16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:26 pm ar 29 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 7:26, 29 Medi 2020

Dwi'n anghytuno gyda'r hyn ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, oherwydd y prif neges gen i i'r Llywodraeth ar y fframwaith datblygu cenedlaethol yw bod amgylchiadau nawr yn mynnu, yn fy marn i, fod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl ac yn ailedrych ar y fframwaith yng ngoleuni, wrth gwrs, y pandemig. Oherwydd rŷm ni wedi cyrraedd y pwynt yma, ac mae wedi cymryd amser maith i gyrraedd y pwynt yma—dwi'n gwerthfawrogi hynny—ond mae hynny wedi digwydd heb fawr ddim ystyriaeth o effaith hirdymor y pandemig ar ein bywydau ni. Ac, yn wir, rydym ni'n dal i ddysgu ac yn dal i sylweddoli rhai o'r impacts yna, ac, yn wir, mi fydd yna eraill dros y misoedd nesaf, mae'n debyg, nad ydym ni wedi eu rhagweld ac, felly, mae angen i hynny gael ei bwyso yn llawn. 

Rydym ni'n gwybod bydd mwy o bobl yn gweithio o adref a bydd hynny'n golygu y bydd yna lai o bobl yn teithio i'r gwaith, ac mi fydd yna oblygiadau mwy pellgyrhaeddol i rai sectorau na'i gilydd yn hynny o beth. Mae isadeiledd digidol a band eang yn mynd i fod yn llawer mwy allweddol yn y dyfodol. Mae datblygiadau dwysedd uchel—high-density developments—wrth gwrs, yn mynd i gael eu gweld nawr fel rhywbeth sy'n cyflymu pandemics ac, felly, yn llai atyniadol ac, yn sicr, yn llai dymunol o fewn polisi cynllunio. Mae ansawdd tai yn fwy allweddol nag erioed, wrth gwrs, o safbwynt iechyd. Mae pwysigrwydd mynediad i lecynnau gwyrdd, parciau cyhoeddus a gerddi preifat hefyd yn fwyfwy pwysig. A gyda llai o draffig, wrth gwrs, mi fydd yna fwy o bwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond mae yna heriau newydd yn hynny o beth hefyd i geisio adennill hyder y cyhoedd pan mae'n dod i reoli heintiau. Mae gan hyn i gyd oblygiadau o ran y fframwaith datblygu cenedlaethol.

Ac mae yna oblygiadau hefyd o ran cyfiawnder cymdeithasol, wrth gwrs, oherwydd petai'r Llywodraeth yn mabwysiadu agwedd laissez-faire mi fyddai fe, dwi'n meddwl yn dwysáu problemau o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Oherwydd pobl â'r modd, pobl â'r cyfoeth, sy'n gallu, efallai, dewis gweithio gartref fel opsiwn haws, fydd yn gweld, wedyn, ardaloedd gwledig yn fwy atyniadol na bywyd trefol. Mi fydd hynny'n cael effaith ar y boblogaeth yn symud yng Nghymru a thu hwnt, ac felly mae yna oblygiadau, fel rydym ni wedi trafod yn ddiweddar yn y Senedd, ynglŷn â phobl yn cael eu prisio allan o'u cymunedau. Ac mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn sôn am bwysigrwydd cymunedau oed cymysg mewn ardaloedd gwledig. Wel, mae hynny yn ei hunan, felly, yn golygu bydd yn rhaid inni ailedrych ar rai agweddau.

Dwi wedi clywed y Gweinidog yn dweud ein bod ni wedi symud o dri rhanbarth i bedwar, ac mae hynny yn well, ond, wrth gwrs, dyw'r ddogfen ddim yn cydnabod rhanbarth Arfon, y mae Plaid Cymru yn ei arddel, wrth gwrs, ac mae Llywodraeth Cymru hefyd, gyda llaw, wedi ei gefnogi gyda chyllideb i gychwyn y gwaith o ddatblygu'r cysyniad a'r endid yna. Dwi'n meddwl ei fod e'n gamgymeriad i hepgor hwnnw yn y cynllun fel ardal, wrth gwrs, sydd â'i heriau a'i chyfleoedd unigryw, penodol ei hun ar hyd y cyrion gorllewinol, a byddwn i'n dymuno gweld hynny yn cael ei gywiro yn y fframwaith terfynol. 

O ran rhanbarth y gogledd—ac mi wnaf i fod ychydig yn blwyfol fan hyn—dwi'n teimlo fod yna anghydbwysedd ar draws y gogledd. Mae'n berffaith iawn, wrth gwrs, fod yna ffocws ardal twf yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Does gyda fi ddim problem gyda hynny. Ond mae gweddill y gogledd, draw i Fangor, Caernarfon a Chaergybi, yn cael ei ddynodi â rhyw rôl is-ranbarthol i ategu'r ardal twf yn y gogledd-ddwyrain. Dwi ddim yn siwr pa mor ymarferol yw hynny. Oni ddylem ni fod yn rhoi ffocws ar dwf y gogledd-orllewin ei hun, yn hytrach na'i fod yn is-ranbarth i'r dwyrain? Ac, wrth gwrs, mae cyfeiriad at Wylfa yn y ddogfen. Wel, mae'r elfen yna wedi newid yn sylweddol nawr, wrth gwrs, gyda'r ansicrwydd ynglŷn â'r datblygiad yn fanna, ac felly, yn amlwg, mae hwnnw'n rhywbeth y byddai'n rhaid i'r Llywodraeth ymateb iddo fe. Dwi'n gwybod bydd rhai pobl yn awyddus i sicrhau bod Wylfa yn dal i ddigwydd, ond mae'n rhaid, dwi'n meddwl, i'r cynllun yma nawr adlewyrchu'r posibilrwydd bod yn rhaid edrych ar ddatblygiadau amgen hefyd, er mwyn sicrhau nad ydym ni jest yn aros ac yn aros am rywbeth, efallai, na fydd byth yn digwydd.

Ar ynni yn ehangach, wrth gwrs, dwi yn falch bod technoleg ynni gwynt a solar yn cael eu gwahanu, ond dwi'n dal yn poeni ynglŷn â'r approach gofodol yma sydd wedi cael ei bennu, a hynny, fel dwi wedi ei godi o'r blaen, ar sail amheus, dwi'n meddwl, sy'n golygu bydd llai na 5 y cant o'r ardaloedd sydd wedi cael eu hasesu rhagblaen—y pre-assessed areas yma—dim ond tua 5 y cant ohonyn nhw y bydd modd datblygu arnyn nhw mewn gwirionedd.

Mae'n dal gen i gwestiynau, ond dim amser, wrth gwrs, i fynd ar ôl pethau megis y weledigaeth ehangach i ardaloedd gwledig, a'r iaith Gymraeg yn y cynllun tai fforddiadwy. Fyddwn i ddim yn meindio sôn mwy am hynny. Dwi'n croesawu ac yn diolch i'r Llywodraeth am y cyfle i gael y ddadl yma. Dwi'n siomi braidd bod e'n digwydd mor fuan ar ôl gosod y fframwaith datblygu ar ei newydd wedd, oherwydd mae'n ddogfen sylweddol ac mae gorfod ei drafod e mewn dadl ddyddiau ar ôl iddo fe gael ei osod, efallai, dwi'n meddwl, braidd yn annheg. Ond dwi yn falch bod y pwyllgor newid hinsawdd yn mynd i fod yn craffu yn fanylach ac y bydd modd, gobeithio, ar gefn adroddiad y pwyllgor hwnnw, i ni gael dadl bellach fan hyn yn y Senedd er mwyn gwyntyllu rhai o'r materion mwy manwl dwi am weld y Llywodraeth yn eu cywiro ac yn eu newid cyn y medraf i gefnogi'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma.