12. Dadl Fer: Yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid

– Senedd Cymru am 7:42 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:42, 16 Medi 2020

Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae'r agenda yn parhau gyda'r ddadl fer. I'r rhai ohonoch chi sydd yn gadael cyn y ddadl fer, yna gwnewch hynny'n dawel. Fe wnaf fi alw ar y cynigydd yn y ddadl fer, sef David Melding, i gyflwyno'r cynnig.

Photo of David Melding David Melding Conservative 7:43, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae wedi bod yn ddiwrnod hir, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ond rydym yn gorffen ar bwnc pwysig iawn ac rwy'n cyflwyno'r drafodaeth hon ar yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru. Hoffwn roi rhywfaint o'r amser i Mike Hedges a Jenny Rathbone.

Lywydd, ers trychineb ofnadwy Tŵr Grenfell, rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o fethiant systemau cladin allanol—deunydd cyfansawdd alwminiwm a systemau eraill. Hefyd, mae materion sy'n ymwneud ag uniondeb y cynlluniau diogelwch tân mewnol mewn rhai adeiladau uchel hefyd wedi dod yn amlwg iawn. Mae hyn wedi golygu bod y rhai sy'n byw mewn adeiladau fflatiau aml-lawr mewn perygl llawer mwy nag a sylweddolwyd yn flaenorol gan lawer o lunwyr polisi a chredaf fod hwn yn bwynt allweddol. Ni wnaeth llawer o lunwyr polisi a'r rhai a oedd yn craffu ar bolisi nodi hyn.

Cyn i mi nodi'r angen am gronfa diogelwch tân, hoffwn ddyfynnu pryderon rhai o'm hetholwyr sy'n lesddeiliaid sy'n wynebu'r posibilrwydd o gost gyfalaf enfawr i wneud adeiladau'n ddiogel, adeiladau a gafodd eu pasio'n ddiweddar fel rhai diogel gan y system rheoleiddio adeiladu. A daw'r dyfyniadau hyn—mae yna bump—gan breswylwyr datblygiad Celestia a Victoria Wharf. Gallwn weld y datblygiadau hynny i bob pwrpas—wel, fe allwn os edrychwn yn ofalus—o adeilad y Senedd hon.

Fy nyfyniad cyntaf: 'Fel un o gyflogeion y GIG dan bwysau sylweddol yn yr hinsawdd bresennol, mae'r problemau hir, parhaus gyda diogelwch tân ac atebolrwydd yn achosi llawer iawn o straen ychwanegol gartref'.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of David Melding David Melding Conservative 7:45, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yn ail: 'Rwy'n chwilfrydig pam nad yw hi'—sef y Gweinidog—yn ymddangos fel pe bai ganddi ddiddordeb yn y 450 o aelwydydd yng nghymdogaeth y Senedd'.

Rwy'n deall hynny. Mae ychydig yn llym, ond rwy'n deall y teimlad hwnnw.

Trydydd dyfyniad: 'Mae bron yn sicr na fydd pob lesddeiliad yn gallu fforddio talu am yr atgyweiriadau angenrheidiol, yn enwedig gan nad oes modd rhoi'r fflatiau dan forgais'.

Fy mhedwerydd preswylydd ac etholwr: 'Mae gwir angen inni weld y Llywodraeth yn camu i mewn ac yn helpu. Mae'r sefyllfa'n enbyd'.

Ac onid ydym wedi bod yn gweld, yn ystod argyfwng COVID, yr angen am lywodraeth fwy, pan fo'i hangen, wedi'i chyflawni'n effeithiol?

Fy nyfyniad olaf: 'Dim ond mater o amser yw hi nes i rywun gael ei anafu'n ddifrifol, neu waeth, Duw a'n helpo'.

Wel, fel rydym newydd glywed gan rai o fy etholwyr sy'n lesddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, maent bellach yn wynebu costau enfawr posibl, ac maent yn wynebu'r costau hynny fel pobl a brynodd eu tai, neu gartrefi yn hytrach, eu prynu gyda diwydrwydd dyladwy, gan adeiladwyr a datblygwyr sefydledig, prynu cartrefi mewn adeiladau a oedd yn bodloni rheoliadau adeiladu ac a basiodd yr arolygiadau angenrheidiol, ac sydd bellach yn wynebu'r tebygolrwydd o orchmynion gorfodi.

Nawr, mae'n wir fod rhai adeiladwyr a datblygwyr wedi gweithredu'n gyfrifol ac wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda lesddeiliaid a'r Llywodraeth i unioni'r diffygion a wnaeth adeiladau'n anniogel. Fodd bynnag, mae eraill yn osgoi eu rhwymedigaethau, eu rhwymedigaethau moesol fan lleiaf, neu'n aros am ganlyniad achos cyfreithiol; ac mae rhai'n chwarae'r gêm o ymestyn camau cyfreithiol am amser hir, gan wybod pa mor fregus yw'r lesddeiliaid yn y fflatiau hyn. A hyn i gyd ar adeg pan fo COVID wedi golygu bod y rhan fwyaf ohonom wedi gorfod treulio llawer mwy o amser gartref. Felly, mae lesddeiliaid yn wynebu'r pryder parhaus o fyw mewn adeiladau yr ydym bellach yn sylweddoli nad ydynt wedi bod mor ddiogel ag a ddynodwyd.

Ac mae canlyniadau pellach. Ni ellir gwerthu cartrefi, felly mae pobl wedi'u dal mewn fflatiau nad ydynt bellach yn diwallu eu hanghenion, yn enwedig os ydynt yn deuluoedd ifanc. Maent mewn llety sy'n rhy gyfyng ac nad yw'n rhoi'r lle sydd ei angen ar blant ifanc, er enghraifft. Yn drasig a dweud y gwir, ni all rhai lesddeiliaid ddechrau teuluoedd yn awr, er eu bod yn ysu i wneud hynny.

Mae costau yswiriant wedi codi'n sylweddol, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu'n aml, ac mae'n gost barhaus tra bydd y problemau hyn heb eu datrys. Mae disgwyl iawn gan adeiladwyr neu ddatblygwyr calongaled, sydd wedi bod yn gyfrifol am osodiadau gwael—ac mae hwnnw'n ffactor allweddol yn yr holl gwestiwn hwn, pan na chafodd systemau diogel eu gosod yn iawn—mae ymgyfreitha ar gyfer camau o'r fath yn ddrud.

Ac yna, yn olaf, ar y pwyntiau hyn, yr anallu i gael gafael ar arian pan fydd popeth arall yn methu. Roedd y Gweinidog, ddoe neu'r diwrnod cynt rwy'n meddwl, yn nodi cynllun i helpu'r rheini sy'n wynebu ôl-ddyledion rhent heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain ac sydd mewn cartrefi cymdeithasol, a soniodd am ddarparu benthyciad isel iawn—mor isel ag y gellir caniatáu'n gyfreithiol, ymddengys i mi—gan undebau credyd. Ac mae'r math hwnnw o gynnig deallus gan y Llywodraeth yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, ond nid ydym wedi gweld arloesedd tebyg mewn perthynas â lesddeiliaid mewn fflatiau.

Trof yn awr at y sefyllfa yn Lloegr, lle bu datblygiad sylweddol. Cyhoeddwyd y gronfa diogelwch adeiladau ar gyfer Lloegr gan y Canghellor, Rishi Sunak, yn ei gyllideb ym mis Mawrth. Mae cyllid ychwanegol o £1 biliwn wedi'i neilltuo, ac mae hwn yn ychwanegol at y gronfa i fynd i'r afael â chladin ACM yn Lloegr a gyhoeddwyd yn gynharach. Bwriedir sicrhau y bydd yr holl gladin hylosg anniogel yn cael ei dynnu oddi ar bob adeilad preswyl preifat a chymdeithasol dros 18m, ac rwy'n croesawu'r polisi hwnnw.

Photo of David Melding David Melding Conservative 7:50, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Trown at Gymru yn awr. Creodd cyhoeddiad y Canghellor ar gyfer Lloegr tua £58 miliwn o arian canlyniadol i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, fel y mae ganddi hawl i wneud, defnyddio'r cyllid canlyniadol hwn at ddibenion eraill. Wrth ateb fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 12 Awst, dywedodd y Gweinidog:

'Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflawni diwygiadau er mwyn diogelu pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru. Mae'r diwygiadau, o reidrwydd, yn sylweddol ac yn gymhleth. Nid oes unrhyw atebion cyflym.'

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, o ran y gronfa diogelwch tân i lesddeiliaid, yn sicr nid oes ateb cyflym, oherwydd mae'r broblem yn dal yn enfawr a heb ei datrys, ac nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrechion hyd yma i efelychu'r system yn Lloegr. Yn hytrach, rhaid i lesddeiliaid fodloni ar gydymdeimlad y Gweinidog, a dyfynnaf:

'Rwyf wedi cyfleu'n gyson na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu i unioni problemau sy'n deillio o fethiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol nac achosion sy'n torri rheoliadau adeiladu.'

Ac rwy'n cytuno â hynny, ond tra bod y materion hyn yn mynd drwy lysoedd neu'n cael eu hymestyn dros amser, rhaid inni wynebu'r ffaith bod y lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi ac yn gorfod talu neu geisio gwerthu eu heiddo, sydd bron yn amhosibl o ystyried gofynion presennol y farchnad a'r sefyllfa o ran cael morgais. Felly, rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi edrych ar y mater hwn eto.

Nawr, rwy'n derbyn y gallai £58 miliwn o arian canlyniadol fod yn fwy na sydd ei angen i unioni'r broblem yng Nghymru. Rwy'n derbyn y gallwch ddefnyddio'r arian hwnnw fel y gwelwch yn dda, ac efallai nad ydych am adeiladu nac agor cronfa hyd at werth llawn pro rata, fel petai, yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn Lloegr. Gallwn dderbyn hynny, pe baech yn rhoi tystiolaeth, ac mae'n siŵr y gallech gael y dystiolaeth os yw yno i ddangos bod yr angen yng Nghymru, serch hynny, yn arwyddocaol iawn, a chan fy mod newydd gyfeirio at y preswylwyr mewn dau ddatblygiad yn agos iawn atom, efallai nad yw ar y raddfa a welir yn Lloegr. Ond rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi wneud rhywbeth. Mae'r bobl hyn wedi cael eu gadael, mewn gwirionedd, i ymdopi â phroblem sy'n fater o fethiant polisi cyhoeddus, ac mae'n fethiant polisi cyhoeddus sy'n mynd yn ôl dros amser maith, o leiaf 20 mlynedd, ac mae'r blaid rwy'n ei chynrychioli a'r blaid rydych chi'n ei chynrychioli, yn anffodus, wedi bod yn gyfrifol am y methiant polisi hwn.

Rwyf am orffen ar y pwynt hwn: gwnaeth y bobl hyn bopeth yn iawn. Gwnaethant arfer yr holl ddiwydrwydd dyladwy, fe wnaethant ofyn am gyngor cyfreithwyr, cawsant werthusiadau, arolygiadau, adroddiadau arolygon a phethau tebyg wedi'i wneud ar yr eiddo roeddent yn ei brynu, a gallent weld bod yr adeiladau wedi pasio'r holl reoliadau, cawsant eu harolygu, ac eto maent wedyn yn darganfod bod naill ai'r rheoliadau'n annigonol neu fod yr arolygiadau'n annigonol ac nad oeddent wedi nodi'r ffaith bod y systemau hyn wedi'u gosod mewn modd amhriodol, sydd yn y bôn yn eu gwneud yn ddiwerth ac yn beryglus iawn. Credaf fod yn rhaid inni gynnig ateb. Efallai mai ateb dros dro i leddfu'r pwysau ariannol ar y lesddeiliaid fydd hwnnw, tra byddwn yn ymchwilio i weld a oes rhwymedigaeth gyfreithiol ymhlith yr adeiladwyr a'r datblygwyr. Ond wyddoch chi, dim ond sefydliad mor fawr â'r Llywodraeth sy'n gallu dilyn y trywydd hwnnw ac aros o gwmpas ac ymdrin â chamau cyfreithiol. Mae'r lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi sydd ar y ffordd a chostau amcangyfrifedig o rhwng £10,000 a £40,000 yn ein cymdogaeth ein hunain yma yn y Senedd.

Felly, Weinidog, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau'n fawr y cyfnod pan oeddwn yn eich cysgodi chi tan yn ddiweddar iawn? Rwy'n eich parchu, rwy'n credu eich bod wedi bod yn Weinidog arloesol, rydych chi'n ymdopi â'ch briff, ac rydych wedi dangos arweiniad go iawn. Ond yn y maes hwn, nid ydym wedi gallu cael consensws, a hyd yma rwyf wedi bod yn siomedig iawn gyda'ch ymateb. Rwy'n eich annog i ddefnyddio'r dychymyg rydych yn enwog amdano i ddatrys y broblem eithriadol o ddifrifol hon.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 7:55, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding nid yn unig am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond am godi'r mater pwysig hwn? Hoffwn nodi dau bwynt cyflym iawn. Yn gyntaf, a oes unrhyw reswm pam na ellir defnyddio cyfalaf trafodion i ariannu'r gwaith angenrheidiol, gyda hawliad yn cael ei wneud yn erbyn gwerth yr eiddo sydd ar werth? Mae hwn yn arian sy'n mynd i'r sector preifat ac sy'n bodloni'r rheolau ar gyfer defnyddio cyfalaf trafodion yn fy marn i. Os nad yw hynny'n bosibl, a all y Gweinidog egluro pam nad yw'n bodloni'r rheolau? Nid af drwy weddill y rheolau, ond os nad yw'n eu bodloni, a all y Gweinidog egluro pam nad yw'n gwneud hynny, oherwydd byddai'n ddefnydd da o gyfalaf trafodion ac mae'n mynd i mewn i'r sector preifat?

Yr ail: ni fyddai hyn yn digwydd yn y rhan fwyaf o weddill y byd oherwydd bod ganddynt berchnogaeth gydweithredol ar fflatiau. Nawr, rwy'n frwdfrydig iawn ynghylch perchnogaeth gydweithredol yn hytrach na lesddaliadau, sydd, yn fy marn i, yn system ffiwdal y dylem ei dileu ar y cyfle cyntaf posibl. Mae'r berchnogaeth gydweithredol hon a thaliadau cydweithredol yn gweithio yn yr hyn y gallem feddwl amdanynt fel rhannau sosialaidd, adain chwith o'r byd; mae'n gweithio mewn lleoedd fel Efrog Newydd, mae'n gweithio yn Vancouver, mae'n gweithio yn Sgandinafia. Mae gwir angen inni yn gyntaf ddod o hyd i'r arian, ond yn ail, mae angen newid y system.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 7:56, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, David Melding, am godi'r mater pwysig hwn. Rydych yn dadlau'n gryf iawn dros gyfiawnder gwneud rhywbeth i helpu'r bobl hyn a wnaeth yr holl bethau cywir o ran y gweithrediadau trawsgludo cyn iddynt brynu'r lesddaliad ar eu fflat, ac yn ddi-os mae llunwyr polisi wedi methu, ac mae rheoliadau adeiladu wedi methu. Cefais fy synnu'n arbennig wrth ddarllen eu bod, yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun yr wythnos diwethaf, wedi trechu cynnig i orfodi'r Llywodraeth i weithredu canlyniadau argymhellion rhan gyntaf ymchwiliad Grenfell. Pa mor frawychus yw hynny, o ystyried costau sefydlu'r ymchwiliad hwnnw, i beidio â gweithredu ei argymhellion wedyn? Mae'n frawychus iawn.

Felly, rwy'n gobeithio y clywn gan y Gweinidog y byddwn yn gallu sefydlu cronfa, a all fod yn gronfa dros dro lle gallwn, maes o law, gael yr arian yn ôl gan yr adeiladwyr a'r rheoleiddwyr diegwyddor hyn, oherwydd nid oes amheuaeth fod rhaid i rywun dalu, ond nid y lesddeiliaid tlawd sydd wedi'u dal yn eu fflat ac angen dod allan o'r sefyllfa hon.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 7:58, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl? Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, mae fy nghefn at y person rwy'n ymateb iddo, ac rwy'n ei chael hi'n anodd bob amser y bydd hynny'n digwydd, felly ymddiheuriadau, David.

Rwy'n falch iawn fod David wedi rhoi cyfle inni gael y ddadl hon, y drafodaeth hon, a rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch adeiladu yng Nghymru. Fel y dywedodd David yn gywir, mae cam 2 ymchwiliad Grenfell yn ailddechrau yn awr, ac fe'n hatgoffir i gyd o bwysigrwydd sicrhau bod preswylwyr yn parhau'n ddiogel yn eu cartrefi o ganlyniad i'r drasiedi ofnadwy rydym yn ymwybodol iawn ohoni. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu preswylwyr a lesddeiliaid oherwydd y problemau diogelwch adeiladu parhaus mewn nifer o adeiladau uchel yng Nghymru, ac yn wir mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â hwy am y trafferthion y maent yn eu cael, a chytunaf yn llwyr â David nad yw'n fai arnynt hwy fel y cyfryw. Mae'r pethau hyn yn gymhleth ac yn anodd eu deall hyd yn oed os ydych yn gyfreithiwr trawsgludo profiadol, felly nid yw'n syndod fod pobl yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn.

Mae'n dal yn werth gwneud y pwynt—gwn fy mod wedi'i wneud dro ar ôl tro—ei bod yn amlwg mai perchnogion a datblygwyr yr adeiladau yw'r bobl sydd â'r cyfrifoldeb gwirioneddol am y ffaith bod hyn wedi digwydd, a dylent gywiro eu diffygion ar eu cost eu hunain. Rwy'n derbyn nad ydynt yn gwneud hynny, ac nad ydynt yn poeni am yr enw da proffesiynol yn y ffordd rydym yn teimlo y dylent, ond wrth gwrs mae'n werth dweud y dylent deimlo felly, ac rwy'n credu bod hynny'n werth ei ailadrodd.

Rwyf hefyd yn falch o weld bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bellach wedi cymryd diddordeb ym mater gwerthu lesddaliadau yn amhriodol, a'i fod wedi dechrau cymryd camau yn erbyn rhai o'r troseddwyr gwaethaf am werthu eiddo lesddaliadol. Rwy'n credu bod y ddau beth wedi'u cydgysylltu, er ei bod wrth gwrs yn fwy priodol cael lesddaliad cyn belled â bod lesddaliad yn bodoli—ac fe af i'r afael â phwynt Mike mewn munud—mewn adeilad uchel nag mewn tŷ. Serch hynny, mae'r ffordd y caiff y lesddaliad ei werthu a'r ffordd y rheolir y rhydd-ddaliad wedyn yn bwynt pwysig o hynny, ac nid wyf yn siŵr a yw pawb sy'n prynu lesddaliad mewn adeiladau uchel yn deall yn llwyr beth yw'r strwythur rheoli y maent yn ei brynu, a chafwyd nifer o broblemau o ganlyniad i hynny.

Photo of Julie James Julie James Labour 8:00, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, mae'n realiti anodd, ond un na ellir ei osgoi yn anffodus, fod ein rôl fel Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallwn ei wneud ynghylch gorfodi'r bobl sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r adeiladau hyn i wynebu eu cyfrifoldeb. Mae hefyd yn wir fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer tynnu cladin anniogel oddi ar adeiladau preswyl sy'n uwch na 18m—mewn gwirionedd, mae'r cyfan yn gladin anniogel, nid ACM yn unig. Roedd yna gronfa ACM gynharach, fel y dywedoch chi'n gywir, David. Mae'n wir hefyd inni gael cyllid canlyniadol ar gyfer rhywfaint o hynny nad ydym wedi'i dargedu at hynny eto.

Rwyf hefyd am ddweud ar y pwynt hwn ein bod, ar yr adeg y cawsom y cyllid canlyniadol hwnnw, ynghanol pandemig COVID, ac felly cafodd yr holl gyllid canlyniadol ei wthio tuag at hynny ar unwaith. Ond rwyf wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd ymlaen, gan gynnwys y posibilrwydd o gael cymorth ariannol arloesol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn rhyw ffordd sy'n caniatáu i lesddeiliaid gysgu'n ddiogel yn eu gwelyau o leiaf, hyd yn oed os yw'n effeithio ar eu hecwiti.

Yr anhawster, Mike, gyda chyfalaf trafodion ariannol a'r awgrym a wnaethoch—mae'n debyg fod yna ffordd y gallwn wneud hynny, rwy'n eithaf sicr, ond dim ond drwy effeithio ar ecwiti'r lesddeiliad, a dyna un o'r anawsterau wrth geisio dod o hyd i gynllun sy'n bwrw ymlaen ag ef sy'n golygu bod y lesddeiliad yn cael rhywbeth ar eu ddiwedd. Felly, gallwn wneud gwaith yn ddiofyn, gall cynghorau wneud gwaith yn ddiofyn, gallant wneud pob math o bethau, gallant godi tâl tir ar eiddo'r bobl sy'n byw yno, ond ni fydd ecwiti gan y bobl hynny yn y pen draw. Mae hynny'n datrys y broblem diogelwch tân uniongyrchol, sy'n werth ei wneud, ond nid yw'n datrys y broblem y byddant yn aml wedi buddsoddi eu holl gynilion ac ymdrech sylweddol ac na fydd ganddynt unrhyw beth yn y pen draw. Felly, nid yw honno'n ymddangos i mi yn ffordd dda ymlaen. Felly, mae angen inni edrych ar rywbeth sy'n caniatáu iddynt hefyd fynd ar drywydd hawliadau yn erbyn yswirwyr a chwmnïau adeiladu ac nid yw ein hymyriad yn ymyrryd yn hynny. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld, a bydd y swyddogion yn dilyn yn agos beth sy'n digwydd gyda chronfa'r DU, i wneud yn siŵr nad ydym yn wynebu'r trafferthion hynny. Ac nid wyf wedi bod yn gwbl fodlon fod hynny'n mynd i ddigwydd, mewn gwirionedd. 

Felly, mae'n bwysig deall ein bod yn ceisio gwneud tri pheth ar unwaith: rydym yn ceisio cael yr adeilad i fod yn ddiogel rhag tân, sy'n un peth; rydym yn ceisio datrys anawsterau'r lesddaliad ei hun a'r ffordd y mae'r cwmni rheoli'n ei redeg, dyna'r peth arall; a'r trydydd peth yw ein bod yn ceisio cadw rhywfaint o ecwiti i'r bobl sydd yn y sefyllfa hon heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Y trydydd peth hwnnw mewn gwirionedd yw'r peth anoddaf, serch hynny. Gallwn ariannu'r awdurdodau lleol i wneud y gwaith yn ddiofyn, ond byddent yn codi tâl tir ar yr adeiladau a byddai hynny'n ddiwedd ar yr ecwiti. Felly, mae'n beth eithaf anodd, ac mae hynny'n gweithio ar gyfer y cyfalaf trafodion ariannol hefyd. Felly, rydym wedi edrych ar gryn dipyn o'r pethau hyn. 

Ar y pwynt hwn, hoffwn gynnig y peth rwy'n ei ddweud bob amser: nid yw'r holl syniadau gennyf yma. Rwy'n hapus iawn i weithio ar y cyd ag unrhyw Aelod arall yn y Siambr sydd ag unrhyw syniad o gwbl ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud. Rydym yn gwylio cronfa'r DU yn ofalus. Nid ydynt wedi gwario llawer ohoni eto, felly bydd yn ddiddorol gweld beth sy'n digwydd. Mae arnaf ofn ei fod yn mynd i fynd â'r ecwiti oddi wrth y lesddeiliaid, dyna'r gwir. Felly, cawn weld, ond mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r bobl. Felly, rydym yn edrych arno'n bendant iawn. Nid ydym wedi camu drosto eto gan nad oes gennyf ateb sydd, yn fy marn i'n bersonol, yn gwneud beth y mae pobl ei eisiau. 

Y peth arall i'w ddweud yw bod angen inni newid y system a gynhyrchodd y system hon. Fel y dywedodd David, mae'n gywilyddus fod Llywodraethau o bob lliw wedi methu ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn, felly mae angen inni wneud hynny yn awr. Mae angen cyfundrefn newydd i ganolbwyntio ar feysydd y gwyddom fod angen iddynt wella, sefydlu llinellau atebolrwydd clir, creu rolau a chyfrifoldebau newydd i'r rhai sy'n berchen ar yr adeiladau perthnasol ac yn eu rheoli, sy'n golygu na fydd unrhyw amheuaeth yn y dyfodol pwy sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb. Hoffwn ddweud hefyd ar y pwynt hwn, er ein bod yn edrych ar y drefn diogelwch adeiladu o safbwynt pwy sy'n ei gorfodi—felly, holl rôl yr arolygydd adeiladu ac yn y blaen, nad oes gennyf amser i ymhelaethu arni yn awr, Ddirprwy Lywydd; mae'n awr o sgwrs, ac rydym eisoes wedi cael cyflwyniadau yn y Senedd ar hynny—mae problem fawr yn codi hefyd ynglŷn â sicrhau nad yw pobl yn prynu tai oddi ar gwmnïau cyfrwng un diben. David, fe ddywedoch chi yn eich cyflwyniad fod pobl wedi'u prynu gan adeiladwyr y gellir ymddiried ynddynt, pobl yr oeddent yn eu hadnabod, ond mewn gwirionedd roeddent yn aml yn gwmnïau cyfrwng un diben a oedd yn cario enw cwmni mawr ond a oedd yn cael eu gwarchod rhagddynt gan fecanwaith cyfreithiol. Felly, mewn gwirionedd, mae rhoi camau ar waith yn erbyn y cwmni daliannol wedi bod yn broblem. Felly, mae arnom angen cyfundrefn sy'n atal hynny rhag digwydd hefyd, fel nad ydych yn ffurfio 'cwmni adeiladu Melding a James inc.' er mwyn adeiladu un adeilad yn unig, a chwalu cwmni cyfrwng un diben a gadael.

Felly, mae materion eraill ar waith yma sy'n gymhleth iawn. Ac mae eich calon yn gwaedu dros y lesddeiliaid sy'n ceisio llywio eu ffordd drwy bwy yn union y maent yn ceisio eu herlyn, pwy'n union sy'n gyfrifol. Yn ogystal, mae llawer o'r cwmnïau hynny naill ai wedi rhoi'r gorau i weithredu fel busnes, neu wedi mynd yn fethdalwyr, neu maent wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ac mae cadwyn o gyfrifoldebau'n cael ei throsglwyddo. Mae'n un o'r pethau mwyaf cymhleth rwyf wedi'i weld mewn gyrfa gyfreithiol go hir, felly—wyddoch chi, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â hynny, ond mae angen i ni lywio ein ffordd drwy fateron eithaf cymhleth wrth geisio datrys beth sy'n digwydd. 

Rydym wedi sôn am y drefn dân droeon. Mae angen inni godi'r safonau, gwella cymhwysedd y diwydiant, grymuso preswylwyr â hawliau gwell a llais cryfach fel bod ganddynt ffordd o ddefnyddio hynny cyn gynted ag y byddant yn sylwi ar y diffygion a bod hynny'n bwydo i mewn i'r system yn gywir. Mae'n demtasiwn i ddweud: 'Edrychwch, ewch amdani: gwnewch hynny, deliwch ag ef', ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau ei bod yn system reoleiddio gryfach a mwy cydlynol, gyda chyrff gorfodi'n gallu rhoi camau difrifol ar waith gan wybod y bydd hynny'n digwydd.

Mae'n ymwneud â newid diwylliannol hefyd. Felly, rydym i gyd bellach yn derbyn, rwy'n credu, fod angen inni symud o ddiwylliant sy'n rhoi blaenoriaeth i godi'r adeilad am y gost rataf bosibl, i godi'r adeilad mewn ffordd sy'n sicrhau diogelwch ac ansawdd y ffordd o fyw sydd gan y bobl yn yr adeiladau hynny. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n newid diwylliannol mawr iawn. Y newidiadau—ni allwn eu cyflwyno dros nos; nid ateb cyflym arwynebol yw hwn, fel y dywedais droeon, ond diwygio cyfan gwbl sy'n creu newid ystyrlon ac sy'n sicrhau preswylwyr fod eu cartrefi'n ddiogel.

Oherwydd COVID-19, mae'n ddrwg gennyf ddweud ein bod bellach wedi colli ein rhaglen ddeddfwriaethol, dechreuadau'r rhaglen ddeddfwriaethol, ar gyfer diogelwch adeiladu a fyddai wedi bod gennym ac a gyflwynwyd gennyf yn y Senedd tua blwyddyn yn ôl bellach, rwy'n meddwl, mewn ymateb i ddadl a gyflwynwyd gan David bryd hynny. Felly, yn lle hynny, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn. Credaf y bydd y Papur Gwyn yn denu cefnogaeth drawsbleidiol, a hoffwn yn fawr ei weld ym maniffestos yr holl bleidiau yma yn y Senedd fel y byddem yn gwybod y byddai'n cael ei ddatblygu gan bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth y tro nesaf. A Ddirprwy Lywydd, byddwn yn sicr yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 8:07, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 20:07.