6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 6:25, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mick Antoniw am y sylwadau yna, ac mae ei sylwadau yn cario pwys arbennig o ystyried ei swyddogaeth fel Cwnsler Cyffredinol blaenorol hefyd. Ond fe dywedaf y pwynt hwn: mae'n gywir i ddweud bod rhannau o'r Bil hwn yn deddfu i, fwy neu lai, roi gweithrediadau gweinidogol uwchlaw y gyfraith. Mae darpariaethau datganedig sy'n nodi y ceir gwneud rheoliadau pa un a ydyn nhw'n cydymffurfio â chyfraith ddomestig neu gytundebau rhyngwladol ai peidio. Nawr, mae hynny'n ddeifiol, yn fy marn i, o enw da Llywodraeth Prydain. Mae Llywodraethau Prydeinig olynol wedi dweud eu bod yn ymrwymo i reolaeth y gyfraith a'i fod yn hanfodol i synnwyr Prydain ohono'i hun yn y byd, a chredaf fod darpariaethau o'r math hwnnw mewn deddfwriaeth yn ddeifiol i'r enw da hwnnw. Maen nhw'n llygru'r enw da rhyngwladol hwnnw, ond hefyd maen nhw'n rhoi rhwystrau ychwanegol o fewn y DU ar y berthynas rhwng y Llywodraethau, sy'n dibynnu bron yn gyfan gwbl ar ymrwymiadau a wnaed rhwng y naill Lywodraeth a'r llall, a chredaf, ar yr adeg benodol hon, na ddylai Llywodraeth y DU fod yn chwilio am resymau dros wneud hynny. Credaf fod amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r Bil hwn, yn sicr mae amrywiaeth o safbwyntiau yn y Siambr hon ynglŷn â'r cefndir y mae gadael yr UE yn ei roi iddo, ond rwy'n gobeithio y gallem sicrhau clymblaid ehangach o lawer o ran cefnogaeth yn y Siambr hon ar fater rheolaeth y gyfraith a'r perygl y mae'r Bil hwn yn ei achosi i reolaeth y gyfraith.