Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 13 Hydref 2020.
Fel yr wythnos diwethaf, mi fyddwn ni'n atal pleidlais ar un o'r rheoliadau heddiw, a hynny am yr un rheswm. Wythnos yn ôl, mi oeddem ni'n trafod cyfyngiadau ar draws nifer o siroedd yn y de. Mi ddywedais i a sawl Aelod arall, yn cynnwys Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, fod y sefyllfa yn annerbyniol, dwi'n meddwl, lle rydyn ni'n cael cais i gymeradwyo rheoliadau sy'n gosod cyfyngiadau ar ardaloedd heb gael gweld data sydd yn rhoi darlun digon cynhwysfawr inni allu dod i benderfyniad ynglŷn â phriodoldeb y rheoliadau hynny. Ac er bod y Llywodraeth wedi cael bron wythnos wedyn i ymateb i hynny, yn anffodus mi fethwyd â rhoi y math yna o ddata manwl i'r pwyllgor deddfwriaeth unwaith eto ac i ninnau fel deddfwyr ar gyfer y set nesaf o reoliadau yma rydyn ni'n eu trafod heddiw yn ymwneud â phedair sir yn y gogledd.
Rydyn ni, wrth gwrs, yn cydnabod bod y sefyllfa yma yn eithriadol a bod yna amgylchiadau lle mae angen i'r Llywodraeth weithredu drwy osod cyfyngiadau neu gyflwyno rhyw newidiadau brys eraill mewn ffordd sy'n symud yn gynt na mae'r broses graffu normal yn gallu digwydd. Dyna pam rydym ni fel Senedd wedi cytuno i'r dull cyffredinol yma o weithredu, ond, yn gyntaf, mae'n rhaid i'r Llywodraeth drio sicrhau bod y craffu yn gallu digwydd mor gyflym â phosib—pwynt rydyn ni wedi ei wneud o'r blaen. Ond, yn ail, mae'n rhaid iddyn nhw ein harfogi ni fel y rhai sydd yn gwneud y craffu efo'r data y maen nhw yn ei ddefnyddio i ddod i'w penderfyniadau nhw. Yn yr achos yma, gofyn yn syml ydyn ni am ddata manwl ynglŷn â lle mae achosion o COVID, lle mae yna glystyrau, beth ydy'r patrymau, lle mae'r ardaloedd o risg uwch, a hynny er mwyn inni allu penderfynu ydyn ni'n cytuno bod y targedu yn digwydd mor fanwl ag y gall o. Felly, ymatal fyddwn ni eto ar welliant Rhif 16.
A thra fy mod i'n sôn am yr angen i rannu data a chyfathrebu efo ni fel Senedd, gaf i bwysleisio'r rhwystredigaeth dwi'n ei chlywed gan gynrychiolwyr lleol—nid dim ond Aelodau'r Senedd, gyda llaw, ond ar lefel llywodraeth leol hefyd—fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyfathrebu yn well ynglŷn â rhesymeg cyfyngiadau, y data, y cefndir, y goblygiadau, nid dim ond er ein mwyn ni, a hwyluso ein gwaith ni, ond fel ein bod ni'n gallu cyfathrebu yn well ac ateb cwestiynau ein hetholwyr ni? Oes, mae yna alwadau ffôn wedi bod yn dod gan y Gweinidog, ar y funud olaf yn reit aml, ond dwi yn gofyn am ddatblygu protocols ynglŷn â sut i rannu gwybodaeth, pa wybodaeth i'w rhannu, pryd i'w rhannu, ac ati, achos mae cyfathrebu yn rhan bwysig iawn, iawn o'r frwydr yn erbyn y feirws.
Ar yr ail set o reoliadau, wedyn, mi fyddwn ni'n pleidleisio dros hwn. Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi droeon fy mhryder am impact y pandemig yma ar lesiant pobl, ar unigrwydd, iechyd meddwl. Dwi'n clywed tystiolaeth ar lafar gan weithwyr iechyd sy'n poeni bod yna gynnydd mewn problemau iechyd meddwl, hunan-niweidio, hunanladdiad hyd yn oed. Beth sydd gennym ni yn y rheoliadau yma ydy caniatâd i bobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain mewn ardaloedd dan gyfyngiad uwch i ddod at ei gilydd i gael cwmni. Mae hynny'n dda, ond dwi yn gofyn i'r Llywodraeth ddod â strategaeth glir iawn i ni i ddangos bod llesiant yn ffactor gwbl ganolog i gamau'r Llywodraeth i geisio taclo'r feirws, achos mae yna fygythiadau yma i les pobl gan y feirws ei hun, ac mae yna fygythiad i les ac iechyd yn ehangach.
Yn olaf, o ran deddfwriaeth arall, rheoliadau eraill y byddem ni yn licio eu gweld, dwi'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu droeon erbyn hyn at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, ac dwi'n meddwl bod yr amser i lythyru wedi dod i ben: mae'r amser i weithredu wedi cyrraedd erbyn hyn. Er bod Prif Weinidog Cymru wedi penderfynu chwarae rhyw gêm unoliaethol od yn ymateb i Adam Price y prynhawn yma, mae ein pwynt ni fel plaid yn glir iawn: pa un ai o fewn Cymru neu rhwng gwahanol wledydd a'i gilydd, mae yna risg, ac dwi'n gwybod bod y Prif Weinidog yn cytuno â ni, mewn pobl yn teithio o ardal risg uchel i ardal risg llai. Rydyn ni'n meddwl y dylai fod yna gyfyngiad ar deithio. Mae'r cyfyngiad yn bodoli o fewn Cymru. Dydy o ddim yn bodoli o Loegr i Gymru, felly gofyn i chi sgwario'r cylch hwnnw ydyn ni ac i sicrhau bod yna gysondeb. Defnyddiwch y grymoedd sydd gennych chi.