1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cartrefi mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn cael offer addas i atal llifogydd? OQ55508
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â phob awdurdod rheoli perygl llifogydd i annog ceisiadau i ariannu mesurau gwrthsefyll llifogydd i eiddo, gan gynnwys gatiau llifogydd, lle ystyrir mesurau o'r fath yn opsiwn priodol ar gyfer lleihau perygl llifogydd i gartrefi.
A gaf fi ddweud yn gyntaf, Weinidog, fy mod yn croesawu’r ateb hwnnw? Gwn eich bod wedi mynd ati o ddifrif ar fater llifogydd pan gafwyd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf a Thaf Elái. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb cyflym a gawsom a'r cydweithredu rhwng cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym yn aros am gyfres o adroddiadau ymchwiliadau pwysig iawn. Credaf fod wyth ar gyfer Taf Elái yn unig y disgwylir iddynt fynd i’r afael â materion amrywiol sy'n codi o lifogydd. Nawr, fel y gwyddoch—a gwn eich bod yn deall hyn yn iawn—wrth gwrs, wrth i'r gaeaf agosáu, mae gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd neu sy'n byw mewn ardaloedd perygl llifogydd bryderon gwirioneddol y gallai'r un peth ddigwydd eto, ar ôl cael trefn ar eu tai, y gallant wynebu rhagor o lifogydd os byddwn yn wynebu stormydd mwy difrifol. Un o'r meysydd allweddol sydd wedi dod i'r amlwg yn y gwahanol gyfarfodydd a gefais i a fy nghydweithiwr Alex Davies-Jones gyda thrigolion lleol yw mater amddiffyn tai yn benodol. Nawr, fe sonioch chi am gatiau llifogydd, ond mae materion yn codi ynghylch fentiau amddiffyn ac ati. Byddwn yn ddiolchgar, efallai, pe gallech egluro, os bydd ceisiadau'n cael eu gwneud naill ai gan gyngor Rhondda Cynon Taf neu gan unigolion, ac ati, am fesurau gwrthsefyll llifogydd o'r fath, y byddant yn cael eu derbyn a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru os gellir dangos y byddent yn lliniaru'r perygl llifogydd. Oherwydd yn amlwg, ni all fod yn iawn fod unrhyw dŷ a allai elwa o fesurau gwrthsefyll llifogydd o'r fath yn methu fforddio eu gwneud. Os na allwn atal newid yn yr hinsawdd a pherygl llifogydd, yn sicr mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cefnogi'r cymunedau sydd wedi wynebu canlyniadau llifogydd.
Diolch yn fawr, Mick Antoniw. O ran y pwynt a wnaethoch ynglŷn ag adroddiadau ymchwiliadau, fel y dywedoch chi, rydym yn aros am sawl adroddiad ymchwiliad llifogydd statudol. Hoffwn gadarnhau y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi i breswylwyr, aelodau etholedig ac unrhyw un arall sydd â diddordeb eu gweld. Efallai y byddant yn cyflwyno argymhellion pellach ar gyfer lleihau perygl, y gallwn wedyn eu hystyried fel mater brys. Fel chithau, nid wyf am weld llifogydd yn digwydd eto yn y cymunedau a gafodd eu taro mor wael yn gynharach eleni, ac unwaith eto, yn fy ateb cynharach i Janet Finch-Saunders, roeddwn yn dweud ein bod wedi gweld llifogydd dros yr haf yn anffodus.
Rwyf wedi darparu'r holl arian y mae awdurdodau lleol a CNC wedi gofyn amdano i wneud atgyweiriadau yn eich ardal etholaethol, fel mewn ardaloedd eraill, a chredaf fod gwir angen inni fod wedi gwneud hynny fel y gallwn atal llifogydd yn yr un ardal eto y gaeaf hwn. Mae gatiau llifogydd, fentiau aer a mesurau gwrthsefyll llifogydd tebyg yn gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru drwy ein hawdurdodau rheoli perygl llifogydd, felly byddwn yn annog defnyddio mesurau gwrthsefyll llifogydd i eiddo, yn enwedig ar gyfer cartrefi mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn ddrwg yn gynharach eleni. Unwaith eto, mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i'w hatgoffa bod yr arian hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar gael, ac rwy'n siŵr y byddwch yn sicrhau bod unrhyw un o'ch etholwyr yn gwneud hynny hefyd.
Yn ddiweddar, ymwelais ag Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy gyda’r Aelod Seneddol lleol, David Davies, i weld drosof fy hun yr effeithiau dinistriol y mae llifogydd wedi’u cael ar eu pentref. Cafodd llifogydd y gaeaf diwethaf effaith ddinistriol ar gynifer o drigolion lleol, ac mae pryderon ynghylch hynny’n digwydd eto y gaeaf hwn yn peri nosweithiau di-gwsg i lawer o drigolion, yn amlwg, ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, o gofio ein bod bellach yn yr hydref, a wnewch chi annog CNC i gyflymu eu hadroddiad ar Ynysgynwraidd a chostau a manteision y cynlluniau yno, gan fod diogelwch, cartrefi a bywoliaeth pobl mewn perygl? Diolch.
Ie, fel y dywedais yn fy ateb cynharach, mae'r un peth yn berthnasol i Sir Fynwy hefyd, felly rwy’n fwy na pharod i atgoffa CNC o hynny. Ond hefyd i ddweud wrth yr Aelod am gysylltu â'r awdurdod lleol i'w hatgoffa y gallant wneud cais am y cyllid hwnnw—ac mae'n gyllid grant 100 y cant.
Weinidog, ysgrifennais atoch yn gynharach y mis hwn, ac rwyf wedi codi mater llifogydd yn y Rhondda sawl gwaith gyda chi yma yn y Senedd. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol ynglŷn â pham fod cymaint o gymunedau yn y Rhondda wedi dod yn agored i lifogydd yn sydyn, ond ni ddylai'r ymchwiliad hwn atal unrhyw fesurau ataliol neu waith adfer. Tybed a allwch ddweud wrth y Senedd beth rydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i hyrwyddo a chefnogi cyllid ar gyfer llifddorau. Nawr, rwy’n cyfeirio at lifddorau ac nid gatiau llifogydd, gan fod llifddorau’n fwy cadarn ac amddiffynnol na gatiau llifogydd. Clywais eich ateb yn gynharach, felly tybed a allwch ddweud wrthym beth y mae angen i bobl ei wneud os ydynt yn byw mewn cymuned sy'n agored i lifogydd i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn talu neu’n cyfrannu tuag at gost llifddor ar gyfer eu heiddo sy’n agored i berygl llifogydd.
Yr hyn y dylai eich etholwyr ei wneud yw sicrhau eu bod yn cysylltu â'r awdurdod lleol, a all wedyn gyflwyno cais am y cyllid hwnnw. Rwy'n ei ddweud eto: rydym yn rhoi cyllid 100 y cant i’r awdurdod lleol. Nid wyf yn gwybod llawer am lifddorau, ond deallaf eu bod yn gryfach na gatiau llifogydd, a chredaf ei bod yn ddiogel dweud na fyddai gatiau llifogydd byth yn datrys pethau'n hirdymor, ond yn sicr yn y tymor byr, gallant fod o gymorth. Felly, byddwn yn eu hannog i gysylltu â'u hawdurdod lleol, a all sicrhau wedyn eu bod yn gwneud cais am y cyllid hwnnw. Ceir llawer o fesurau lliniaru llifogydd—soniais am fentiau hefyd—ac efallai, wrth ymweld, gellid rhoi'r mesur mwyaf priodol ar waith. Ond i ddechrau, cysylltwch â'r awdurdod lleol.