1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i bractisau meddygon teulu yn ystod pandemig COVID-19? OQ55721
Llywydd, diolchaf i Russell George am y cwestiwn yna. Mae ein hymateb i bandemig COVID-19 wedi golygu gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau meddygol cyffredinol. Mae buddsoddiad pellach yn y contract Gwasanaethau Cyffredinol wedi helpu meddygon teulu i baratoi a mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys gwasanaeth ymgynghori fideo cenedlaethol ym mhob meddygfa deulu yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Gwn y byddwch chi'n cytuno â mi bod meddygon teulu wedi ymateb yn gyflym ac yn hyblyg yn ystod y pandemig, ac ydym ni i gyd yn diolch iddyn nhw am hynny. Nawr, er gwaethaf hynny, yr hyn y mae meddygon teulu yn fy etholaeth i yn ei ddweud wrthyf yw bod meddygon teulu, er gwaethaf nifer o geisiadau drwy'r sianeli priodol, wedi cael eu gadael ar eu pennau eu hunain—dyma maen nhw'n ei ddweud wrthyf i—o ran cynllunio a threfnu ymgyrch ffliw eleni. Ac maen nhw'n dweud wrthyf i bod Llywodraeth Cymru wedi codi'r disgwyliadau ymhlith cleifion drwy hyrwyddo'r brechiad rhag y ffliw eleni, heb unrhyw fanylion ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni. A allwch chi, Prif Weinidog, fy sicrhau heddiw y bydd gan feddygon teulu ddigon o arian i ymdopi â phwysau'r gaeaf, ac y byddan nhw'n cael profion a chanlyniadau cyflym i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu arnyn nhw a'u timau ar lawr gwlad, ac y bydd unrhyw feichiau gweinyddu diangen yn cael eu gohirio, fel y gallan nhw barhau i ddarparu'r gofal o ansawdd uchel y maen nhw, wrth gwrs, yn ei ddarparu i gleifion?
Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn y mae Russell George wedi ei ddweud am y ffordd y mae gofal sylfaenol—meddygon teulu, ond contractwyr eraill hefyd—wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig hwn. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynorthwyo yn hynny, er gwaethaf y ffaith nad oedd meddygfeydd teulu, yn ystod chwe mis cyntaf y pandemig, yn gallu darparu'r gwasanaethau estynedig y maen nhw'n cael eu talu amdanynt drwy'r contract, ond talodd Llywodraeth Cymru iddyn nhw fel pe byddai'r gwasanaethau estynedig hynny yn cael eu darparu. Ac roedd hynny er mwyn rhoi sefydlogrwydd ariannol i'r meddygfeydd hynny yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Ac rwyf i wir eisiau talu teyrnged i'r ffordd y mae ein meddygfeydd teulu wedi croesawu'r posibiliadau technolegol newydd sydd wedi dod gyda'r pandemig: y system Attend Anywhere, y gwasanaeth ymgynghori fideo—cynhaliwyd dros 10,000 o ymgynghoriadau fideo mewn meddygfeydd teulu ledled Cymru erbyn hyn, ac mae hynny yn cael ei gefnogi gan gyllid i feddygfeydd i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cynnal y lefel honno o ddarpariaeth.
O ran brechu rhag y ffliw, Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n wych bod pobl eisiau dod ymlaen i gael eu brechu. Ond, mae brechlyn yn cael ei ryddhau o stoc pandemig y DU mewn cyfrannau, ac rydym ni wedi canolbwyntio, ar y camau cynnar, ar y rhai sydd dros 65 oed ac sy'n agored i niwed mewn ffyrdd eraill. Rydym ni wedi gwella'r taliad yr ydym ni'n ei roi i feddygon teulu—maen nhw'n cael £1.75 ychwanegol ar gyfer pob brechlyn ffliw y maen nhw'n ei roi. Rwy'n credu bod hynny bellach yn golygu eu bod nhw'n cael mwy na £12 am bob brechiad, ac mae Llywodraeth Cymru yn talu am gost y brechiad ei hun hefyd, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Cyhoeddwyd canllawiau pellach i feddygon teulu ar sut i gael gafael ar y stociau ychwanegol sy'n dod i'r DU ar 14 Hydref, a gobeithiaf y bydd hynny wedi bod o gymorth i'r rhai hynny sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r Aelod.
Prif Weinidog, mae'r pandemig hwn wedi cael effaith ddifrifol ar ofal sylfaenol, gan gyflwyno rhwymedigaethau a beichiau ychwanegol ar weithlu a oedd eisoes mewn trafferthion. Rydym ni'n gwybod bod angen i ni recriwtio mwy o feddygon teulu i ymdopi â llwythi gwaith mewn cyfnod normal, ond, wrth i ni ddechrau'r tymor annwyd a ffliw gyda COVID-19 yn dal i fod yn rhemp, bydd y pwysau yn aruthrol. Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod y gall technoleg chwarae rhan, a'i bod yn chwarae rhan, o ran lleihau'r pwysau hyn, felly pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint y mae telefeddygaeth ar gael ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru? Diolch.
Wel, diolch, Caroline Jones. Mae hwnna'n gwestiwn pwysig iawn, ac rwy'n credu, mewn cyfnod anodd dros ben, bod y ffordd y mae meddygfeydd teulu wedi gallu addasu i ymgynghoriadau dros y ffôn, i ymgynghoriadau fideo, wedi bod yn nodwedd wirioneddol o'r ymateb hwnnw. Ac rwyf i wedi bod yn siarad â nifer o bobl yn ddiweddar sydd wedi dweud wrthyf i pa mor hawdd oedd y gwasanaethau hynny i'w defnyddio, a sut na fydden nhw eisiau dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau yn cael eu darparu o'r blaen, pan fyddai wedi bod yn rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi, gwneud teithiau anodd, cael trafferth i barcio, eistedd mewn ystafell aros gyda phobl eraill sy'n sâl, er mwyn gwneud rhywbeth y gallan nhw ei wneud yr un mor foddhaol o'u cartrefi eu hunain erbyn hyn.
Agwedd arall, Llywydd, ar y ffordd y mae technoleg yn cynorthwyo ein cymuned meddygon teulu yw drwy'r ffaith bod gwasanaeth Consultant Connect ar gael erbyn hyn, sy'n golygu y gall meddygon teulu gysylltu yn uniongyrchol â meddyg ymgynghorol mewn gofal eilaidd os oes ganddyn nhw glaf o'u blaenau lle mae angen yr arbenigedd ychwanegol hwnnw arnyn nhw, y gall meddyg ymgynghorol mewn arbenigedd ei gynnig. Mae hynny wedi bod yn bwysig iawn mewn nifer o'n meddygfeydd teulu a gwn fod y meddygon teulu hynny sydd â'r cymorth ychwanegol hwnnw i'r arbenigedd y gallan nhw eu hunain ei gynnig, yn ei werthfawrogi.
Prif Weinidog, a gaf i gofnodi fy llongyfarchiadau i wasanaethau meddygon teulu yn ardal Pontypridd a Thaf-Elái am y ffordd y maen nhw wedi bod yn gweinyddu'r gwasanaeth brechu rhag y ffliw? Cefais ddwy neges destun, cefais alwad ffôn, a bûm yng nghanolfan hamdden Tonyrefail ar gyfer fy mrechlyn ffliw, a ddarparwyd fel belt cludo bron. Cymerodd tua dau funud i'r holl broses gael ei gweithredu, gyda llif parhaus o bobl leol, yn enwedig y gyfres gyntaf o bobl dros 65 oed. Er hynny, a gaf i godi'r pwynt yr wyf i'n credu y bydd nifer o Aelodau'r Senedd wedi ei grybwyll sef y bu rhai problemau o ran cyflenwadau? Clywais eich ateb yn gynharach, ac rwy'n meddwl tybed pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd cyflenwadau digonol o'r brechlyn i bawb a fyddai yn elwa mewn gwirionedd ar y brechlyn ffliw ar hyn o bryd, o gofio ei bwysigrwydd o ran y mater o gydafiachedd o ran COVID.
Wel, Llywydd, mae sylwadau agoriadol Mick Antoniw yn fy atgoffa i o sgwrs a gefais i ddoe ddiwethaf gyda pherson ifanc yng Nghaerdydd, a ddywedodd wrthyf ei bod wedi ffonio ei meddygfa deulu yn y bore, wedi cael ateb yn ôl gan y meddyg teulu cyn 9.30 a.m., anfonodd y meddyg teulu neges destun ati erbyn 9.45 a.m. ar gyfer ymgynghoriad fideo, cwblhawyd yr ymgynghoriad fideo erbyn 10 o'r gloch yn y bore, ac roedd popeth yr oedd ei angen ar y person ifanc yna gan ei gwasanaeth meddyg teulu wedi'i gwblhau o fewn 90 munud iddi wneud yr alwad ffôn wreiddiol. Rwy'n credu bod hynny yn wasanaeth rhyfeddol, ac roedd y person ifanc yna yn llawn canmoliaeth o'r ffordd yr oedd y cwbl wedi ei wneud ar ei ffôn, yn y ffordd y gall pobl ifanc ei wneud, ac yn sicr ni fyddai hi eisiau dychwelyd i'r ffordd yr oedd pethau o'r blaen.
O ran y stociau ychwanegol, bydd gennym ni dros 400,000 o frechlynnau ychwanegol yma yng Nghymru, o'u gymharu â'r cyflenwadau oedd gennym ni y llynedd. Nid ydyn nhw i gyd yn cyrraedd ar unwaith ac mae'n anochel bod rhywfaint o flaenoriaethu, lle mae'r cleifion hynny sydd mewn mwyaf o berygl yn ei gael yn gyntaf. Rydym ni'n lwcus iawn bod y ffliw mewn cylchrediad isel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, yn gynnar iawn, wrth gwrs, yn nhymor y ffliw. Rydym ni'n cyhoeddi monitor data wythnosol o gylchrediad y ffliw drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn yr wythnos gyntaf, yr wyf i'n credu oedd bythefnos yn unig yn ôl, hysbyswyd am ddau achos o'r ffliw yng Nghymru gyfan. Felly, mae'r rhaglen flaenoriaethu yn gweithio, mae'n gweithio yn unol â risg glinigol, a thros y gaeaf hwn ac i mewn i fis Rhagfyr, bydd brechlynnau ychwanegol sylweddol ar gael—digon i frechu 40 i 50 y cant ychwanegol o oedolion yng Nghymru, sy'n gallu cael brechiad am ddim yn y GIG eleni, o'i gymharu â'r carfannau oedran hynny yr oeddem ni'n gallu darparu gwasanaeth o'r math hwnnw iddyn nhw y llynedd.