Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 22 Medi 2020.
Ie, diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Y nod terfynol, o ran y cyfyngiadau a gyflwynwyd, yw lleihau a rhwystro'r feirws ac osgoi niwed. Ac fe fyddwch wedi gweld prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU a Phrif Swyddog Meddygol Lloegr yn nodi ddoe, oni fydd mesurau yn cael eu cymryd i atal lledaeniad y feirws, y gallwn ddisgwyl gweld, erbyn canol mis Hydref, ar gyfraddau twf cyfredol ledled y DU, 50,000 o achosion y dydd, gyda chynnydd cysylltiedig yn nifer yr achosion mewn ysbytai y byddai hynny'n ei achosi, yn ogystal, yn anffodus, â'r cynnydd yn nifer y marwolaethau.
Felly, diben y mesurau yr ydym ni'n eu cyflwyno nawr yw ceisio osgoi'r niwed hwnnw. Cyfrifoldeb Llywodraethau ledled y DU, ein gwasanaeth iechyd, yw paratoi ar gyfer y cynnydd posibl mewn achosion, ond, yn yr un modd, mae'r cyfrifoldeb personol a rannwn ni i gyd a'n swyddogaeth ni fel arweinwyr, nid yn unig o fewn ein pleidiau gwleidyddol penodol ni, ond yn ein cymunedau ni, am y math o ymddygiad y mae angen i bob un ohonom ei ailystyried o ran sut i gyfyngu ar ein cysylltiadau, sut rydym yn deall ac yn dilyn y rheolau, ac, yn benodol, y rheolau sy'n ymwneud â chyswllt aelwydydd.
Rwy'n credu mai un o'r pethau anoddaf y bu'n rhaid i ni eu gwneud yw newid y trefniadau ynglŷn ag aelwydydd estynedig a symud tuag at aelwydydd unigol yn yr ardaloedd hynny sydd â chyfyngiadau lleol. Y rheswm am hynny yw mai cyswllt rhwng aelwydydd yw'r prif ysgogiad. Ac felly mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall y dylech gael grŵp wedi'i gyfyngu i bedair aelwyd, a'r un bedair aelwyd. Nid yw'n golygu eich bod i gyd yn dewis pedair aelwyd arall. Pedair aelwyd, mewn rhannau eraill o Gymru, i gael cyswllt dan do, gan gynnwys pan ydych yn mynd allan i dafarn neu fwyty gyda'ch gilydd—i fod gyda'r bobl hynny'n unig wrth archebu eich lle. Os na fydd hynny'n digwydd, yna fe fyddwn ni'n debygol iawn o weld cynnydd pellach yn lledaeniad y feirws, gyda'r holl niwed a ddaw yn sgil hynny.
Ac rydym yn gwneud hyn i osgoi niwed ac osgoi cyfnod clo cenedlaethol. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi mai ymadrodd yw hwn, ond mae'r ymadrodd 'i osgoi cyfnod clo cenedlaethol ar bob cyfrif', wel, ni all fod yn addas, oherwydd, o bosibl, 'pob cyfrif' yw'r cynnydd cyflym a sylweddol mewn achosion a niwed yr ydym ni'n ceisio ei osgoi. Rydym wedi bod yn glir iawn, serch hynny, mai cyfnod clo cenedlaethol yw'r dewis olaf ar gyfer osgoi'r raddfa sylweddol honno o niwed. Dyna fel y mae hi o hyd yn y Llywodraeth hon, ac, yn wir, mewn llywodraethau eraill ledled y DU. Ac rydym ni eisoes wedi codi ein stondin: fe fyddwn ni'n cymryd camau eraill, a chau ysgolion yw'r pwynt olaf, cyn i ni gymryd unrhyw gamau eraill. Y peth olaf un yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw cau ysgolion, am resymau y mae'r Aelodau'n eu deall.
Fe fydd y normal newydd yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus yr ydym ni'n dilyn y canllawiau hynny ar gadw pellter cymdeithasol ac wrth leihau ein cysylltiadau ni, a pheidio â bod â llawer iawn o gyswllt â grwpiau sylweddol o bobl amrywiol dan do. Dyna pam mae gennym ni reolau ynglŷn ag aelwydydd estynedig ar waith. Os gwnawn ni hynny, yna mae'n bosibl y gallwn ni ddal trwy'r gaeaf heb orfod cymryd camau mwy sylweddol eto. Rydych chi wedi gweld y Prif Weinidog yn cyhoeddi, drwy'r cyfryngau ac yna yn ei ddatganiad heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, fesurau cenedlaethol sylweddol sy'n cael eu cymryd ledled Lloegr. Rydym ninnau'n cyfarfod i drafod yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yng Nghymru, a chyn gynted ag y gallwn ni, fel y nododd Prif Weinidog Cymru'n gynharach, fe fyddwn yn dod i'r fan hon. Ac mae hynny'n wir yn dibynnu ar yr hyn a benderfynir yn y trafodaethau sy'n dal i ddigwydd tra rwyf i yn y Siambr, a phan fyddaf y gadael yn nes ymlaen i ymuno â'r trafodaethau hynny.
O ran y prifysgolion, rwy'n falch iawn o ddweud bod yr heriau sy'n gysylltiedig â'r maint sylweddol o gymysgu sy'n digwydd fel arfer ar ddechrau blwyddyn prifysgol—wel, hoffwn ganmol prifysgolion ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru a'u haelodau nhw am y dull cyfrifol iawn y maen nhw'n ei ddefnyddio ar lefel arweinyddiaeth. Fe fydd gan y Gweinidog Addysg fwy i'w ddweud yr wythnos hon am y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn trefi a dinasoedd prifysgol.
O ran lleihau gofal dewisol, rwyf wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'r ffaith fod yna ostyngiad wedi bod mewn gofal dewisol drwy gydol y pandemig—a ysgogwyd yn rhannol gan y mesurau y bu angen i ni eu cymryd i roi terfyn ar weithgarwch dewisol ar un pwynt yn bennaf, ac a ysgogwyd yn rhannol gan amharodrwydd pobl i ddod i mewn i ysbyty ar gyfer eu triniaethau, ac a ysgogwyd yn rhannol erbyn hyn gan y sefyllfa wirioneddol, gyda mwy o bobl mewn angen oherwydd bod ein gallu ni i brosesu yn arafu. Mae hyn yn gorfod wynebu gwasanaeth na all weld yr un nifer o bobl ar yr un pryd ag y gwnaethai o'r blaen oherwydd gofynion diogelwch COVID, gan gynnwys gofynion cyfarpar amddiffynnol personol sylweddol ar gyfer ein staff ni. Felly, fe fydd honno'n her wirioneddol yma yng Nghymru a ledled gweddill y DU.
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar gyfer brechu gorfodol; nid ydym yn bwriadu ceisio pwerau deddfu sylfaenol i wneud hynny. Bob blwyddyn, rydym yn cael trafodaeth am y brechlyn ffliw, ac arferai eich rhagflaenydd chi fel llefarydd iechyd yr wrthblaid, bob blwyddyn, ofyn i mi a fyddem ni'n mandadu bod staff yn ein gwasanaeth iechyd ni'n cael y brechlyn ffliw. Bob blwyddyn, fe fyddem ni'n penderfynu peidio gwneud hynny, a dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd hefyd. Ac fe ddywedais i neithiwr mai gorfodaeth fyddai'r cam mwyaf eithafol a mwyaf annhebygol, ac nid ydym ni'n bwriadu gwneud hynny. Nid dyna yw ein bwriadu ni.
Felly, ein cynllun ar gyfer brechu, os a phan gawn ni frechlyn COVID, yw gwneud hynny gan esbonio'r manteision a'u deall, ac rwy'n credu y bydd llawer iawn o'r cyhoedd yn cydsynio i gael y brechlyn. Ac nid wyf i o'r farn i mi beidio â bod yn eglur nad yw hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud. A dyna safbwynt clir a diamwys y Llywodraeth yn hyn o beth, yn fy marn i.