Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:05, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, un o ganlyniadau COVID yw ein bod wedi gweld llawer o'n mannau trefol yn cael eu hail-lunio yn gyflymach nag ar unrhyw adeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf: systemau unffordd ar gyfer cerddwyr, parthau di-draffig, neu draffig yn cael ei gyfyngu beth bynnag. Rydym hefyd wedi gweld mwy o alw am lawer mwy o reoleiddio traffig mewn rhai mannau, ac mae dinasoedd eraill ledled y byd, fel Paris, yn dechrau gwahardd traffig, ac eithrio ar gyfer trigolion, o ardaloedd mawr felly mae mwy o fannau agored i blant chwarae ynddynt, er enghraifft. Mae hyn oll yn cael effaith fuddiol iawn ar ansawdd yr aer. A fyddwch yn cydweithredu â'ch cyd-Aelodau i sicrhau ymagwedd o'r fath fel rhan o'r cynllun aer glân yn y dyfodol, gan fod cynllunio ein hamgylchedd, ein mannau trefol, a llif ein traffig yn hanfodol i hyn?