt hwn yn sylwadau'r Gweinidog i gloi ac yn gobeithio y byddant yn cadarnhau'r sefyllfa mewn perthynas ag unrhyw un a allai fod wedi torri'r cyfyngiadau dros benwythnos 11 a 12 Gorffennaf. Yn ogystal, rydym yn tynnu sylw at rai anghysondebau o ran ystyr yn y testunau Cymraeg a Saesneg.
Nawr, gan droi at y pwyntiau adrodd ar ragoriaethau, rydym yn nodi'r esboniad ynglŷn ag effaith y rheoliadau Rhif 2 ar hawliau dynol, a sut y gellir cyfiawnhau ymyrraeth mewn perthynas ag erthyglau 5, 8, 9 ac 11. Fodd bynnag, rydym wedi gofyn am ragor o wybodaeth er mwyn darparu dealltwriaeth lawnach o'u heffaith ar hawliau dynol. Rydym hefyd wedi gofyn am eglurhad ar ddau fater: yn gyntaf, ynglŷn â sut y mae'r rheoliadau'n berthnasol i'r cysyniad o aelwydydd estynedig lle nad yw un o'r aelwydydd yng Nghymru, o ystyried bod Deddf 1984 yn datgan bod cyfyngiadau Cymru yn berthnasol i Gymru. Yn ail, rydym wedi gofyn am esboniad ynglŷn â chymhwyso rheoliad 8. Mae hwn yn caniatáu i lety hunangynhwysol agor cyhyd â'i fod, ymysg gofynion eraill, ond yn cael ei osod i aelodau o'r un aelwyd yn unig. Yn benodol, rydym wedi gofyn am eglurhad o'r hyn y mae'n rhaid i berchennog unrhyw lety hunangynhwysol ei wneud er mwyn bodloni eu hunain eu bod mewn gwirionedd yn gosod yr eiddo i aelodau o'r un aelwyd, boed yn estynedig ai peidio. Gofynasom hefyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â materion penodol y tynnwyd sylw atynt yn ein hadroddiad, sydd gan yr Aelodau, ynglŷn â phwerau mynediad a hysbysiadau cosb benodedig.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 hefyd yn diwygio'r rheoliadau Rhif 2 i ganiatáu ailagor ffeiriau, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored, fel y crybwyllwyd gan y Gweinidog, ac yn egluro bod gan bersonau sy'n mynychu man addoli esgus rhesymol dros ymgynnull. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 20 Gorffennaf. Adroddwyd ar dri phwynt rhagoriaeth yn gysylltiedig â drafftio sy'n berthnasol i hygyrchedd y gyfraith, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd atynt fel y maent wedi'u nodi yn yr adroddiad.
Yn olaf, deuwn at y drydedd set o reoliadau sy'n cael ei thrafod heddiw. Roedd yr ail set o reoliadau diwygio yn codi rhai o'r cyfyngiadau a osodwyd gan y rheoliadau Rhif 2 o 25 Gorffennaf, ac eraill o 27 Gorffennaf. Mae'r rhain wedi'u rhestru yn ein hadroddiad. Yn ogystal, ac o 27 Gorffennaf ymlaen, mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy'n teithio ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb, yn amodol ar rai eithriadau.
Mae dau bwynt rhagoriaeth a nodir yn yr adroddiad yn ymwneud â mân fater drafftio a'r diffyg amser i gynnal ymgynghoriad neu asesiad effaith rheoleiddiol, a thynnaf sylw'r Senedd at y rhain. Diolch, Lywydd.
Diolch am gyflwyno'r rheoliadau hyn, Weinidog. Os caf ofyn am sicrwydd gennych ar ddau fater, Weinidog. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio o blaid y rheoliadau fel y'u cyflwynwyd y prynhawn yma, ond o ran y defnydd o fasgiau wyneb mewn lleoliadau lle ceir risg, megis ysbytai a chartrefi gofal, hoffwn wybod pam nad yw'r Gweinidog wedi dewis defnyddio'r diweddariadau hyn i'r rheoliadau i wneud hynny'n rhwymedigaeth orfodol ledled Cymru, yn enwedig gyda'r hyn a welsom yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gyda cheisiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r bwrdd iechyd yn yr ardal honno. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i mi, sef eu bod yn orfodol ar safle Ysbyty Maelor Wrecsam, ond mewn gwirionedd ni chefnogwyd hyn gan reoliadau a osodwyd gan y Llywodraeth na'r ddeddfwriaeth sydd ar gael i'r Llywodraeth i ddileu'r agwedd ddadleuol a'i wneud, ledled Cymru, yn ofyniad ar bobl sy'n ymweld ag ysbytai a chartrefi gofal yn enwedig. Felly, hoffwn wybod pam nad yw'r Llywodraeth wedi dewis defnyddio'r cyfle hwn i wneud hynny.
Yn ail, rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd ledled Cymru wrth i rai o'r mesurau llacio ddod i rym—yn Roald Dahl Plass, y drws nesaf i adeilad y Cynulliad ei hun, ac mewn lleoliadau eraill yn fy rhanbarth etholiadol i. Yn y Barri, er enghraifft, cafwyd torfeydd o 25,000-30,000 ar Ynys y Barri yn ddyddiol. Pa mor hyderus ydych chi, Weinidog, y gall y rheoliadau a roesoch gerbron y Senedd i'w cymeradwyo heddiw reoli a chynorthwyo'r asiantaethau gorfodi i reoli'r sefyllfaoedd y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd yn awr pan fo cymaint o bobl yn ymgasglu, gan droi'n ymddygiad afreolus, ac yn ymddygiad troseddol mewn rhai achosion byddwn yn awgrymu, oherwydd yn amlwg mae'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad wedi cyfeirio at y ffaith ei fod wedi cyfarfod â'r asiantaethau gorfodi y bore yma, ond rydym yn pleidleisio ar reoliadau heddiw ar gyfer y tair wythnos nesaf? Felly, a ydych chi o'r farn fod y rheoliadau rydym yn pleidleisio arnynt yn helpu'r asiantaethau gorfodi i fynd i'r afael â sefyllfaoedd o'r fath?
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith nhw yn rhoi sgrwtini i'r rheoliadau yma. Mi fyddaf i a fy nghyd-Aelodau yn pleidleisio dros y rheoliadau yma. Rydym ni'n cefnogi'r symudiad, wrth gwrs, tuag at godi cyfyngiadau—dyna y mae pawb ei eisiau—cyn belled â bod y dystiolaeth yn dangos inni fod hynny'n gallu cael ei wneud yn ddiogel. Mi ydym ni, serch hynny, yn dal i bwysleisio'r angen i gyfathrebu mor glir â phosib ac mor bell â phosib ymlaen llaw lle mae yna bosibilrwydd o lacio rhagor o reoliadau a sut mae hynny yn gallu cael impact ar unigolion a theuluoedd, ac ar fusnesau hefyd, achos mae yna fusnesau sydd yn dal i fod eisiau gallu paratoi i gynyddu eu gweithgarwch. Ac mae hyn, wrth gwrs, efo'r cafeat y gallai pethau newid, achos mae hynny'n mynd i fod yn anochel efo'r pandemig yma.
Hefyd, lle mae'n amhosib i roi rhyddid i fusnesau weithredu mewn modd sydd yn caniatáu iddyn nhw ddechrau adfer colledion, rydym ni hefyd yn atgoffa ein bod ni'n apelio ar y Llywodraeth i gryfhau'r pecynnau o gefnogaeth sydd ar gael i'r busnesau hynny. Mae yna'n dal i fod busnesau sy'n llithro trwy'r rhwyd o gefnogaeth sydd ar gael, o ystyried yr impact y mae'r pandemig a'r cyfyngiadau sydd mewn lle yn ei gael arnyn nhw.
Rydym ni hefyd yn cefnogi'r egwyddor sydd yn y rheoliadau yma eto o gadw cyfarwyddyd pellter 2m yng Nghymru. Un peth yr hoffwn i ofyn amdano fe, serch hynny, ydy tybed a oes ystyriaeth wedi cael ei rhoi i roi trefn mewn lle i asesu a oes modd gostwng y cyfarwyddyd pellter i 1m yn ddiogel mewn rhai amgylchiadau drwy gyflwyno camau lliniaru, fel gwisgo gorchuddion wyneb, er enghraifft. Mae gen i enghreifftiau yn fy etholaeth i ac mae gan Aelodau eraill eu henghreifftiau eu hunain hefyd, dwi'n siŵr, lle mae'r 2m yn cael effaith andwyol. Er enghraifft, o ran busnesau sy'n rhedeg tripiau cychod neu dripiau pysgota yn Ynys Môn, yn yr awyr agored, mae'r cyfyngiadau 2m rhwng gwesteion sy'n talu yn gwneud hynny'n anodd. Tybed a oes modd gwneud hynny yn ddiogel.
Gaf i hefyd ymhelaethu ychydig bach ar bwyntiau wnes i eu codi efo'r Prif Weinidog? Mae'r rheoliadau yma yn arwain tuag at, ac wedi arwain at, lacio'r cyfyngiadau. Ond tybed all y Gweinidog ddweud wrthym ni pa baratoadau sydd yna, drwy reoliadau, o bosibl, i dynhau cyfyngiadau eto lle mae angen hynny. Mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn ein rhybuddio ni yn hollol, hollol iawn yn gynharach i gofio nad yw'r peryglon drosodd—dydyn nhw ddim. Rydym ni wedi gweld clystyrau go ddifrifol o achosion yn codi, er enghraifft, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, lle gallai rheolau lleol gael eu tynhau, dwi'n meddwl, er mwyn, gobeithio, osgoi mynd i mewn i lockdown arall. Er enghraifft, siawns y dylai'r defnydd o orchuddion wyneb fod yn orfodol mewn mwy o leoedd mewn ardaloedd fel Wrecsam. Dwi'n eich atgoffa mai'r hyn dwi wedi'i ddadlau, a beth mae Plaid Cymru wedi'i ddadlau yn gyson, ydy bod angen canllawiau llawer cryfach a gorfodaeth mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb drwy Gymru mewn ardaloedd lle mae hi'n anodd ymbellhau oddi wrth eraill.
Ond hefyd, mae gennym ni yr achosion yng ngogledd-orllewin Lloegr—ddim yng Nghymru, ond yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru. Mae yna filoedd o bobl yn dal i ddod o'r ardaloedd hynny i ardaloedd fel Ynys Môn a Gwynedd ac ar hyd y gogledd. Mae'r cwestiwn wedi cael ei ofyn, ac mae'n gwestiwn dilys: a ddylid bod yn gofyn i bobl ond i deithio lle mae gwir angen hynny? Ond os nad yw'r Llywodraeth yn barod i roi gostyngiad neu gyfyngiad ar hawl pobl i deithio, dwi'n reit sicr bod angen cyfarwyddyd, canllawiau a gorfodaeth llawer mwy llym ar sut y dylai pobl ymddwyn ar ôl teithio i'r cymunedau hynny. Mae yna bobl sy'n methu mynd mewn teuluoedd lluosog i dafarn yng ngogledd-orllewin Lloegr, ond maen nhw yn cael mynd i dafarn yn Ynys Môn, a dwi'n meddwl bod eisiau i'r Llywodraeth ystyried hynny ac ymateb i hynny drwy gynyddu lefel y cyfarwyddyd o ran ymddygiad pobl. A dwi'n meddwl bod eisiau ystyried sut fydd angen cryfhau'r rheoliadau eto yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf i ymateb i sefyllfaoedd fel hyn.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y pwyllgor am y cefndir gweithdrefnol y gallwn fod wedi disgwyl ei gael gan y Gweinidog. Nid ydym wedi cael eglurhad ynglŷn â pham, ers y set wreiddiol ar 26 Mawrth, y cafwyd cyfres o welliannau i'r rheoliadau hynny—. Bellach, mae'r dull hwnnw wedi'i newid a chaiff y set gyffredinol gyntaf o reoliadau a'r holl welliannau eu dirymu wedyn a'u hadfer i raddau helaeth cyn cyflwyno cyfres newydd o welliannau. Beth yw diben y dull gweithdrefnol hwnnw?
Rwy'n siomedig, unwaith eto, fod dros dair wythnos ers i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud, ar 10 Gorffennaf, cyn inni eu trafod. Felly, rydym yn dadlau ac yn pleidleisio ar rywbeth pan fo eisoes wedi'i ddiwygio ddwywaith. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym y bydd gwelliannau pellach yn cael eu gwneud ar 7 Awst. Mae'n 5 Awst heddiw. Pam na ellid gwneud hynny ddeuddydd yn gynharach fel y gallai'r Senedd eu craffu'n briodol?
Y rheoliadau gwreiddiol, er y byddem wedi bod yn fodlon cefnogi rhywfaint o gyfyngu er mwyn diogelu capasiti'r GIG rhag cael ei drechu, erbyn inni hyd yn oed bleidleisio ar y set gyntaf o reoliadau, roedd y mater hwnnw, yn ein tyb ni, dan reolaeth. Rydym wedi gwrthwynebu'r holl reoliadau hyd yn hyn. Gan fod y rheoliadau Rhif 2 hyn yn adfer yr holl reoliadau hynny, rydym hefyd yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y rhain. Unwaith eto, rydym yn credu bod graddau'r cyfyngiadau a'r cau yn anghywir, ac mae rhoi anhyblygrwydd enfawr y cadw pellter o 2m mewn cyfraith yn anghywir yn ein barn ni.
Rwyf hefyd yn ystyried bod y rheoliadau hyn yn ddiangen ac yn anghymesur, ac mae hynny hyd yn oed yn fwy perthnasol o ystyried pa mor isel yw nifer yr achosion o COVID-19 erbyn hyn—y lefel hon o gyfyngiadau eithriadol a grym y wladwriaeth, a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar yr economi, ond hefyd ar les pobl a hefyd, a bod yn blwmp ac yn blaen, ar iechyd, a chyfraddau marwolaeth, ysywaeth, o glefydau eraill yn y GIG. Mae'n gwbl anghymesur. Rydym yn ei wrthwynebu.
Mae'r ddwy set o reoliadau diwygio yn fy nharo'n gyfan gwbl fel rhai sy'n llacio, er mewn ffordd fach, ac felly ni welwn fod angen gwrthwynebu'r rheoliadau diwygio os oes pleidlais. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl. Fe geisiaf ymateb i'r pwyntiau amrywiol. Efallai na lwyddaf i fynd drwy'r cyfan o ystyried nifer y pwyntiau penodol a wnaethpwyd. O ran ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor. Nid wyf yn gwybod a yw'r llythyr wedi cyrraedd y Cadeirydd eto, ond rwy'n meddwl y bydd yn ymdrin â'r pwyntiau a godwyd yn y pwyntiau adrodd, am y materion technegol a'r materion rhagoriaeth hefyd. Felly, byddant i gyd ar gael ac ar glawr.
Rwy'n meddwl fy mod am ymdrin â'r pwynt cyntaf a wnaeth Mark Reckless ynglŷn â pham ein bod wedi dirymu'r rheoliadau gwreiddiol i gael cyfres newydd o reoliadau i'w diwygio. Y rheswm am hynny, yn syml, yw ein bod yn credu y byddant yn set fwy cydlynol o reoliadau i'w gwneud yn gliriach ac yn fwy amlwg i'r Aelodau ac i'r cyhoedd ac i bobl sy'n ceisio dilyn y rheoliadau, yn hytrach na pharhau i ailaddasu'r rheoliadau gwreiddiol.
O ran y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies ar orchuddion wyneb, mae'n ffaith fod hwn yn fater byw, ac nid yn unig yn destun trafod ymhlith y cyhoedd, ond hefyd yn destun sgyrsiau rheolaidd a gawn gyda'n cynghorwyr gwyddonol a chyda'r prif swyddog meddygol, am sefyllfa bresennol y dystiolaeth, a'r dystiolaeth sy'n cael ei hadolygu, a'r ymarfer hefyd. Felly, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae yna sefyllfa benodol, a dyna pam y mae angen gorchuddion wyneb bellach ar bobl sy'n mynd i'r safle hwnnw. Nid oes angen cael rheoliadau gan y Llywodraeth er mwyn i'r gofyniad hwnnw fod yn real. Ond byddwn yn parhau i adolygu'r hyn a fyddai'n digwydd yn gyffredinol, gyda lledaeniad cyfredol y coronafeirws, ond pe bai gweithredu lleol, mae'r potensial ar gyfer defnydd pellach o orchuddion wyneb yn fater y gellid ei adolygu ymhellach, yn union fel y gwnaethom gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, lle rydym yn cydnabod nid yn unig fod yna faterion trawsffiniol yn codi, ond wrth gwrs, ceir her wrth i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o fod yn anodd, a chyngor presennol y prif swyddog meddygol yw argymell defnyddio gorchuddion wyneb lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Rydym yn cydnabod, mewn gwirionedd, er mwyn cadw pethau'n syml hefyd, mai gwneud hynny'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, rydym yn parhau i ystyried tystiolaeth ar realiti ymarferol lle'r ydym arni ar orchuddion wyneb, fel yn wir ar ystod eang o feysydd.
Rwyf am fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaeth Andrew R.T. Davies am Roald Dahl Plass a lleoliadau eraill. Wrth gwrs, dylwn ddweud bod Roald Dahl Plass yn fy etholaeth i, Lywydd, ac rwy'n cydnabod pryder amryw o bobl sy'n dod i Fae Caerdydd at ddibenion hamdden a dibenion eraill, ac mae peth o'r ymddygiad yn heriol. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag ymgysylltu, ond hefyd â gorfodaeth. Ac ynglŷn â'r pwynt am ymddygiad y cyhoedd, dyna sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y pwynt lle rydym wedi llacio ymhellach, ac efallai y gallwn lacio rhagor eto. Ond ymddygiad y cyhoedd hefyd sy'n creu'r risg fwyaf i allu parhau i lacio'r mesurau sy'n dal i fod gennym i gyfyngu ar ddewisiadau unigolion a chymunedau. Ymddygiad y cyhoedd fydd yn gochel orau rhag cynnydd pellach yn lledaeniad coronafeirws drwy'r hydref a'r gaeaf. Mae angen inni ymdrin â gorfodaeth lle mae pobl i'w gweld yn torri'r rheoliadau, ond hefyd mae angen inni atgoffa pobl ynglŷn â risgiau'r dewisiadau hynny i unigolion a phobl, nid yn unig y problemau gyda sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond wrth inni fynd drwy'r hydref a'r gaeaf, beth y gallai hynny ei olygu o ran cynnydd yn lledaeniad y coronafeirws, fel y gwelsom mewn gwledydd eraill lle mae nifer yr achosion yn isel. Dyna'r rheswm pam, er enghraifft, fod Aberdeen bellach dan gyfyngiadau lleol yn yr Alban. Felly, mae'n fater i bob un ohonom yn y dewisiadau a wnawn fel arweinwyr cymunedol. Mae'n fater i ni fel unigolion yn ein cymunedau i geisio sicrhau bod coronafeirws yn cael ei atal. Ac o fewn hynny, rwy'n meddwl yn glir iawn am yr effaith ar fusnesau yn ogystal ag unigolion.
Hoffwn weld mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted â phosibl, mor ddiogel ag sy'n bosibl, a dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud o hyd. Ond mae hynny'n mynd i fod o fewn cyd-destun o weithredu'n fwriadol bwyllog i gadw Cymru'n ddiogel. Geilw hynny am eglurder yn ein cyfathrebu, ac rwy'n credu, er bod Plaid Brexit yn gwrthwynebu'r dull rydym yn ei ddilyn—ac maent wedi bod yn gyson yn hynny—byddai hyd yn oed pobl sy'n anghytuno ag ymagwedd y Llywodraeth hon yn cydnabod y cafwyd lefel glir a chyson o gyfathrebu mewn meysydd lle mae pobl yn anghytuno â ni. Credaf fod eglurder yn bwysig iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n helpu'r cyhoedd i ddeall y rheolau a gwneud dewisiadau yn eu cylch.
O ran ein cynllun ar gyfer y dyfodol, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Prif Weinidog, y prif swyddog meddygol a'n prif gynghorwyr gwyddonol, ond rwyf wedi nodi y byddwn yn cyhoeddi cynllun ar ddechrau'r hydref ar gyfer paratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Roedd yn newyddion i'w groesawu y bydd gennym fwy o arian ar gael. Cyhoeddwyd hynny heddiw yn dilyn datganiad gennyf i a'r Gweinidog cyllid. O fewn hynny, byddaf hefyd yn nodi, fel y nododd y Prif Weinidog—cyn hynny, yn hytrach—y cydbwysedd rhwng gweithredu lleol a chenedlaethol a sut olwg fydd ar hynny.
Nawr, rhan yn unig o'n hymateb i reoli'r pandemig coronafeirws yma yng Nghymru yw'r rheoliadau hyn wrth gwrs, a byddwn yn parhau i weithredu i reoli'r pandemig a diogelu'r cyhoedd. O'u cymryd fel pecyn o fesurau, credaf fod y rheoliadau'n synhwyrol ac yn gymesur. Mae'r newidiadau wedi mynd gryn ffordd tuag at ddychwelyd at fywyd cymdeithasol ac economaidd mwy normal yng Nghymru. Mae elfen o risg yn gysylltiedig â hyn o hyd, ond ni chredwn fod y risg honno'n ormodol.
Mae angen i bob un ohonom gofio nad yw'r feirws wedi diflannu ac mae angen inni ddal ati i ddilyn y negeseuon, yn enwedig ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, er mwyn cadw pob un ohonom yn ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel. Edrychaf ymlaen at lacio ymhellach yn yr amser sydd ar gael i ni, ond byddaf hefyd, fel y bydd y Llywodraeth, yn parhau i roi pob mesur sy'n bosibl ac yn angenrheidiol ar waith er mwyn cadw pobl Cymru yn ddiogel. Ac efallai y bydd hynny'n golygu bod angen inni ddiwygio'r rheoliadau hyn ymhellach er mwyn symud y llacio i'r cyfeiriad arall. Ond fel y dywedaf, gobeithio y gallwn roi camau pellach ar waith i sicrhau bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach i bob cymuned ar draws y wlad. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.
Y cynnig yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 3. A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig nesaf yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 4. A oes gwrthwynebiad? A oes gwrthwynebiad i'r cynnig o dan eitem 4? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad, felly rydw i'n gohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig nesaf, felly, yw i dderbyn y cynnig o dan eitem 5. A oes gwrthwynebiad i'r cynnig hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rydw i'n gweld gwrthwynebiad i'r cynnig hynny, felly mae'r cynnig hynny hefyd yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ond yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd toriad o o leiaf pum munud cyn y byddwn ni yn pleidleisio. Felly, rŷn ni'n symud nawr at y toriad byr.