Part of the debate – Senedd Cymru am 7:38 pm ar 13 Hydref 2020.
Mae'n bleser dilyn David Melding yn y ddadl hon. Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond nid ydym ni'n credu bod y Llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell. Rydym ni, wrth gwrs, yn cymeradwyo argymhellion adroddiadau'r pwyllgorau, ac yn diolch i Gadeirydd a chlercod y pwyllgorau am eu cefnogaeth wrth gasglu'r dystiolaeth a arweiniodd at ein hargymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Mae gwerth mewn tynnu sylw, fel y mae David Melding newydd ei wneud, at y ffaith bod y Bil yn diwygio Deddf nad yw wedi ei gweithredu eto, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Ac fel y mae'r pwyllgor wedi ei nodi hefyd, mae bod â'r bwlch sylweddol hwn rhwng Bil yn dod yn gyfraith ac yn cael ei weithredu yn anarferol ac yn destun gofid. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth eleni, y wers yw nad yw diffyg gweithredu a syrthni gan y Llywodraeth yn arwain at wasanaeth cyhoeddus da, ac rwy'n gobeithio bod y wers honno wedi ei dysgu o'r profiad. Ond nodyn sur yw hwnnw ac rwy'n gobeithio bod yn fwy cadarnhaol yn rhai o'r sylwadau hyn.
Mae'n amlwg, er bod y Bil yn ymestyn y cyfnod cyn caniatáu troi allan heb fai, ei fod yn cynrychioli newid barn gan y Llywodraeth, oherwydd fe wnaeth y Prif Weinidog presennol, wrth gwrs, addo gwaharddiad llwyr yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni, fel Plaid Cymru, yn dymuno dychwelyd ato mewn cyfnodau diweddarach. Mae'r cyfnod rhybudd estynedig yn ddechrau, ac mae'r Llywodraeth wedi cyfiawnhau ymestyn y cyfnod i chwe mis gan nad oedd y ddau fis o rybudd blaenorol yn ddigon o amser i denantiaid sicrhau llety amgen yn yr un gymuned neu ardal â'r ysgol y mae eu plentyn yn ei mynych. Nid yw'n ddigon o amser i drefnu newidiadau i becynnau gofal, i gynilo i dalu costau symud a chynllunio ar gyfer symud o amgylch bywydau bob dydd tenantiaid, gan gynnwys ymrwymiadau cyflogaeth a theuluol.
Nawr, rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf yn y fan yna yw'r mwyaf argyhoeddiadol o bosibl: pam ddylai addysg a datblygiad personol unrhyw blentyn gael eu haberthu? Oherwydd, yn rhy aml yn y wlad hon, rydym ni'n ystyried eiddo fel buddsoddiad ac yn rhoi blaenoriaeth i hawliau landlordiaid dros hawliau plant i fwynhau plentyndod sefydlog. Mae chwe mis yn welliant—mae'n gwarantu, i bob pwrpas, denantiaeth am flwyddyn—ond byddwn i'n dal i gwestiynu a fyddai hynny yn ddigon o amser bob amser. Mewn ardaloedd gwledig, neu yng nghymunedau'r Cymoedd, mae prinder llety addas yn aml. Felly, mae'n bosibl na fyddai hyd yn oed chwe mis o rybudd yn ddigon o amser i deulu ddod o hyd i eiddo arall sy'n galluogi ei blentyn i aros yn yr un ysgol.
Llywydd, mae angen gwirioneddol i ni roi'r ddeddfwriaeth hon yn ei chyd-destun. Os caiff ei phasio heb ei diwygio, bydd tenantiaid yng Nghymru yn parhau i gael llai o amddiffyniad rhag troi allan heb fai nag yn yr Alban ac, yn wir, yn Lloegr, lle mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gwaharddiad llwyr ar droi allan heb fai. Mewn gwirionedd, y cwestiwn yw: pam newid meddwl? Mae'r Llywodraeth wedi dweud y byddai gwaharddiad llwyr yn torri hawliau dynol, ond, os yw hynny'n wir, pam nad oes unrhyw gymdeithasau landlordiaid cyfoethog wedi dwyn Llywodraeth yr Alban i'r llys?
Nawr, mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y dylai landlordiaid allu cael eu heiddo yn ôl, er enghraifft, os mai dim ond un eiddo y maen nhw'n berchen arno a'u bod yn wynebu digartrefedd eu hunain. Nawr, o dan yr amgylchiadau hynny, wrth gwrs y byddem ni eisiau amddiffyniad, ond bydd amrywiaeth o resymau eraill o hyd lle gallai landlord gymryd y camau hyn. Y cyfan yr ydym ni eisiau ei weld yw bod gan denant da sy'n talu rhent ac yn gofalu am yr eiddo ei hawl i fywyd teuluol sefydlog wedi ei warchod, ac nad yw pedwar mis ychwanegol o amddiffyniad rhag troi allan heb fai yn mynd yn ddigon pell ar gyfer hynny. Dylem ni roi terfyn ar droi allan heb fai, fel yr addawodd y Prif Weinidog. Dylem ni fod â pholisi o gefnogi tenantiaid i fod yn berchnogion cartrefi trwy sefydlu dulliau er mwyn iddyn nhw allu prynu'r cartref oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad, a hefyd ariannu cymdeithasau tai i gymryd eiddo oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad. Oherwydd, mae hyd yn oed cymdeithasau'r landlordiaid yn cytuno y dylem ni fod yn cael gwared ar landlordiaid gwael, ac yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf rydym ni wedi gweld gormod o landlordiaid gwael. Ac mae'n rhaid rhoi terfyn ar y canfyddiad, a gaiff ei annog gan y cyfryngau, fod eiddo yn ffordd o wneud arian yn gyflym. Cartref rhywun yw tŷ yn bennaf oll; ni ddylid ei ystyried yn ased, yn ffordd o gronni cyfoeth, yn enwedig nid yn sgil tlodi pobl eraill.
Felly, mae llawer yn y Bil hwn yr ydym ni yn ei groesawu, ond mae llawer mwy yr hoffem ni weld y Llywodraeth yn ei wneud a byddwn ni'n pwyso am hyn yn y cyfnodau diweddarach. Diolch.