Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 20 Hydref 2020.
Byddwch yn ymwybodol, Gweinidog, bod dau gerddwr wedi eu lladd ar lwybrau tramwy cyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ôl dod i gysylltiad â da byw. Ers mis Mawrth 2000, mae 98 o bobl wedi colli eu bywydau yn yr un modd, ac mae llawer o rai eraill wedi eu hanafu wrth ddefnyddio'r llwybrau tramwy hyn. Nawr, mae pedwar grŵp—y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a'r Gynghrair Cefn Gwlad—wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Gardiner, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Bioddiogelwch, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw'r broses bresennol ar gyfer dargyfeirio llwybrau tramwy cyhoeddus yn barhaol yn rhoi digon o hyblygrwydd i ganiatáu newidiadau dros dro i lwybrau. Mae'r Gweinidog yn cael ei annog mewn gwirionedd i ddiwygio Deddf Priffyrdd 1980. Yn ôl y canllawiau i awdurdodau lleol ar lwybrau tramwy cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae nifer o ddarpariaethau yn y Ddeddf Priffyrdd yn dal i fod yn gymwys yma yng Nghymru. Felly, a fyddwch chi'n cysylltu â'r Arglwydd Gardiner, neu yn wir unrhyw swyddog cyfreithiol perthnasol arall yn Llywodraeth y DU, i weld a all Llywodraeth Cymru weithio i weithredu newidiadau i hwyluso'r broses ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr y mae angen iddyn nhw weithredu dargyfeiriadau dros dro yma yng Nghymru?