6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:56, 15 Medi 2020

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dydd Mercher diweddaf, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ei Bil ar y farchnad fewnol, dim ond wyth wythnos ar ôl cyhoeddi Papur Gwyn a oedd yn honni y byddai'n ymgynghori ar gynigion y Bil. Nid yw Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, ac mae ei dadansoddiad ohonyn nhw yn simsan, a dweud y lleiaf. Ond rydyn ni'n gwybod nad y Llywodraethau datganoledig yn unig a gwestiynodd yr angen am ddeddfwriaeth, a chwestiynu rhagdybiaethau'r Papur Gwyn. Roedd sefydliadau fel NFU Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg ymysg y rhai o Gymru a ymatebodd yn feirniadol. Byddai Llywodraeth sydd â hyder yn ei seiliau ar gyfer deddfwriaeth mor bellgyrhaeddol a dadleuol â hyn, does bosib, yn cyhoeddi'r ymatebion y mae wedi'u cael.

Bydd dadl gwrthblaid ar Fil y farchnad fewnol yn cael ei chynnal yfory, felly heddiw byddaf yn amlinellu'r ffeithiau sy'n sail i'r pryderon difrifol sydd gennym. O'r dechrau, hoffwn i bwysleisio nad ydyn ni'n gwrthwynebu'r nod o sicrhau y gall marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol weithio'n esmwyth ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Yn wir, roedden ni ymysg y cyntaf i dynnu sylw at y ffaith y byddai angen inni ddatblygu ffordd newydd o lywodraethu ar y cyd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn rheoli'r berthynas rhwng cymwyseddau datganoledig a'r farchnad fewnol.

Am dair blynedd, rŷn ni wedi gweithio'n ddiflino ar fframweithiau cyffredin ym mhob un o'r meysydd a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel rhai a allai gynnwys rhwystrau diangen i greu'r farchnad fewnol. Bellach, mae'r gwaith hwn yn dod tua'i derfyn, ac nid oes yr un enghraifft wedi bod o fethiant llwyr, nac o un Llywodraeth yn atal cynnydd, yn unrhyw un o'r 28 o fframweithiau y mae Cymru'n ymwneud â nhw. Ac eto, mae'r Bil, i bob pwrpas, yn tanseilio'r gwaith hwn drwy ddarparu, i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ffordd o erydu hawl y Senedd hon i reoleiddio o fewn y meysydd hynny o gymhwysedd datganoledig fel y gwêl orau.

Byddai Rhannau 1 a 2 o'r Bil yn gorfodi egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu yn achos bron yr holl nwyddau a gwasanaethau sy'n tarddu o, neu sy'n cael eu mewnforio'n gyfreithlon i, unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol, sy'n cael eu diffinio'n achos dim gwahaniaethu fel nwyddau hyd yn oed sy'n 'pasio drwodd'. I roi enghraifft i chi, er y gallwn ni barhau â'n bwriad i wahardd naw math o blastig untro yng Nghymru os cafodd ei gynhyrchu yng Nghymru neu ei fewnforio i Gymru, ni fydden ni'n gallu atal nwyddau o'r fath a gafodd eu cynhyrchu neu eu mewnforio i Loegr neu'r Alban rhag cael eu gwerthu yng Nghymru os oedd modd eu gwerthu'n gyfreithlon yno. Mae'n ymddangos, hefyd, y byddai'n anghyfreithlon mynnu i labeli dynnu ein sylw ni at eu heffaith niweidiol ar yr amgylchedd. Er nad yw hyn yn atal y Senedd yn benodol rhag arfer ei phwerau, mae'n eu gwneud yn ddiystyr, o gofio bod y mwyafrif helaeth o nwyddau sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru yn dod o rannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol, neu'n pasio drwyddyn nhw.