2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru ar 22 Medi 2020.
5. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyhoeddiad yr Undeb Ewropeaidd y byddai'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwerthu o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon a'r UE? OQ55547
Nid wyf yn ymwybodol bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o'r fath. Fodd bynnag, mae'r mater o restru'r DU ar gyfer mewnforion bwyd yr UE yn dangos pwysigrwydd y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn peryglu'r trafodaethau hynny, sy'n anghyfrifol dros ben ac yn peri risg wirioneddol i Gymru.
Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid imi anghytuno â chi ar hynny. Mae'r posibilrwydd na fydd anifeiliaid a chynhyrchion Prydain yn cael eu hychwanegu at restrau glanweithdra a sicrhau iechyd planhigion yr UE ar gyfer gwledydd y tu allan i'r UE yn achosi pryder mawr. Er enghraifft, allforiwyd 37,400 tunnell o gig defaid i Ffrainc, a 40,600 tunnell o gig eidion i Iwerddon y llynedd. Nawr, yn ôl Nick von Westenholz o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, dylai rhestru fod yn fater technegol syml. Yn yr un modd, mae prif weithredwr Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain wedi dweud mai'r cwestiwn ehangach yw pryd fydd statws trydydd gwlad yn cael ei roi. Yn ffodus, bydd Llywodraeth y DU yn gosod is-ddeddfwriaeth fis nesaf i egluro'r gweithdrefnau rhestru hyn, ac maen nhw wedi dweud: 'Rydym yn gweithredu'r un rheolau a byddwn ar ddiwedd y cyfnod pontio. Serch hynny, mae'n fanteisiol cymryd camau o flaen llaw.' Felly a fu'n rhaid i chi ddiwygio'r paratoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio yng ngoleuni'r bygythiad hwn, a pha fanylion y gallwch chi eu darparu ynghylch y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd pe na bai Cymru yn gallu gwerthu cynnyrch anifeiliaid i'r UE?
Wel, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, mewn sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer amrywiaeth o fygythiadau o ganlyniad i gynnal trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi rhestru droeon y niwed y bydd y llwybr presennol yn ei achosi i allforwyr bwyd Cymru, ac rwy'n falch o'i chlywed yn rhestru yn ei chwestiwn y risgiau sy'n real iawn i'r ffermwyr a'r cynhyrchwyr bwyd hynny ledled Cymru. Dywedodd hefyd yn ei chwestiwn fod hwn yn fater technegol syml. A chytunaf â hynny. Nid wyf yn credu bod unrhyw ddatganiad wedi bod ar ran yr UE na fydd hyn yn digwydd. Ond mae yna angen dealladwy i fod yn glir ynghylch pa safonau y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu rhoi ar waith. Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth y DU yn awyddus i gyflwyno'r rheini, yn bennaf oherwydd, dan yr amgylchiadau presennol, siawns nad oes modd derbyn fel ffaith ei sicrwydd ynghylch safonau uchel yn y dyfodol.