6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 6:42, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod ni wedi archwilio'n fawr iawn gyda chydweithwyr y sefyllfa y mae'r Bil hwn, yn gyfansoddiadol, yn ei rhoi ni ynddi, ac ni wnaf  archwilio hynny cymaint â hynny ymhellach. Ond rwy'n credu bod arnom ni angen—. Rydym ni wedi clywed y rhethreg yn amlwg iawn gan gefnogwyr Brexit dros y blynyddoedd diwethaf y bydd gennym ni bwerau drwy i'r UE eu rhoi yn ôl i ni. A yw'n wir bod y Bil hwn mewn gwirionedd yn tanseilio ein gallu i gyflawni unrhyw benderfyniadau sy'n seiliedig ar y pwerau hynny? Oherwydd, mae'n rhoi'r hawl i Weinidogion y DU wneud penderfyniadau sy'n tanseilio ein penderfyniadau ni. Ac felly, pan fydd pobl yn fy etholaeth i yn disgwyl i ni gyflawni amodau neu bolisïau penodol, gallwn ni wneud hynny yn y fan yma, ond gallai Gweinidogion Llywodraeth y DU gyflawni rhywbeth gwahanol o ganlyniad i hynny. Dyna y mae pobl eisiau ei wybod. Maen nhw eisiau deall beth mae hyn yn ei olygu iddyn nhw. A'r hyn y mae'n ei olygu iddyn nhw mewn gwirionedd yw y gallwn ni wneud penderfyniad, ond y gall Gweinidogion y DU ei newid heb ymgynghori â ni na'r bobl hyd yn oed. Mae hynny'n gywir.

A ydych chi hefyd yn cytuno â mi efallai fod hyn yn ddiwedd ar fframweithiau cyffredin mewn gwirionedd? Oherwydd, roedd y fframweithiau cyffredin yn rhywbeth y gwnaethom ni gytuno arnyn nhw, rhywbeth a gyflwynwyd gennym fel ffordd bosibl o gydweithio i ddod i'r sefyllfaoedd hyn. Ond mae hon yn sefyllfa lle mae'n ymddangos bod hynny wedi'i daflu allan drwy'r ffenestr, lle mae Llywodraeth y DU yn mynd i orfodi penderfyniadau. Felly, a yw hyn yn diwedd y fframweithiau cyffredin?

Ac, yn olaf, y gronfa ffyniant gyffredin. Rydym ni wedi bod yn gofyn cwestiynau am flynyddoedd am y gronfa ffyniant a rennir, ac mae'n ymddangos yn awr, mewn gwirionedd, pan addawodd cefnogwyr Brexit i ni na fyddai Cymru yn colli ceiniog y byddem ni wedi ei chael gan Ewrop—mae'n ymddangos yn awr nad ydym ni am gael unrhyw beth. Pan allem ni wneud penderfyniad, fel y gallem ni o'r blaen, bydd yn cael ei benderfynu yn Llundain, ac felly mae'r gronfa ffyniant gyffredin, o'm rhan i, wedi'i dileu yn llwyr.