1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 23 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:45, 23 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, cododd Andrew R.T. Davies bwynt teg gyda mi ddoe ynglŷn â gwneud datganiad i’r Senedd cyn gynted ag y bo modd i mi wneud hynny. Dywedais yn fy ateb iddo bryd hynny na allwn warantu y byddai’r holl benderfyniadau angenrheidiol wedi’u gwneud mewn pryd i wneud datganiad o’r fath tra bo’r Senedd yn dal i eistedd ddoe.

Mae'r penderfyniadau a wnawn drwy'r amser yn Llywodraeth Cymru yn benderfyniadau hollbwysig sy'n cael effaith ar fywydau cymaint o'n cyd-ddinasyddion. Roedd y penderfyniadau hynny’n dal i gael eu gwneud yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn ymddiheuro am ddod gerbron y Senedd am 1.30 p.m. heddiw, gan mai dyma’r cyfle cyntaf y gallaf adrodd i chi am benderfyniadau a gafodd eu gwneud ddoe, ac a gafodd eu gwneud mewn ymgynghoriad â'n partneriaid a chyda'r difrifoldeb y byddai Aelodau o'r Senedd yn disgwyl inni ei arfer mewn cyfnod anodd a heriol dros ben.

Wedi dweud hynny, rwy'n fwy na pharod i ymateb i'r pwyntiau eraill y mae Andrew R.T. Davies wedi’u gwneud y prynhawn yma. Rydym yn adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos. Nid yw hynny'n wir ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Golyga hynny ein bod yn gallu gweithredu'n gyflym ac yn hyblyg wrth i amgylchiadau newid. Er fy mod yn ofni y bydd nifer o'r mesurau cenedlaethol y bu'n rhaid inni eu rhoi ar waith yn para am rai wythnosau neu fisoedd hyd yn oed o bosibl, nid wyf am roi terfyn amser artiffisial ar ba mor hir y byddant yn para, gan y byddwn yn eu hadolygu bob tair wythnos a byddwn yn rhoi gwybod bob tair wythnos i'r cyhoedd yng Nghymru ac i'r Senedd i ba raddau y maent yn dal i fod yn angenrheidiol. A phe baem yn y sefyllfa ffodus o allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhen llai na chwe mis, dyna fyddwn i'n hoffi ei weld, a dyna'r ffordd rydym wedi mynd i'r afael â'r mater hwn drwy gydol yr argyfwng a dyna sut rwy’n bwriadu parhau i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn.

O ran y boblogaeth sy'n gwarchod, ni chafwyd trafodaeth yng nghyfarfod COBRA ddoe—dim cyngor newydd i unrhyw un o Lywodraethau'r DU ynglŷn ag ailddechrau gwarchod. Mae gwarchod yn gam sy'n gallu achosi niwed yn ogystal â chynnig diogelwch. Gwyddom fod llawer o'r bobl y gwnaethom ofyn iddynt hunanynysu yn y ffordd honno wedi dioddef unigedd ac effaith ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Gwn fod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ystyried ysgrifennu eto at yr holl bobl sy'n parhau i fod ar ein rhestr warchod yng Nghymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a rhoi cyngor pellach iddynt. Ond nid yw dychwelyd yn gyfan gwbl i'r sefyllfa a oedd gennym yn gynharach yn y flwyddyn o dan ystyriaeth ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig hyd y gwn i. Byddwn yn parhau i adolygu hynny’n ofalus iawn hefyd.

O ran y terfyn amser o 10 o’r gloch, cefais fy nylanwadu yn y trafodaethau, a aeth rhagddynt tan yn hwyr y nos, fel y dywedais, gan wybodaeth roeddwn yn ei chael o'r sector lletygarwch, yn enwedig y bwytai sydd wedi gweithio’n galed i roi model busnes ar waith yng Nghymru lle gallant gael dau grŵp o bobl mewn bwyty gyda'r nos: y grŵp cyntaf am 7 o'r gloch yr hwyr, seibiant ar gyfer y gwaith glanhau a’r mesurau diogelwch coronafeirws angenrheidiol, ac yna set arall o bobl sy'n dod i'r bwyty rhwng 8.30 a 9 o'r gloch yr hwyr. Gallem fod wedi cael sefyllfa yng Nghymru lle byddai gofyn i holl bobl adael am 10 o'r gloch a sefyll ar y palmant. Credaf y byddai hynny wedi achosi niwed gwirioneddol i'r model busnes y mae pobl wedi gweithio mor galed i'w roi ar waith.

A phob tro y gwnawn y penderfyniadau hyn, rydym yn cydbwyso anghenion pobl yn y byd busnes ac mewn gwaith â'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Credaf fod y sector wedi hen arfer â pheidio â chaniatáu i bobl ymddwyn yn anghyfrifol yn yr ychydig funudau cyn iddynt gau am 10 o'r gloch. Bydd ein system yn caniatáu i bobl orffen eu diodydd, gorffen eu bwyd, dod â'u noson i ben a gwneud eu ffordd adref. Dyna'r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd allan am noson yma yng Nghymru yn ymddwyn yn barod. Nid oeddwn yn dymuno gwneud eu bywydau’n anoddach wrth inni barhau i fynd i’r afael â’r lleiafrif o bobl yng Nghymru sydd, wrth i'r noson fynd yn ei blaen, wedi bod yn yfed alcohol i'r fath raddau fel na allant gofio ble maent wedi bod, a phwy y maent wedi'u cyfarfod, ac sydd, drwy hynny, yn achosi effaith gwbl anghymesur ar eraill.

Yn ein cyfarfod neithiwr, buom yn trafod, wrth gwrs, a oedd angen dull rhanbarthol yng Nghymru bellach. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn; roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r holl asiantaethau a roddodd amser i'w fynychu. Fel y dywedais yn fy natganiad, Lywydd, y farn gyffredinol oedd nad ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto, fod gan yr awdurdodau lleol fesurau lleol y gallant eu rhoi ar waith ochr yn ochr â'r mesurau cenedlaethol newydd a amlinellais yn fy natganiad i'r Aelodau. Ond roedd y pwyslais hefyd ar yr angen inni gadw llygad ar y ffigurau, gan roi camau ar waith ar unwaith os oes angen, ac os bydd angen camau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ni fyddwn yn oedi rhag eu cymryd.

Gadewch i mi gadarnhau'r pwyntiau pwysig a wnaeth Andrew R.T. Davies ynglŷn â’r GIG yn parhau ar agor. Mae cymaint o waith caled wedi’i wneud yn y GIG i greu mannau diogel rhag COVID-19, i roi mesurau diogelwch newydd ar waith fel y gall pobl sydd angen triniaethau ar gyfer cyflyrau eraill deimlo’n hyderus wrth ddod i’w cael, a dyna’n sicr yw’r neges gan y GIG yng Nghymru. Os oes angen triniaeth arnoch, cofiwch fod y GIG yn dal yno i chi yng Nghymru.

Yn olaf, ar bwynt Andrew R.T. Davies ynglŷn â myfyrwyr, mae'n llygad ei le; pan fo pobl 18 oed yn mynd i'r brifysgol, mae'n antur wych yn eu bywydau. Yn anffodus, bydd yr antur honno'n wahanol iawn eleni. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru i sicrhau y bydd y myfyrwyr sy'n dod o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac o dramor yn dal i gael profiad cystal ag y gallwn ei roi iddynt, er bod angen iddynt hwythau chwarae eu rhan yn cadw eu hunain yn ddiogel a pheidio â chreu risgiau diangen i bobl eraill yn yr ardaloedd y byddant yn byw ynddynt, ac yn anochel, bydd ganddynt eu pryderon eu hunain ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.