Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 15 Medi 2020.
Diolch am y gyfres yna o gwestiynau, a cheisiaf roi sylw iddyn nhw mor gyflym ag y bydd amser yn caniatáu.
Rydych chi'n gywir; yn ôl yr hyn a ddeallaf, hysbyswyd swyddogion ar 2 Medi, a chefais wybod am rybudd o ddigwyddiad difrifol ar 3 Medi. Mae hynny'n gwbl normal. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth, fel y dylent wneud, o'r tor diogelwch. Roeddent wedi canfod yr hyn a ddigwyddodd, ac fel y dywedais, nid ydym yn credu bod neb wedi cael niwed, ond mae'n dor diogelwch difrifol ac mae angen ei drin o ddifrif. Dyna pam y ceir ymchwiliad annibynnol. Bydd yr ymchwiliad hwnnw'n cael ei gynnal drwy brosesau atebolrwydd a llywodraethu'r bwrdd, felly gallwch ddisgwyl cael adroddiad cyhoeddedig ar yr ymchwiliad hwnnw pan fydd wedi dod i law. Ac fel y gwyddoch chi, cyhoeddodd prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatganiad rhagweithiol i'r wasg a rhoddodd gyfres o gyfweliadau ddoe yn nodi'r hyn a ddigwyddodd, ac yn wir, ymddiheurodd am y tor diogelwch difrifol. Nid oes ymgais i guddio'r ffaith fod hwn yn dor diogelwch difrifol a ddigwyddodd, ac adroddwyd ei fod yn ddigwyddiad difrifol, fel yn wir y caiff pob digwyddiad difrifol rhwng y gwasanaeth iechyd a'r Llywodraeth.
O ran mynd i'r afael â rhestrau aros, mae arnaf ofn nad wyf yn rhannu optimistiaeth yr Aelod ynglŷn â'r gallu i leihau rhestrau aros dros gyfnod y gaeaf. Mae'n realiti ym mhob gwlad yn y DU bod y cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud pan fu inni derfynnu gwasanaethau'r GIG—. Byddwch yn cofio mai fi, ar 13 Mawrth, oedd y Gweinidog iechyd cyntaf yn y DU i wneud y penderfyniad i ohirio'r rhan fwyaf o weithgarwch dewisol. Rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol o ganlyniad i hynny, ac yna, hyd yn oed wrth i wasanaethau ailgychwyn, bu rhywfaint o amharodrwydd ymhlith y cyhoedd i geisio gwasanaethau sydd bellach ar gael. Yn gyffredin â phob Gweinidog arall ym mhob un o'r pedair gwlad, byddwn yn dweud y bydd angen y rhan fwyaf o'r tymor nesaf, tymor llawn y Senedd, i ddal i fyny â'r gweithgarwch yr ydym yn ei weld, yn rhannol oherwydd y gweithgarwch sydd wedi cronni, ond hefyd am nad ydym yn gallu gweld pobl yn y niferoedd y byddem yn eu gweld fel arall. Mae hynny'n ymwneud â'r angen i sgrinio pobl, rhwng y rhai sy'n ddiogel o ran COVID a'r rhai dan amheuaeth neu'r rhai sy'n bositif o ran COVID. Y gwir amdani hefyd yw na all ein staff ymgymryd â chymaint o weithdrefnau oherwydd gofynion cyfarpar diogelwch personol. Felly, nid yw'n realistig i ni ddisgwyl gweld lleihad sylweddol yn y rhestrau aros drwy'r cyfnod hwn. Bydd angen blaenoriaethu pobl sydd â'r angen mwyaf, ac mae hynny'n golygu y bydd yn anodd oherwydd bydd angen i rai pobl aros yn hwy. Ond, fel y dywedais, nid yw honno'n sefyllfa sy'n unigryw i Gymru. Efallai eich bod wedi gweld y sylw gan Gronfa'r Brenin ac eraill am faint yr her y byddwn yn ei hwynebu ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol, a byddwn yn siarad fwy a mwy am y rhesymau dros hynny, gan gynnwys ein staff. Ac roeddwn yn falch o'ch clywed yn sôn am ein staff, oherwydd nid yw ein staff wedi cael seibiant mewn gwirionedd, yn unrhyw ran o'n system iechyd a gofal cymdeithasol, ers dechrau'r pandemig, ac mae hynny'n peri pryder mawr i mi nid yn unig oherwydd y posibilrwydd o ail don, ond y dyfodol tymor hwy.
Rydym ni wedi cyflwyno mwy o gymorth—cymorth iechyd galwedigaethol, cymorth iechyd a lles—ac rwyf wedi cael sgyrsiau rheolaidd gyda chynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur. Bu hyd yn oed mwy o sgwrsio rhwng y rhannau hynny o'r berthynas weithle nag y byddem wedi'i gael yn y cyfnod arferol hyd yn oed. Y rheswm am hynny yw y bydd yr hyn y bu'n rhaid i'n staff ei wneud yn cael effaith arnynt, am fwy o gymorth, yn ymarferol, i'w cadw yn y gweithle, ond gwyddom hefyd fod yna effaith sy'n cymryd peth amser i'w hamlygu ei hun pan fydd pobl wedi bod drwy ddigwyddiadau arbennig o anodd neu drawmatig. Felly, dros y tymor nesaf, bydd angen i ni ymdrin â'r realiti y bydd angen mwy o gymorth ar staff ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd angen i rai staff adael y gweithle i wella ac efallai y bydd rhai staff yn gadael cyn pryd.
Felly, mewn gwirionedd bu her fawr iawn yn cynyddu gyda mwy o weithgarwch nag y gallwn ni ymgymryd ag ef nawr a byddwn yn wynebu her ymysg ein staff. Ond gallaf ddweud, serch hynny, ar yr ochr gadarnhaol: fe wnaethoch chi sôn am heriau ynghylch cyfarpar diogelu personol i gefnogi staff; rydym ni mewn sefyllfa well o lawer nag ar ddechrau'r pandemig, pryd gwelsom ni fod gennym ni storfeydd a oeddem yn eu defnyddio, ac ar ôl i ni ddefnyddio'r storfeydd pandemig, ein cynlluniau arferol fyddai cael contractau ar waith, ond nid oedd gwledydd eraill yn eu hanrhydeddu am fod ganddynt eu heriau eu hunain ac, fel yr ydym ni wedi ailadrodd droeon, crebachodd marchnad y byd o ran cyfarpar diogelu personol yn sylweddol. Rydym ni wedi ailadeiladu a stocio ein storfeydd, rydym ni wedi bod yn llwyddiannus iawn o fewn teulu gwledydd y DU wrth wneud hynny, ac rydym ni wedi helpu gwledydd eraill y DU drwy gymorth ar y cyd o ran anghenion cyfarpar diogelu personol. Rydym ni hefyd wedi llwyddo i barhau i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i'n sector gofal cymdeithasol hefyd. Felly, rydym ni mewn sefyllfa well o lawer o ran stoc na'r sefyllfa yr oeddwn yn ei hwynebu wrth fynd drwy'r pandemig ym mis Ebrill a mis Mai eleni.
O ran y brechlyn ffliw, mae Llywodraeth y DU yn caffael ar gyfer pob un o'r pedair gwlad. Mae honno'n broses y cytunwyd arni. Felly, rydym yn obeithiol y bydd gennym ni fwy o frechlyn ffliw ar gael ar gyfer pob gwlad yn y DU, gan gynnwys, wrth gwrs, Cymru. Rydym yn ceisio blaenoriaethu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae adran yng nghynllun diogelu'r gaeaf ar yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i gael cyfradd uwch o bobl sydd fwyaf agored i niwed i gael y brechlyn a hefyd os oes gennym ni ddigon o frechlyn yn weddill, i sicrhau bod pobl dros 50 oed yn cael y brechlyn ffliw hefyd, yn ogystal â'n cynllun beth bynnag a ddaw i gael mwy o blant cyn oed ysgol ac oedran ysgol gynradd i gael y brechlyn hefyd.
O ran deintyddiaeth, disgwyliwn i fwy o ddata gael ei ddarparu yn fframwaith gweithredol y GIG y soniais amdano. Mae hyn wedi bod yn her wirioneddol oherwydd, wrth gwrs, mae deintyddiaeth yn broffesiwn risg uchel—mae'n eithaf amhosibl ymgymryd â gwaith deintyddiaeth a chadw pellter cymdeithasol, mae'r agosrwydd yna y mae ei angen yn aml er mwyn ichi wneud y gwaith ac, yn wir, y gweithdrefnau sy'n cynhyrchu aerosol. Gallwn ddisgwyl y ceir mwy o fanylion drwy'r fframwaith gweithredol a'r cyngor gan ein prif swyddog deintyddol.