6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:43, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i David Rees am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf, mae e'n iawn i ddweud, fel yr oedd Jenny Rathbone yn ei ddweud yn ei chwestiwn hi yn gynharach, ein bod ni yn gosod safonau bwyd, ac rydym ni'n falch o hynny yma yng Nghymru, ond os bydd rhan arall o'r DU yn dewis mabwysiadu safonau is ar sail benodol, ni fyddem ni'n gallu atal y nwyddau a'r bwydydd hynny rhag cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd a siopau yng Nghymru. Felly, byddai hynny yn enghraifft uniongyrchol i chi o'r math o ffordd na fyddai'n bosibl gorfodi'r safonau y byddem ni'n eu gosod a'u deddfu yma yn y Senedd, mewn gwirionedd

Byddai gennym ni ddull mwy uchelgeisiol o reoli plastigau untro, mae'n debyg, na Llywodraeth y DU ar ran Lloegr, ond byddai gennym ni her wrth orfodi hynny pe byddai'r rheolau'n is yn Lloegr, ac y bydden nhw'n galluogi plastigau i fod ar y farchnad yng Nghymru mewn ffordd na allem ni ei gorfodi'n effeithiol. Felly, mae nifer o enghreifftiau ymarferol iawn am y cyfyngiadau ymarferol y byddem ni'n eu hwynebu wrth weithredu ein blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru. Felly, nid dadl gyfansoddiadol yn unig yw hon; mae hyn yn ymwneud ag agweddau ymarferol siopa wythnosol pobl, i bob pwrpas.

O ran y fframweithiau cyffredin, rwy'n gofyn i Lywodraeth y DU ddwysáu ei hymrwymiad i'r fframweithiau cyffredin, oherwydd rwy'n credu mai yn y fframweithiau cyffredin y ceir y modd o reoleiddio'r cyfresi hyn o gwestiynau. Felly, rydym ni wedi gallu ymwahanu ers 20 mlynedd rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU o ran rhai o'r materion hyn, ac rydym ni eisiau gallu parhau i wneud hynny. A'r ffordd o wneud hynny yw ei wneud ar sail gytunedig a'i reoli. Ni fyddwn bob amser yn gallu dod i gytundeb, yn amlwg, ond bydd proses ar gyfer datrys hynny mewn ffordd sy'n parchu'r ffaith bod pŵer wedi'i ddatganoli yn y DU mewn ffordd nad yw'r Bil hwn yn ei wneud.

Ac yn olaf, o ran eich pwynt am y gronfa ffyniant gyffredin. I bob pwrpas, bydd y pwerau gwario yn y Bil, y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd iddi ei hun o feysydd datganoledig, yn eu galluogi, i bob pwrpas, i weithredu rhai agweddau ar y gronfa ffyniant gyffredin yn uniongyrchol yng Nghymru. Rydym ni bob amser wedi gwybod, onid ydym ni, fod y pwerau hynny wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, ac y bu ymrwymiadau, mewn gwirionedd, na ddangoswyd erioed, gan Lywodraeth y DU, na fyddai'r pwerau hynny'n cael eu tynnu ymaith? Wel, mae pwerau yn y Bil hwn a fyddai'n galluogi torri'r addewid hwnnw.