Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:06, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Ie, rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth David Melding. Cyfeiriodd Dai Lloyd at y ffaith imi lansio’r cynllun ar strydoedd Caerdydd, ond fe’i lansiais ar Stryd y Castell, sydd yn amlwg wedi bod ar gau i draffig, ac roedd yn ddiwrnod braf iawn, ac roedd yn wych gweld teuluoedd allan yn mwynhau, yn defnyddio'r stryd honno mewn ffordd wahanol. Credaf eich bod yn llygad eich lle yn dweud mai un o’r manteision—mae'n debyg fod yn rhaid inni chwilio am fanteision i COVID-19—yw ein bod wedi gweld awdurdodau lleol yn ail-lunio eu hardaloedd mewn ffordd nad ydym wedi'i wneud o'r blaen.

Rwy'n sicr yn fwy na pharod i gael y sgyrsiau hynny gydag awdurdodau lleol. Rwy'n siŵr fod pob un ohonynt yn cyflwyno cynlluniau. Os ydym am gyflawni sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, dyma'r math o beth y mae'n rhaid i awdurdodau lleol edrych arno.