6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:00, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Er nad yw'r rhan hon o'r Bil i fod yn gwneud dim mwy na disodli cymhwysiad yr un egwyddorion yng nghyfraith yr UE, nid yw'r cynigion crai yn y Bil yn cynnwys dim o'r amddiffyniadau—o sybsidiaredd, cymesuredd ac eithriadau polisi cyhoeddus sylweddol—sy'n berthnasol yn y dull y mae'n ceisio ei efelychu. Yn hollbwysig, nid yw'n darparu terfyn safonau, a fu'n sylfaen i'r ymwahanu ledled y DU yn ystod cyfnod datganoli. Mae Rhan 3 yn ceisio gosod yr un dull o ymdrin â chymwysterau proffesiynol, er, o ddatgan fy muddiant fel cyfreithiwr, fy mod i'n sylweddoli bod y proffesiwn cyfreithiol ei hun wedi'i eithrio. Ond, fel cyfreithiwr eto, gallaf dynnu sylw hefyd at y ffaith bod hwn yn ddarn cymhleth o ddrafftio a fydd hefyd yn rhoi llawenydd i gyfreithwyr ledled y wlad. Nid ydym yn glir eto a fyddai hyn mewn gwirionedd yn ei gwneud yn amhosibl atal athrawon o rannau eraill o'r DU nad oes ganddynt y cymwysterau a'r profiad sy'n ofynnol gan ein deddfwriaeth ni rhag cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i addysgu yng Nghymru, ond gallai glymu'r cyngor hwnnw yn glymau cyfreithiol am flynyddoedd i ddod.

Mae Rhan 4 o'r Bil yn rhoi swyddogaeth newydd i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd o ran darparu Swyddfa'r Farchnad Fewnol. Mae'r swyddogaethau a gynigir ar gyfer y swyddfa hon yn rhai y gallem eu cymeradwyo'n gyffredinol, ond mae'n gwbl amhriodol mai adran anweinidogol o Lywodraeth y DU, y mae ei phrif swyddogaethau'n ymwneud â materion a gadwyd yn ôl yn llwyr, sy'n cael y swyddogaeth hon heb ddiwygio ei threfniadau llywodraethu'n helaeth.

Mae Rhan 5 o'r Bil yn ymwneud â phrotocol Gogledd Iwerddon. Mae braidd yn rhyfedd, yn ddigynsail mae'n debyg, fy ngweld fy hun ar yr un ochr i unrhyw ddadl ag Arglwyddi Howard a Lamont, ond bydd hynny'n dweud wrthych mor eang yw'r ystod o leisiau y mae'r rhan hon o'r Bil yn gwbl wrthun iddyn nhw. Bydd unrhyw un sy'n credu ym mhwysigrwydd rheolaeth y gyfraith, a phwysigrwydd cadw at gytundebau cyfreithiol yr ydych wedi ymrwymo iddynt yn rhwydd, hyd yn oed yn syml i sicrhau y bydd pleidiau eraill yn y dyfodol yn barod i wneud cytundebau â chi, yn arswydo y gallai Llywodraeth gynnig pwerau gweinidogol sy'n diystyru cyfraith ddomestig a chytundebau rhyngwladol mewn modd mor uniongyrchol. Mae'r darpariaethau yn y Rhan hon hefyd yn gwaethygu bygythiad posibl i borthladdoedd Cymru drwy gymell trefniadau cludo nwyddau o ynys Iwerddon i ddefnyddio llwybrau fferi o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.

Mae Rhan 6 o'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU, am y tro cyntaf yn yr 21 mlynedd ers datganoli, ariannu gweithgareddau mewn meysydd polisi sydd wedi'u datganoli i Gymru—nid ym maes datblygu economaidd yn unig, ond ym maes iechyd, tai, seilwaith addysgol, chwaraeon a diwylliant. Gadewch i ni fod yn glir ynghylch un peth: mae Llywodraeth yn San Steffan sy'n ceisio'r pŵer i wario mewn meysydd datganoledig a'r pŵer i reoli'r cyllid sydd ar gael, yn Llywodraeth sy'n ceisio torri ar ddatganoli. Ac mae'n amlwg bod Llywodraeth sydd wedi methu mor helaeth â buddsoddi yng Nghymru mewn cysylltiad â'r pethau y mae'n gyfrifol amdanyn nhw eisoes—rheilffyrdd, band eang, y morlyn llanw, ynni ar raddfa fawr—yn amlwg yn bwriadu ariannu ei blaenoriaethau ei hun drwy frigdorri'r gyllideb y mae'r Senedd hon yn ei rheoli ar hyn o bryd, a'n gadael â hyd yn oed llai o gyfle a hyblygrwydd i ddiwallu anghenion pobl Cymru yr ydym wedi ein hethol i'w gwasanaethu.

Mae Rhan 7 o'r Bil yn newid yn glir y setliad datganoli yn benodol drwy ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o faterion a gadwyd yn ôl. Dirprwy Lywydd, mae diddordeb y Llywodraeth Geidwadol hon mewn cymorth gwladwriaethol yn ei harwain at fentro aberthu cytundeb masnach rydd â'r UE a heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ond, yn amlwg, y bwriad yma yw ein cau ni allan rhag cyd-greu cyfundrefn cymorth gwladwriaethol gadarn ar gyfer y DU gyfan, ac mae'n fygythiad sylweddol i fusnesau Cymru.

Yn olaf, mae Rhan 8 o'r Bil yn cynnwys y cynnig i wneud y Bil cyfan yn ddeddfiad gwarchodedig, na all y Senedd hon ei ddiwygio hyd yn oed pan fydd yn effeithio, fel y mae'n sicr o wneud, ar faterion datganoledig—pŵer y dylid ei ddefnyddio'n gynnil siawns ond sydd wedi'i ddefnyddio mwy o weithiau yn y tair blynedd diwethaf nag yn y 18 mlynedd flaenorol.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi'i ystyried yn wael ac sy'n niweidiol iawn. Byddwn yn gweithio gyda gwleidyddion o bob plaid a heb blaid yn y Senedd i sicrhau, oni chaiff ei ailwampio drwy welliant, nad yw'r Bil hwn yn mynd ar y llyfr statud. Rydym wedi cynnig cynigion amgen adeiladol. Byddai Llywodraeth ddoeth yn San Steffan yn edrych arnyn nhw o'r newydd.