Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 15 Medi 2020.
Dirprwy Lywydd, nid yw'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cael cyfle hyd yma i archwilio'r Bil hwn yn fanwl. Fe'i cynhyrchwyd yn hwyr iawn yn y dydd, gydag ychydig iawn o rybudd ymlaen llaw, ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor ddydd Llun, pryd y byddwn yn archwilio'r holl faterion penodol hyn.
Ond mae gan y pwyllgor gyfrifoldeb penodol ynglŷn â chyfansoddiad y lle hwn, ac ynglŷn â materion sy'n ymwneud â moeseg democratiaeth seneddol a rheol y gyfraith fe ddywedwn i. Mae un o egwyddorion sylfaenol y Cenhedloedd Unedig yn ymwneud â rheol y gyfraith, ac rwyf yn rhoi llawer o bwyslais ar hyn oherwydd eich bod chi wedi cyfeirio at lawer o ganlyniadau'r ddeddfwriaeth hon, ond credaf ei bod yn bwysig nad ydym ni'n colli golwg ar rai o'r egwyddorion democrataidd sylfaenol yr ydym yn gweithredu arnynt. Mae egwyddorion llywodraethu'r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod rheol y gyfraith yn hanfodol i heddwch a diogelwch rhyngwladol a sefydlogrwydd gwleidyddol; i sicrhau cynnydd a datblygiad economaidd a chymdeithasol; a diogelu hawliau pobl a rhyddid sylfaenol. Mae'n sylfaenol i fynediad pobl at wasanaethau cyhoeddus, i atal llygredd, i atal camddefnyddio pŵer, ac i sefydlu'r contract cymdeithasol rhwng pobl a'r wladwriaeth.
Mae'r ddeddfwriaeth hon, fel y'i drafftiwyd, yn diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr. Rwyf eisiau cyfeirio at bedair agwedd. Un, yr anghyfreithlondeb, sydd eisoes wedi'i gyfaddef. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol mewn unrhyw ffordd i Lywodraeth ddeddfu mewn modd anghyfreithlon ac i ddadlau bod yr anghyfreithlondeb yn iawn oherwydd efallai nad yw ond mewn modd penodol a chyfyngedig. Mae hynny'n annerbyniol mewn unrhyw ddemocratiaeth fodern. Pe byddwn i yn eich mygio chi y tu allan i'r Siambr hon, Cwnsler Cyffredinol, er na fyddwn i byth, byth yn gwneud hynny, ni fyddai'n dderbyniol i mi ddweud yn y llys, 'Wel, fy arglwydd, ie, ond dim ond mygio penodol a chyfyngedig iawn oedd hwn, onid e?' Mae'n gwbl chwerthinllyd.
Mae'n rhaid i ni hefyd ystyried yr awgrym pan ddaw cydsyniad deddfwriaethol i'r Siambr hon o ran moeseg cydsynio i ddeddfwriaeth sy'n diystyru rheolaeth y gyfraith yn llwyr ac yn cynnal anghyfreithlondeb, a chredaf fod hwnnw'n faes efallai y gallech chi fod eisiau ei archwilio. Mae hefyd yn gagio'r llysoedd a barnwyr rhag amddiffyn rheolaeth y gyfraith.
Ac, yn bedwerydd, mae'n rhoi pŵer dilyffethair yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth na fyddan nhw'n atebol i'r Senedd, na San Steffan, na Chymru wrth arfer y pwerau hynny. Nawr, mewn iaith llafar gwlad, pe byddem ni'n edrych ar Rwsia neu Belarws neu rai o'r gwledydd hynny, byddem ni'n dweud ei fod yn gyfystyr ag unbennaeth etholedig. Roosevelt, rwy'n credu—gobeithio fy mod i'n iawn—a ddywedodd mewn gwirionedd mai'r ffordd orau o esbonio rheolaeth y gyfraith yw edrych ar y gwledydd nad oes ganddyn nhw reolaeth y gyfraith.
Yn rhan o'r ymarfer hwn, fe wnes i ychydig o ymchwil gyfreithiol, ac roeddwn yn ceisio dod o hyd i enghraifft pan fo gwlad ddemocrataidd yn Ewrop erioed wedi ceisio defnyddio'r math hwn o anghyfreithlondeb, ac fe wnes i ddod o hyd i un. Fe wnes i ddod o hyd i wladwriaeth Ewropeaidd a fu'n binacl rheolaeth y gyfraith, gydag un o'r Seneddau pwysicaf, gyda chyfansoddiad a oedd yn cael ei barchu ledled y byd, lle y cyflwynwyd deddfwriaeth i ddileu ymreolaeth gwladwriaethau datganoledig, i rymuso'r Llywodraeth i ddeddfu i dorri'r cyfansoddiad ac i ddadrymuso'r farnwriaeth. Y ddeddf honno oedd Deddf galluogi gweriniaeth Weimar yn 1933 a ddaeth â Hitler i rym.
Nawr, nid wyf i eisiau bod yn felodramatig am hyn, ond mae democratiaeth yn fregus, mae rheolaeth y gyfraith yn fregus, ac mae'r ddeddfwriaeth hon, fel yr ydych chi wedi ei disgrifio mor briodol, yn gwbl atgas, ac rwyf am ofyn un cwestiwn i chi: a ydych chi'n cytuno â mi fod ein democratiaeth yn rhy bwysig i gael ei thanseilio gan y math hwn o ddeddfwriaeth?