2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 23 Medi 2020.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb hydref 2020? OQ55560
Ers dechrau'r pandemig, cafwyd saith cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr ymateb cyllidol i'r argyfwng, cyllideb hydref Llywodraeth y DU a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y ffordd.
Diolch am eich ateb. Ond ar ddechrau pandemig COVID-19, capiodd Llywodraeth Cymru y cynllun cymhwysedd ar gyfer seibiant ardrethi busnes a hepgor pob safle manwerthu, lletygarwch a hamdden gyda gwerth trethadwy o fwy na £0.5 miliwn. Ac roedd dull wedi'i dargedu o'r fath yn galluogi Llywodraeth Cymru i ychwanegu £100 miliwn at y gronfa cadernid economaidd a helpodd, yn ei thro, i ddiogelu miloedd o swyddi a chefnogi miloedd o fusnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni ddigwyddodd hynny yn Lloegr, ac nid oes ganddynt gronfa cadernid economaidd gyfatebol, felly roedd llawer o'u busnesau ar eu colled. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog, pan fyddwch yn cael eich cylch o drafodaethau gyda Changhellor y DU, a wnewch chi ofyn iddo fabwysiadu ymateb wedi'i dargedu'n well yng nghyllideb yr hydref er mwyn achub y swyddi a'r busnesau sydd fwyaf mewn perygl mewn cynllun dal popeth, lle mae gennych sefyllfa sydd wedi golygu bod archfarchnadoedd mawr, a welodd eu helw'n cynyddu, wedi elwa ar draul y busnesau llai hynny?
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwn ac am ei phryder parhaus ac amlwg am fusnesau bach a chanolig eu maint, yn enwedig, rhaid imi ddweud, yn y rhannau mwy gwledig o Gymru. Ac mae Joyce yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad at y pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi data yn ddiweddar sy'n dangos bod 34 y cant o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o gymorth, o'i gymharu â 21 y cant yn yr Alban a 14 y cant yn Lloegr. Felly, mae hynny'n dangos yn glir y gwerth ychwanegol y mae datganoli wedi'i gyfrannu at yr ymateb i'r argyfwng hwn.
Ac unwaith eto, mae Joyce yn iawn fod arnom angen dull o weithredu sy'n targedu'n llawer gwell yn awr, wrth inni symud i'r cam nesaf o fynd i'r afael â'r argyfwng, gan edrych yn benodol ar y sectorau mewn cymdeithas sydd wedi dioddef yn fawr ac sy'n parhau i ddioddef o ganlyniad i'r argyfwng. Mae lletygarwch a thwristiaeth, er enghraifft, yn amlwg, fel y mae awyrofod—nododd Jack Sargeant y sector hwnnw yn y Siambr ddoe ddiwethaf—ac wrth gwrs, y diwydiant modurol, y diwydiant dur ac yn y blaen—yr holl ddiwydiannau sy'n gwbl hanfodol i Gymru, a'r diwydiannau y mae gennym gyfran uwch ohonynt nag mewn mannau eraill yn y DU. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd y byddaf yn parhau i bwyso am ddull wedi'i dargedu'n well wrth inni symud drwy ein hymateb i'r argyfwng.
Weinidog, rwy'n chwilio am fanylion gennych am yr hyn rydych yn ceisio'i sicrhau ar ffurf symiau canlyniadol pellach yn y gyllideb o wariant ar addysg bellach. Mae'n amlwg y bydd addysg bellach yn un o'r sectorau rydym yn dibynnu arno i'n helpu i ymadfer ar ôl COVID, er mai mater i Weinidog arall yw'r pwysau penodol wrth gwrs, ac er mor dda yw ei gael, dim ond yn rhannol y mae'r £23 miliwn a ddaeth o gronfa COVID Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y toriad o £47 miliwn i'r gyllideb addysg, toriad a achoswyd er mwyn helpu i fwydo'r pot COVID hwnnw, ac nid yw'n adlewyrchu'n llwyr y symiau canlyniadol COVID ychwanegol gan Lywodraeth y DU. A wnewch chi ymrwymo i ddweud yn glir ble y cafwyd symiau canlyniadol ar gyfer addysg bellach o ganlyniad i gyllideb yr hydref, a dweud yn glir hefyd inni allu gweld a yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i swm net sydd yr un fath, yn fwy, neu'n llai?
Rwy'n hapus iawn i fod yn hynod dryloyw ynglŷn â'r data ar symiau canlyniadol a gawn gan Lywodraeth y DU. Felly, yn ddiweddar iawn ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid yn rhoi manylion diweddaraf y symiau canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael, ac mewn perthynas â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wario. Er hynny, rwy'n gwneud y pwynt, wrth gwrs, nad cangen weinyddol o Lywodraeth y DU yw Llywodraeth Cymru, ac mae'r arian a ddaw o ganlyniad i symiau canlyniadol yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â phwysau penodol ar Gymru a blaenoriaethau a phryderon Cymreig. Ychwanegaf hefyd ein bod wedi gallu negodi cytundeb gyda Thrysorlys y DU y byddem yn cael symiau canlyniadol cyn y cyhoeddiadau a wnaed dros y ffin yn Lloegr. Felly, mae cyfanswm ein symiau canlyniadol hyd yma wedi bod yn £4 biliwn, ond nid ydym yn gwybod eto ar gyfer beth y mae rhan o'r symiau canlyniadol hynny, ac roedd hynny'n rhywbeth y bu'n bosibl i ni ei negodi am ei fod yn ein galluogi ni yng Nghymru i ddarparu cyllid ychwanegol i iechyd, cyllid ychwanegol i lywodraeth leol, i roi sicrwydd iddynt a'u galluogi i gynllunio, yn hytrach nag aros am bob cyhoeddiad bach gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny wedi bod yn enghraifft dda iawn o weithio da rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EM, er fy mod yn credu bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto i gael yr hyblygrwydd a geisiwn.
Weinidog, mae 2020 wedi amlygu pa mor agored i niwed yw ein heconomi mewn gwirionedd—agored i COVID ac agored i hinsawdd sy'n newid. Nid ydym yn barod o gwbl ar gyfer ymdopi â'r fath sioc i'n systemau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at liniaru risgiau pandemig yn y dyfodol a'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd?
Rwy'n ddiolchgar iawn i Caroline am nodi, er inni fod yn ymdrin â phandemig sydd wedi mynnu ein holl sylw mewn cynifer o ffyrdd, nad yw problem enfawr newid yn yr hinsawdd wedi diflannu, ac yn sicr, rhaid inni barhau i fynd i'r afael â'r broblem honno. Felly, wrth inni barhau i fynd i'r afael â phen acíwt y pandemig, rydym yn rhoi cryn dipyn o ffocws hefyd ar edrych ymlaen at yr adferiad a'r ailadeiladu. Ac mae'r trafodaethau rydym yn eu cael ar draws y Llywodraeth wedi'u fframio'n bendant gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond gyda ffocws penodol ar sut y gallwn greu adferiad gwyrdd a theg.
Gwn fod Jeremy Miles wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros yr haf yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru i ddeall yn well y pryderon a'r syniadau sydd i'w cael, a bydd yn sôn mwy am y camau penodol y byddwn yn eu cymryd tuag at yr adferiad hwnnw maes o law. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fod yr agenda datgarboneiddio, yr agenda werdd, yn ganolog i hynny.