Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 15 Medi 2020.
Wel, Llywydd, rhoddais ateb a oedd o fewn fy ngwybodaeth. Rwy'n gwybod pryd y cefais i fy hysbysu. Nid wyf i'n gwybod yr ateb i'r cwestiynau eraill hynny, ac ni fyddwn ychwaith yn disgwyl eu gwybod yn sefyll yma yn y Siambr. Byddwn yn darganfod yr atebion hynny, wrth gwrs, ac rwy'n hapus iawn i'w mynegi i'r Aelod.