Profi, Olrhain a Diogelu

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:20, 15 Medi 2020

Mae'n amlwg i mi fod yna rywbeth catastroffig wedi mynd o'i le efo'r system brofi yn y pythefnos diwethaf; nid dim ond arafwch canlyniadau yn dod yn ôl ydy hyn. Mae etholwyr i fi ac mewn rhannau eraill o Gymru yn methu cael prawf cartref o gwbl, yn cael trafferth ffonio 119, yn methu cael slot yn eu canolfan drive-through leol—sy'n llawer rhy bell beth bynnag i lawer o bobl. Dwi'n cytuno'n llwyr efo gwyddonwyr independent SAGE sydd wedi dweud ers misoedd fod yna beryg go iawn yn Llywodraeth Cymru yn penderfynu rhoi ei ffydd mewn system oedd yn cael ei rhedeg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mai beth oedd ei angen oedd datblygu cyfundrefn Gymreig ar gyfer profi. Ydych chi'n gweld rŵan mai camgymeriad oedd rhoi ffydd yn y system Brydeinig, a beth sydd angen ar frys rŵan ydy cynyddu'r capasiti yma yng Nghymru, capasiti y mae gennych chi fel Llywodraeth reolaeth drosto fo?