Part of the debate – Senedd Cymru am 7:50 pm ar 16 Medi 2020.
Trown at Gymru yn awr. Creodd cyhoeddiad y Canghellor ar gyfer Lloegr tua £58 miliwn o arian canlyniadol i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, fel y mae ganddi hawl i wneud, defnyddio'r cyllid canlyniadol hwn at ddibenion eraill. Wrth ateb fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 12 Awst, dywedodd y Gweinidog:
'Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflawni diwygiadau er mwyn diogelu pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru. Mae'r diwygiadau, o reidrwydd, yn sylweddol ac yn gymhleth. Nid oes unrhyw atebion cyflym.'
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, o ran y gronfa diogelwch tân i lesddeiliaid, yn sicr nid oes ateb cyflym, oherwydd mae'r broblem yn dal yn enfawr a heb ei datrys, ac nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrechion hyd yma i efelychu'r system yn Lloegr. Yn hytrach, rhaid i lesddeiliaid fodloni ar gydymdeimlad y Gweinidog, a dyfynnaf:
'Rwyf wedi cyfleu'n gyson na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu i unioni problemau sy'n deillio o fethiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol nac achosion sy'n torri rheoliadau adeiladu.'
Ac rwy'n cytuno â hynny, ond tra bod y materion hyn yn mynd drwy lysoedd neu'n cael eu hymestyn dros amser, rhaid inni wynebu'r ffaith bod y lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi ac yn gorfod talu neu geisio gwerthu eu heiddo, sydd bron yn amhosibl o ystyried gofynion presennol y farchnad a'r sefyllfa o ran cael morgais. Felly, rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi edrych ar y mater hwn eto.
Nawr, rwy'n derbyn y gallai £58 miliwn o arian canlyniadol fod yn fwy na sydd ei angen i unioni'r broblem yng Nghymru. Rwy'n derbyn y gallwch ddefnyddio'r arian hwnnw fel y gwelwch yn dda, ac efallai nad ydych am adeiladu nac agor cronfa hyd at werth llawn pro rata, fel petai, yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn Lloegr. Gallwn dderbyn hynny, pe baech yn rhoi tystiolaeth, ac mae'n siŵr y gallech gael y dystiolaeth os yw yno i ddangos bod yr angen yng Nghymru, serch hynny, yn arwyddocaol iawn, a chan fy mod newydd gyfeirio at y preswylwyr mewn dau ddatblygiad yn agos iawn atom, efallai nad yw ar y raddfa a welir yn Lloegr. Ond rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi wneud rhywbeth. Mae'r bobl hyn wedi cael eu gadael, mewn gwirionedd, i ymdopi â phroblem sy'n fater o fethiant polisi cyhoeddus, ac mae'n fethiant polisi cyhoeddus sy'n mynd yn ôl dros amser maith, o leiaf 20 mlynedd, ac mae'r blaid rwy'n ei chynrychioli a'r blaid rydych chi'n ei chynrychioli, yn anffodus, wedi bod yn gyfrifol am y methiant polisi hwn.
Rwyf am orffen ar y pwynt hwn: gwnaeth y bobl hyn bopeth yn iawn. Gwnaethant arfer yr holl ddiwydrwydd dyladwy, fe wnaethant ofyn am gyngor cyfreithwyr, cawsant werthusiadau, arolygiadau, adroddiadau arolygon a phethau tebyg wedi'i wneud ar yr eiddo roeddent yn ei brynu, a gallent weld bod yr adeiladau wedi pasio'r holl reoliadau, cawsant eu harolygu, ac eto maent wedyn yn darganfod bod naill ai'r rheoliadau'n annigonol neu fod yr arolygiadau'n annigonol ac nad oeddent wedi nodi'r ffaith bod y systemau hyn wedi'u gosod mewn modd amhriodol, sydd yn y bôn yn eu gwneud yn ddiwerth ac yn beryglus iawn. Credaf fod yn rhaid inni gynnig ateb. Efallai mai ateb dros dro i leddfu'r pwysau ariannol ar y lesddeiliaid fydd hwnnw, tra byddwn yn ymchwilio i weld a oes rhwymedigaeth gyfreithiol ymhlith yr adeiladwyr a'r datblygwyr. Ond wyddoch chi, dim ond sefydliad mor fawr â'r Llywodraeth sy'n gallu dilyn y trywydd hwnnw ac aros o gwmpas ac ymdrin â chamau cyfreithiol. Mae'r lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi sydd ar y ffordd a chostau amcangyfrifedig o rhwng £10,000 a £40,000 yn ein cymdogaeth ein hunain yma yn y Senedd.
Felly, Weinidog, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau'n fawr y cyfnod pan oeddwn yn eich cysgodi chi tan yn ddiweddar iawn? Rwy'n eich parchu, rwy'n credu eich bod wedi bod yn Weinidog arloesol, rydych chi'n ymdopi â'ch briff, ac rydych wedi dangos arweiniad go iawn. Ond yn y maes hwn, nid ydym wedi gallu cael consensws, a hyd yma rwyf wedi bod yn siomedig iawn gyda'ch ymateb. Rwy'n eich annog i ddefnyddio'r dychymyg rydych yn enwog amdano i ddatrys y broblem eithriadol o ddifrifol hon.