2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 16 Medi 2020.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb llywodraeth leol yng ngoleuni COVID-19? OQ55496
Diolch, Llyr. Mae'r ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer llywodraeth leol wedi cynyddu'n sylweddol yn 2020-21 i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i effeithiau COVID-19. Cyhoeddais ein bod yn cynyddu'r gronfa galedi i awdurdodau lleol i £497 miliwn dros y toriad.
Diolch i chi am yr ymateb hynny. Mae'r sicrwydd wedi cael ei roi, wrth gwrs, ynglŷn â digolledu yn y chwarter cyntaf. Dwi jest eisiau eglurder y bydd hynny yn dilyn yn ail chwarter y flwyddyn ariannol yma. Ond hefyd, wrth gwrs, mae nifer o awdurdodau lleol nawr yn cynllunio ar gyfer eu cyllideb y flwyddyn nesaf, a rhai ohonyn nhw yn ystyried toriadau adrannol. Felly, dwi'n gofyn i chi a oes yna unrhyw arweiniad neu unrhyw neges y gallwch chi ei roi y prynhawn yma i'r awdurdodau hynny wrth gynllunio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, na fyddan nhw'n torri llawer o'r gwasnaethau allweddol sydd ar gael ar hyn o bryd ar yr adeg pan fydd eu hangen nhw yn fwy nag erioed?
Ar bwynt yr ail chwarter, gallaf ddweud wrthych y byddwn yn talu—mae'r gronfa galedi'n rhedeg drwy'r ail chwarter, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir i drysoryddion, prif weithredwyr ac arweinwyr awdurdodau lleol yn y cyswllt wythnosol rhyngom, sy'n dal i fynd rhagddo.
O ran y rhagdybiaethau cynllunio, rydym wedi dechrau—rydym i gyd ymhell ar ei hôl hi o ran lle dylem fod fel arfer o ran cynllunio cyllidebol, ac nid yw hynny'n syndod efallai. Mae'r pandemig wedi tynnu ein sylw braidd, yn amlwg, a dim ond cadw gwasanaethau i fynd a wnawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, sydd wedi gwneud popeth yn eu gallu ac wedi mynd ati'n wych i staffio ein canolfannau cymunedol, gan helpu gyda'n rhaglen warchod a'n rhaglen profi, olrhain a diogelu yn awr yn y sector cyhoeddus. Ni allem fod wedi gwneud hyn oni bai eu bod wedi camu i'r adwy gyda hynny. Ac felly, roeddem am wneud yn siŵr nad oedd ganddynt bryderon ariannol ychwanegol tra oeddent yn gwneud hynny ac y gallent barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Felly, mae enghraifft digartrefedd yn un dda. Gallem fod wedi rhoi llawer o arian tuag at ddigartrefedd, ond pe baem wedi torri'r gyllideb dai neu heb ei chadw lle roedd hi, byddai wedi mynd yn wastraff. Ond ni wnaethom hynny; gwnaethom gadw'r cyllid ac rydym wedi rhoi arian ychwanegol iddynt.
Felly, ar y rhagdybiaethau cynllunio, rydym newydd ddechrau siarad â hwy am yr hyn rydym yn ei ddisgwyl o ran senario waethaf resymol, mantoli'r gyllideb ac yn y blaen, ac mae hynny ynghlwm, wrth gwrs, wrth adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU, y maent yn sôn amdano yn awr.
Ac felly, ein gobaith—a deallaf fod y Llywydd wedi trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans—yw y byddwn yn gallu atal amserlen arferol y gyllideb ar gyfer y Senedd, ond mae'n dibynnu ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad a'n bod yn deall beth a ddaw ohono cyn y gallwn ei drosglwyddo i'n partneriaid. Ond byddwn yn gweithio gyda hwy drwy gydgynhyrchu er mwyn deall beth fydd y rhagdybiaethau sylfaenol a beth yw'r gwahanol fathau o gynllunio. Felly, os ydym i gyd yn cynllunio ar gyfer toriad o 1 y cant, beth fyddai hynny'n ei olygu i wasanaethau, neu os ydym i gyd yn cynllunio ar gyfer mantoli'r gyllideb, ac yn y blaen, fel rydym yn ei wneud? Er hynny, mae'n fwy cywasgedig eleni nag y byddem yn ei ddisgwyl fel arfer.
Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y cyhoeddiad diweddaraf am arian i lywodraeth leol i'w groesawu'n fawr wrth gwrs. Dylid rhoi clod lle mae'n ddyledus—credaf fod y ffaith y bydd yn cael ei roi allan ar sail hawliadau yn syniad gwych. Roeddwn am wybod a all y Gweinidog roi hyder inni heddiw y caiff hawliadau eu hasesu'n deg, o gofio bod rhai cynghorau llai, fel Sir Fynwy, wedi cael eu taro'n anghymesur oherwydd y fformiwla ariannu annheg, sydd, dros y blynyddoedd, wedi lleihau eu cronfeydd wrth gefn i lefelau isel, tra bod cynghorau eraill sy'n cael eu hariannu'n well wedi cronni cronfeydd wrth gefn enfawr o dros £100 miliwn, er enghraifft.
Nid wyf yn cydnabod y disgrifiad hwnnw o'r fformiwla ariannu o gwbl. Mewn gwirionedd, dywedodd trysorydd Sir Fynwy—[Torri ar draws.] Ni allaf glywed beth y mae'r Aelod ar y sgrin yn ei ddweud, Lywydd.
A gawn ni dawelwch i bawb glywed y Gweinidog, os gwelwch yn dda?
Cefais gyfarfod da iawn gyda phrif weithredwr a phrif drysorydd Mynwy, ochr yn ochr â'r arweinydd, yn ddiweddar iawn i drafod y rhagolygon ar gyfer Sir Fynwy. Rydym yn ymwybodol iawn fod y pandemig wedi taro cynghorau mewn ffordd wahanol, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda'r cynghorau i ddeall sut olwg sydd ar hynny. Felly, yn achos Sir Fynwy, er enghraifft, mae'n dibynnu llawer mwy ar gasglu'r dreth gyngor na chynghorau eraill mewn mannau eraill, ac mae'n dibynnu llawer mwy ar ffioedd a thaliadau incwm. Felly, mewn rhai ffyrdd, maent yn gwneud yn well o'r gronfa galedi nag awdurdodau eraill. Felly, rydym yn sicr yn gwneud hynny, a dyna pam y caiff ei wneud ar sail hawliadau, fel y gallwn weithio gydag awdurdodau unigol i ddeall yr effaith yn yr awdurdod hwnnw.
Yn amlwg, gwneir y fformiwla ddosbarthu drwy'r mecanwaith sy'n cynnwys pob cyngor, ac mewn gwirionedd, mae trysorydd Mynwy yn aelod gweithgar iawn o'r grŵp hwnnw.