Part of the debate – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 23 Medi 2020.
Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y mesurau ar gyfer Cymru gyfan a gyhoeddwyd ddoe gan y Prif Weinidog. Fodd bynnag, hoffwn innau gofnodi pa mor annerbyniol yw’r ffaith na chawsom gyfle i wneud hyn ddoe. Mae'r Senedd wedi cael ei gwthio i'r cyrion dro ar ôl tro o blaid llywodraethu drwy friffiau i'r wasg. Nid oedd yn wir, fel y dywedwyd wrthych, Lywydd, na allem drafod hyn neithiwr gan nad oedd y Prif Weinidog wedi penderfynu bryd hynny, oherwydd o fewn munudau yn llythrennol i adael y Siambr ar ôl i'r trafodion ddod i ben, dywedwyd wrthyf mewn cryn fanylder gan y BBC beth oedd y Llywodraeth wedi'i benderfynu. Yn ogystal â dangos diffyg parch tuag atoch chi, Lywydd, mae hyn yn tanseilio'r sefydliad hwn a'n rolau fel Aelodau etholedig, mae'n atal craffu democrataidd priodol ac mae'n erydu hyder. Ac os yw'r Prif Weinidog am ddadlau’n groes, efallai y gall ddweud wrthym pa bryd y recordiodd y neges a recordiwyd ymlaen llaw a ddarlledwyd wedyn i'r genedl.
Gan droi at gynnwys y cyhoeddiad, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Prif Weinidog pan ddywed fod posibilrwydd gwirioneddol fod yn rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif ynglŷn â'r ffaith y gallai’r feirws ailgydio unwaith eto yn ein cymunedau yng Nghymru. Ymddengys i ni, fodd bynnag, yn y cyhoeddiad neithiwr o leiaf, fod y Llywodraeth yn anghytuno â'r cyngor a roddwyd i Weinidogion gan y gell cyngor technegol, sy'n nodi yn eu hadroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ddoe y gall ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr atal cyfnodau hir o gyfyngiadau symud. Ac mae'r dystiolaeth sydd ger ein bron, y rheswm pam ein bod yn cael y datganiad hwn, yn awgrymu nad yw'r ymateb hyd yma wedi bod yn gynnar nac yn gynhwysfawr. Fel y dywed cyn brif swyddog meddygol Cymru heddiw, mae’r don gynyddol o achosion yng Nghymru yn awgrymu efallai nad yw’r ymateb yng Nghymru wedi bod yn ddigon gofalus. Roedd gennych system goleuadau traffig, Brif Weinidog, ond mae'n edrych fel pe bai'r goleuadau wedi diffodd. Nid oedd unrhyw sôn am y system goleuadau traffig honno na'r map ffordd yn y datganiad ddoe. Ac os ydym am gymryd beirniadaeth y Fonesig Deirdre Hine o ddifrif, fel y dylem yn sicr, ni allwn fod yn llugoer wrth ymateb i ail don lawn o COVID mewn llawer o’n cymunedau, ac ni allwn ychwaith gael dull un maint addas i bawb o weithredu, gan nad yw hynny’n ystyried y map COVID dargyfeiriol o Gymru, fel y dywedasoch.
Lle mae angen mesurau arbennig, mae angen iddynt greu gwahaniaeth, nid pennawd. Arweiniodd yr amser cau o 10 p.m. ar gyfer tafarndai a bwytai a gyflwynwyd yn Antwerp i fynd i'r afael â chynnydd graddol mewn achosion o’r coronafeirws at ostyngiad parhaus ym mis Awst, ond fe’i cyflwynwyd ochr yn ochr â chyrffyw cyflawn, cyfyngiadau symud dros nos i bob pwrpas, o 11 p.m. ymlaen. Beth yw'r dystiolaeth y bydd y mesur a gyhoeddwyd neithiwr ar gyfer Cymru gyfan yn cael yr effaith rydych yn dymuno’i gweld? Lle mae gennym gyfyngiadau lleol ar waith yng Nghymru, dylem yn sicr fynd ymhellach—ymhellach o lawer—drwy gau tafarndai a chlybiau dros dro, neu'n gynharach o leiaf, gyda chymorth cysylltiedig sector benodol. Ac yn yr ardaloedd hyn, dylid cyfyngu ar werthiant alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn gynharach o lawer, i 6 p.m. neu 7 p.m., sef yr hwyraf y gellir prynu alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn Sweden.
Nid yw'r canllawiau ar deithio yn glir nac yn gyson ar hyn o bryd. Ar raglen Today y bore yma, dywedasoch nad oeddech yn atal pobl rhag mynd ar wyliau, ond mai'r apêl gyffredinol yw i bobl beidio â gwneud siwrneiau nad ydynt yn hanfodol. Sut y mae eu diffinio? A all pobl ymweld â'u teulu, gyrru i fannau prydferth, i'r dafarn, neu deithio yn y car i chwarae rownd o golff? Mae'n ben-blwydd arnaf heddiw, Brif Weinidog, ac roeddwn yn bwriadu mynd gyda fy mhartner i fwyty lleol—a ddylwn i ganslo nawr? Dyma'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i’w hunain ledled Cymru. Yn amlwg, mae'n gwneud synnwyr i roi'r gorau i deithio o ardaloedd risg uchel, ond mae'n rhaid i hynny gynnwys ardaloedd nad ydynt yng Nghymru. Ni allwch fynd i Ddinbych-y-pysgod o Flaenau Gwent, ond gallwch fynd yno o Bolton.
Nawr, mae cyfyngiadau symud cenedlaethol yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn awyddus i’w hosgoi. Os oes ffenestr, mae'n rhaid i ni fanteisio arni nawr, yn ddi-oed a chyda chamau llym wedi’u targedu, wedi’u hategu gan strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr, a ddylai gynnwys adfer cynadleddau newyddion dyddiol. Dylai Gweinidogion fabwysiadu'r dull Gwyddelig clir ond addasadwy, sy'n cynnwys cymhwyso pum lefel ar sail leol. Mae'n bryd troi'r system goleuadau traffig honno yn ôl ymlaen, Brif Weinidog, cyn y bydd Cymru gyfan yn fflachio'n goch unwaith eto.