Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch i'r Aelod am y cyfraniad pwysig iawn a newydd yna i'r ddadl ar y Bil hwn. Mae e'n iawn wrth ddweud bod y Bil hwn, yn ogystal â bod yn ymosodiad ar safonau y mae defnyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru wedi gallu dibynnu arnyn nhw ers blynyddoedd lawer, mae hefyd mewn gwirionedd yn ddarn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol gan ei fod yn ceisio gwrthdroi'r setliad datganoli mewn nifer o ffyrdd tyngedfennol. Rwy'n credu y gallwn ni weld hynny, yn rhinwedd y ffaith bod Llywodraeth y DU yn dymuno gwneud y Bil cyfan yn ddeddfiad gwarchodedig, sydd fel arfer yn gyfrwng sydd wedi ei gyfyngu i ddeddfwriaeth gyfansoddiadol. Rwy'n credu bod graddfa cyrhaeddiad y Bil hwn, felly, yn cael ei dangos hyd yn oed drwy'r ddarpariaeth honno yn unig.
O ran Statud San Steffan, rwy'n credu bod yr Aelod yn codi cwestiwn diddorol. Fe'n dysgir, fel cyfreithwyr cyfansoddiadol yn y DU, fod y Senedd yn sofran, ac felly ni all yr un Senedd rwymo ei holynydd. Ond mae'r statud hwnnw yn enghraifft pryd y byddai, mewn gwirionedd, yn annychmygol i'r Senedd geisio gweithredu'n groes iddo. Nawr, yn yr achosion hynny, y bwriad oedd sefydlu annibyniaeth y tiriogaethau hynny. Ond rydym ni wedi dadlau fel Llywodraeth am sail statudol ar gyfer rhai o'r diwygiadau yr ydym yn eu ceisio, a chredaf hefyd ein bod yn glir iawn ein bod wedi cyrraedd terfynau confensiwn Sewel, sy'n dweud nad yw Senedd y DU 'fel arfer' yn deddfu yn y maes hwn. Credaf fod achos i ni archwilio fformiwleiddio sy'n dweud mwy neu lai na fyddai byth yn deddfu yn groes i'r setliad datganoli. Byddai darpariaeth o'r fath yn golygu na fyddai'r darpariaethau cymorth ariannol ym Mil y farchnad fewnol, er enghraifft, yn dderbyniol wedyn. Rwy'n tybio bod cyfryngau fel Statud San Steffan yn gweithio orau pan fo'r setliad datganoledig ei hun yn ehangach na'n setliad ni, a chredaf fod hynny'n ychwanegu at yr achos dros gael cyfres lawnach o bwerau i'w harfer yma yng Nghymru.