Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:34, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Y rhan fwyaf sarhaus o'r Bil hwn, wrth gwrs, yw'r ffordd y mae'n sathru ein setliad cyfansoddiadol, ac yn gwneud hynny heb gydsyniad. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, wrth gwrs, o Statud San Steffan, a ddeddfwyd ym mis Rhagfyr 1931, a oedd yn rhoi annibyniaeth i'r hyn oedd y Dominiynau ar y pryd. A yw'n bryd, Cwnsler Cyffredinol, i ni gael statud San Steffan newydd, sy'n rhoi'r gwarantau cyfreithiol i ni na ellir diwygio ein cyfansoddiadau yn fympwyol nac fel y mynnir gan Lywodraeth nad yw'n poeni dim am ein democratiaeth na'n cyfansoddiad?