Part of the debate – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Medi 2020.
Wel, Lywydd, fe welaf a oes unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud y gallaf ymateb yn gadarnhaol iddo. Rwy’n gwadu unrhyw ddiffyg parch yn llwyr. Mae'r Llywodraeth hon wedi ateb cwestiynau ar lawr y Senedd drwy gydol argyfwng y coronafeirws, gan gynnwys drwy gydol y toriad. Rydym wedi bod ar gael i'r Senedd hon i raddau mwy nag unrhyw Senedd arall yn y Deyrnas Unedig o ran eu gallu i holi’r Gweinidogion sy'n gyfrifol yn y gwahanol fforymau democrataidd hynny. Buom yn gwneud penderfyniadau yma, fel y dywedais, hyd nes yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn gyfrifol am yr amser y mae'r BBC yn mynnu bod deunydd yn cael ei ddarparu iddynt; nid yw hwnnw'n benderfyniad rwy'n ei wneud, mae'n benderfyniad y mae darlledwyr yn ei wneud oherwydd eu rhwymedigaethau amserlennu, a gwnaethom wthio hynny i'r eithaf er mwyn ceisio gwneud penderfyniadau yn y ffordd y credaf fod angen eu gwneud yng Nghymru. Ac rwy’n falch iawn o fod yma y prynhawn yma, ar y cyfle cyntaf, yn ateb cwestiynau’r Aelodau.
O ran gweddill cyfraniad Adam Price, nid wyf yn hollol siŵr beth i'w wneud ohono, Lywydd. Gofynnodd imi ddilyn cyngor prif swyddog meddygol a oedd yn brif swyddog meddygol 20 mlynedd yn ôl pan fo gennyf brif swyddog meddygol yma heddiw y gallaf gael ei gyngor a gwneud fy ngorau i'w ddilyn.
Mae'n cwyno am bobl yn clywed pethau mewn cynadleddau newyddion yn hytrach nag yn y Senedd, ac yna'n fy annog i ailgyflwyno cynadleddau newyddion bob diwrnod o'r wythnos. Dywed nad yw un maint yn addas i bawb, ac yna mae’n fy annog i fynd ymhellach o lawer wrth gyfyngu ar y rhyddid sydd ar gael i bobl yn eu bywydau bob dydd yng Nghymru. Wel, nid wyf yn cytuno ag ef. Ni chredaf ei fod yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth sydd gennym o dan y rheoliadau yng Nghymru i fod yn gymesur ym mhob cam a gymerwn, i bwyso a mesur y risg i iechyd y cyhoedd, ac yna i weithredu mesurau y credwn eu bod yn gymesur â'r risg honno. Dyma pam y bydd gennym ddull gweithredu yng Nghymru sy'n parhau i fod yn ofalus. Sawl gwaith ar lawr y Senedd y mae'r Aelodau wedi fy annog i beidio â bod mor ofalus, i beidio â llusgo ar ôl—fel y mae pobl wedi’i ddweud wrthyf—pan fo rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi mynd ymhellach, gan gynnwys gan arweinydd Plaid Cymru ei hun, pan oedd yn nodi’r Alban fel enghraifft? Mae ein dull gofalus, pwyllog wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda. Byddwn yn parhau i fod yn gymesur i’r graddau mwyaf posibl yn y penderfyniadau a wnawn.
Mae'r model Gwyddelig y cyfeiriodd yr Aelod ato, ymhlith ei lu o gyfeiriadau eraill at leoedd nad oes gennyf gyfrifoldeb o gwbl amdanynt, yn Antwerp a Sweden a rhannau eraill o'i brosbectws teithio rhyngwladol—. Yn Iwerddon, maent wedi gorfod adolygu eu model mor aml fel ei bod yn anodd iawn, rwy'n credu, i bobl ddal i fyny â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud. Er symlrwydd ac er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gael unrhyw obaith o ddeall y rheolau rydym yn gofyn iddynt gadw atynt, rydym yn ceisio gwneud y newidiadau hynny mor anaml â phosibl. Dyna'r trywydd rydym yn parhau i'w ddilyn yma yng Nghymru, ac mae'r cyhoeddiadau a wnaed ac yr adroddwyd amdanynt i'r Senedd heddiw yn gyson â'r dull hwnnw o weithredu.